Chwe Gwlad: Cymru 24-19 Yr Alban
- Cyhoeddwyd
Mae Merched Cymru wedi ennill eu hail gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Yr Alban o 24 i 19.
Yr ymwelwyr aeth ar y blaen diolch i gais cynnar gan Lana Skeldon gafodd ei drosi gan Helen Nelson.
Fe gymrodd hi bron i ugain munud i Gymru ymateb. Ar ôl ennill y bêl yn y lein fe wthiodd y crysau coch eu ffordd tuag at linell yr Alban gyda'r bachwr Carys Phillips yn llwyddo i sgorio. Ychwanegodd Keira Bevan y ddau bwynt gyda throsiad.
Ar ôl 33 munud roedd yr Alban yn ôl ar y blaen pan fanteisiodd Rhona Lloyd ar ddryswch yn amddiffyn Cymru a chroesi'r llinell. Ychwanegodd Nelson at y cyfanswm gyda throsiad.
Fe waethygodd y sefyllfa i'r tîm cartre ychydig eiliadau cyn hanner amser pan gafodd Kerin lAkegerdyn melyn.
14-7 i'r Alban oedd hi ar yr egwyl.
Dechreuodd yr Alban yr ail hanner yn gryf gyda Rhona Lloyd yn sgorio ei hail gais yn y gornel.
Ond yna daeth adfywiad Cymru ar ôl i'r eilydd Sioned Harries ddod ar y maes i gymryd lle Natalia John yn y rheng ôl.
Buan iawn y gosododd Harries ei stamp ar y gêm ar ôl i Hannah Jones dreiddio ei ffordd i mewn tu hwnt i linell dwy a'r hugain yr Alban. Cafodd Jones ei thaclo ond roedd Harries yno i gasglu'r bêl rydd a chroesi'r llinell. Cafodd y cais ei drosi gan Bevan.
Yn fuan ar ôl awr o chwarae fe gryfhaodd sefyllfa merched Cymru pan gafodd Leah Bartlett ei hanfon i'r gell gosb am ddeng munud.
Gyda chwarter awr i fynd roedd hi'n 19-19 diolch i gais yr eilydd Kelsey Jones. Fe fanteisiodd Cymru ar absenoldeb Bartlett yn y sgrym a thasg hawdd oedd hi i'r bachwr durio'r bêl.
Pum munud oedd ar ôl ar y cloc pan sgoriodd y mewnwr Ffion Lewis o Hwlffordd gais buddugol Cymru ar ôl gwaith da gan Alisha Butchers.
24-19 i Gymru oedd hi ar y chwiban.
A yw Coron Driphlyg yn bosib tybed?