Dom James: Jamaica, Cymru y Frenhiniaeth a fi
- Cyhoeddwyd
Bu gwrthwynebiad chwyrn gan ymgyrchwyr o Jamaica i ymweliad y Frenhiniaeth i'r ynys ym mis Mawrth 2022.
Ar gyrhaeddiad Dug a Duges Caergrawnt yn y Caribî, wnaeth ymweld o flaen dathliadau'r jiwbilî eleni, bu protestiadau gan bobl Jamaica yn galw am ymddiheuriad ac iawndaliadau gan y Teulu Brenhinol am ei rôl mewn sefydlu caethwasiaeth yno yn yr 16eg ganrif.
Wrth i'r wlad agosáu at ddathlu 60 blynedd o annibyniaeth fel trefedigaeth yr Ymerodraeth Brydeinig mae nifer o bobl Jamaica eisiau gweld eu gwlad yn dilyn esiampl Barbados wnaeth ddod yn weriniaeth y llynedd.
Mae'r protestio wedi taflu goleuni ar hanes caethwasiaeth a choloneiddio Jamaica a pherthynas yr ynys gyda Prydain, yn cynnwys y miloedd o bobl gafodd eu hail-leoli oherwydd caethwasiaeth ac yn hwyrach o ganlyniad i Windrush rhwng 1948 a 1970, pan symudwyd hanner miliwn o bobl o ynysoedd y Caribî er mwyn ail adeiladu Ynysoedd Prydain wedi'r Ail Ryfel Byd.
Un sydd yn ddisgynnydd o Genhedlaeth Windrush ydi'r cyflwynydd a cherddor Dom James o Gaerdydd sydd, wrth fynd yn hyn, yn parhau i addysgu ei hun am hanes y wlad y ganwyd ei Dad, ei achau, ei hanes fel person a'i hunaniaeth fel Cymro-Jamaicaidd.
'Ddim yn gwybod unrhyw beth'
"Do'n i heb rili cael y siawns i archwilio ochr Jamaican fi pan o'n i'n ifanc," meddai Dom James, 24, sy'n gyn disgybl yn Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd.
"O'n i wastad yn teimlo rhyw link cryf i Jamaica achos doedd 'na ddim llawer o fois du oed fi yn yr ysgol. Oedd 'na cwpwl ohonom ac roedd y mwyafrif ohonom yn hanner Jamaican hefyd a gyda theulu o'r Caribî.
"Ond doeddwn i ddim yn gwybod unrhyw beth am bwy o'n i. Mae hanes y Jamaicans yn gymhleth.
"Ond ers tyfu lan fi wedi gwneud fy research fy hun ac actually edrych mewn i hanes fi fel person a lle fi 'di dod."
Ar ôl sgwrs gyda'r cyflwynydd a cherddor Cymraeg-Jamaicaidd "anhygoel" Aleighcia Scott, cafodd Dom ei sbarduno i ymchwilio mwy i'w hanes.
"Doeddwn i ddim yn gwybod am Windrush. Nes i ddysgu am y ffaith fod llawer ohonom ni wedi dod i fan hyn i helpu adeiladu'r holl o Brydain fel yr NHS a'r docks.
"Felly nes i ddechrau gofyn cwestiynau i Dad fi a nes i ddysgu bo' gen i dal llwyth o deulu yn Jamaica ac addysgu fy hunain am y diwylliant a'r bwyd.
"Wedyn nes i wneud deep dives ar y we a gweld yr hanes crazy caethwasiaeth."
'Rydyn ni'n wlad ein hunain'
Xamayca oedd enw'r ynys yn wreiddiol pan roedd llwythau yn bodoli yno o tua 600 OC (oed Crist). Yn 1495 daeth yr ynys o dan reolaeth Sbaen a Christopher Columbus cyn i Brydain ei gipio yn 1655.
Roedd Sbaen yn gyfrifol am gludo cannoedd o bobl Affricanaidd i'r ynys fel caethweision, ond cludwyd y mwyafrif ohonynt yno yn hwyrach gan Brydain gan eu hadleoli o'u cartrefi gwreiddiol yn Nwyrain Affrica.
Dihangodd llawer o'r caethweision i fyw yn annibynnol ym mynyddoedd yr ynys ddaeth i'w hadnabod fel y Maroons.
"Dyw hanes caethwasiaeth a choloneiddio Jamaica ddim yn huge, hynny yw, dyw e ddim yn hir iawn i gymharu â gweddill hanes Jamaica," meddai Dom.
"Oherwydd hynny dyw Jamaica heb gael y siawns i fod yn lle sydd wedi gallu adeiladu fel gwlad ei hun a chael yr annibyniaeth yna i allu dweud 'rydyn ni'n wlad ein hunain'.
"Fel roedd Andrew Holness, Prif Weinidog Jamaica wedi dweud... 'mae'n bryd i ni symud ymlaen a dechrau adeiladu fel gwlad ein hunain' - a dyna yw'r peth gorau i fod yn onest."
'Rhoi'r darnau at ei gilydd'
Ni chafodd Dom unrhyw addysg am hanes caethwasiaeth a choloneiddio pan oedd yn ifanc ac mae'n falch y bydd hanes pobl ddu yn cael eu cyflwyno i gwricwlwm ysgolion Cymru o fis Medi eleni yn dilyn ymgyrch Black Lives Matter.
"Es i drwy'r ysgol heb ddeall bod black Kings a black Queens a phethau fel 'na. Doeddwn i ddim yn gwybod unrhyw beth am fy hanes.
"Nes i ddod i ddeall fod Cymru efo rhan huge mewn caethwasiaeth hefyd - doeddwn i ddim yn gwybod hwnna. Roedd un o'r teuluoedd mwyaf yng Nghymru yn berchen ar lwyth o dir a estates lawr yna.
"Roedden nhw yn un o'r teuluoedd gyda'r mwyaf o gaethweision - roedd o yn crazy dysgu hwnna a mynd yn ôl a rhoi'r darnau gyda'i gilydd a thrio deall be' sydd angen cael ei dalu yn ôl nawr."
Er nad oedd Cymru yn ddiniwed yn ei ran mewn caethwasiaeth, fel Cymro mae Dom yn deall fod llawer o Gymru hefyd yn anghyffyrddus gyda'r Frenhiniaeth. Ac er ei fod yn amhosib cymharu'r caledi mae Jamaica a Chymru wedi profi yn hanesyddol, mae rhai cymariaethau yn bodoli meddai.
"Fi wastad yn dweud fi yn Gymraeg a Jamaican, pan oeddwn yn ifanc roeddwn yn galw fy hunan yn 'Walaican'!
"Mae 'na linc rhwng Cymru a Jamaica o ran yr annhegwch o dan y Frenhiniaeth. Dyw Cymru ddim angen y Frenhiniaeth chwaith, rydyn ni yn entity ein hunain.
"Dyma be' dwi wedi teimlo ers dwi'n ifanc a dyma be' mae teulu fi wedi dweud wrtho fi.
Ond mae "identity crisis" amlwg ar draws Cymru, meddai Dom, ac mae'n crybwyll mai'r rheswm dros hynny yw'r ffaith fod y wlad wedi bod yn ddiwylliant lleiafrifol o dan reolaeth Brydeinig, fel pobl Jamaica, ers amser mor hir.
"O ganlyniad mae gan bobl y teimlad o golli hunaniaeth a cholli pwy ydyn nhw. Ond rydyn ni'n darganfod cryfder o hynny."
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Mae'n bwysig edrych mewn i'n hanes"
Mae Dom yn ymfalchïo yn ei wreiddiau Cymraeg ar ochr ei fam a'i wreiddiau Jamaicaidd ar ochr ei Dad, ac yn dweud fod hyn galluogi iddo ddeall Cymru heddiw.
"Mae Cymru yn gartref i loads o bobl fel fi - pobl hil gymysg, pobl Jamaican, Nigerians, Somalis a llwyth o bobl sydd wedi mynd trwy gaethwasiaeth ac wedi dod yma a chreu cartref oherwydd Windrush.
"Mae'r balchder dwi'n teimlo fel Cymro yn enfawr. Ym mhopeth dwi'n gwneud... mae Cymru wastad wedi bod yn rhan ohonof i.
"Fi eisiau gweld mwy o bobl sydd yn cynrychioli Cymru nawr - o wahanol hil, yn siarad yr iaith ac yn teimlo'r cryfder o fod yn Gymraeg a chymysgu diwylliannau."
Yn y cyfamser mae Dom yn bwriadu edrych yn bellach mewn i hanes Jamaica a'i achau.
"Mae'n bwysig i ni edrych mewn i'n hanes a lle rydyn ni'n dod. Mae'n helpu ni ddeall a chyrraedd lle rydyn ni nawr a deall pam ein bod eisiau bod yn annibynnol o'r Frenhiniaeth.
"Dwi eisiau edrych mewn nawr i lle rwyf wedi dod o cyn Jamaica a sut nes i gyrraedd yno - nes i ddod Ethiopia neu Nigeria?
"Mae loads o hanes i edrych mewn iddo yn Jamaica ac os rydych chi yn Jamaican neu gyda theulu yno edrychwch mewn i'r peth."
Hefyd o ddiddordeb: