‘Pobl eraill sy'n fy ystyried i’n ddu’

  • Cyhoeddwyd
Jaci

Mae Jaci Cullimore wedi bod yn wyneb a llais cyfarwydd o fewn y sin gerddoriaeth yng Nghymru ers blynyddoedd. Mae hi'n gantores lwyddiannus sydd wedi canu gyda nifer o artistiaid fel Steve Eaves, Meic Stevens, Mojo, ac ar hyn o bryd, mae hi'n canu gyda'r band Ameto.

Cafodd Jaci ei magu ym Methesda, ond mae'r teulu ar ochr ei mam yn dod o Kenya. Fe gafodd Jaci ei chyfweld ar gyfer y rhaglen ar BBC 1, Black and Welsh, ac fe siaradodd hi gyda BBC Cymru Fyw am y rhaglen, ei chefndir a'i magwraeth.

"'Nath rywun gysylltu efo fi yn chwilio am berson du i gymryd rhan yn y rhaglen, gan ofyn os fyswn i'n licio gwneud. O'n i'n meddwl bo' hynna'n ddiddorol - fy mod i wedi dod i'r meddwl i'r person yma a oedd yn chwilio am gyfrannwr du.

"Dwi'n dallt bod bobl yng Nghymru yn meddwl amdana i fel du, 'di hynny ddim yn sioc mawr i fi. Ond o'n i isho'r cyfle i roi ochr fi o'r peth i bobl gael dallt yn iawn, achos i mi rwbath yn Ewrop sy'n deud os 'di dy groen di ddim yn wyn, ti'n ddu, yn awtomatig.

"Mae gan bobl Brasil 136 o wahanol ddisgrifiadau ar gyfer lliw croen ac mae hynny'n gwneud synnwyr i mi."

Ffynhonnell y llun, Jaci cullimore
Disgrifiad o’r llun,

Jaci gyda'i mam, sydd dal i fyw ym Methesda

Er bod Jaci yn hynod falch o'i chefndir gwyn a du, mae hi'n credu bod cefndiroedd pobl mwy cymhleth na hynny.

"Ar lawer o ffurflenni mae 'na ddewis i ticio blwch 'gwyn' neu 'du'. Os oes cyfle dwi'n ticio'r adran 'arall' a trio esbonio - yn bersonol dwi'm yn meddwl bo fi'n ffitio fewn i 'du' na 'gwyn'. Os fyswn i'n gorfod dewis byswn i'n rhoi 'gwyn', a dwi'n gwybod bo' hynny'n swnio'n wirion i bobl eraill, ond mae rhieni fy nhad yn wyn, mae tad fy mam yn wyn, a dim ond mam fy mam sy'n ddu.

"'Di hynny ddim byd i neud efo fi'n deud 'dwi'm isho bod yn ddu!'. Dwi isho dangos i bobl jest achos bod fy nghroen i y lliw yma, dydi o ddim yn awtomatig yn meddwl mod i'n ddu. Dwi ddim yn hanner gwyn a hanner du - ella sa hynna'n gwneud pethau'n wahanol.

"Disgrifiad rhyw hen ddynes ohona i un tro ar ôl i mi esbonio fy nghefndir oedd 'o, gwyn budur wti!'"

'Mam yn 'wyn' yn Kenya'

Mae Jaci'n credu bod hunaniaeth a hil rhywun yn newid lle bynnag maen nhw yn y byd, ac bod person yn gallu cael eu hystyried yn un hil mewn un wlad, tra'n cael eu gweld fel rhywbeth gwahanol rhywle arall.

"Peth arall i'w gofio ydi, ga'th Mam ei geni yn Kenya, ac a'th hi i ysgol breswyl Gatholig yn Kenya. Oedd ei thad hi yn ddyn gwyn o Loegr o deulu cyfoethog. Yn Kenya mae Mam yn cael ei gweld fel person gwyn - mae ei thad hi'n wyn ac yn ôl nhw, dyna fo.

"'Di o ddim yn rywbeth arbennig i Gymru, mae'n rhywbeth Ewropeaidd. Dwi'n cofio bod yn ne Sbaen ac o'n i'n meddwl bod lot o'r bobl yna yn dywyllach na fi - ond dwi'n meddwl bo' nhw'n gweld eu hunain fel 'gwyn'."

Ffynhonnell y llun, Jaci cullimore
Disgrifiad o’r llun,

Jaci gyda'i rhieni

"'Nes i chwilio fewn i hanes teulu fy mam yn ddiweddar, a 'nes i ddysgu am fy hen nain, sef mam Taid. Cafodd fy hen nain ei geni yn Ne Affrica, ac roedd ei thad hi'n gweithio mewn planhigfa siwgr. Doedd ganddi ddim cysylltiad efo'i wyres (fy mam i)... doedd hi ddim yn hapus bod ei mab wedi priodi dynes ddu o Kenya.

"Nath Mam ddod i fyw ochrau Llanbedr ger Harlech pan o'dd hi'n 12-13 oed, at deulu ffrind i fy nhaid yn Kenya. Ma'r teulu yna'n gymysg o ran croen 'fyd ac dwi'n ystyried nhw fel teulu i fi achos dyna pwy dwi 'di tyfu fyny efo. Pan symudodd Mam i Fethesda yn y 1960au mi roedd 'na bobl isho dod i sbïo arni pan oedd hi'n priodi Dad achos doeddan nhw erioed 'di gweld rhywun du o'r blaen."

A wnaeth Jaci brofi hiliaeth ei hun tra'n tyfu fyny?

"Mae 'na rhei pethau wedi digwydd, fel cerdded heibio ysgol gynradd lle oedd yna llwyth o blant yn gweiddi a galw enwa' arna i ac es i adra'n crio. Ond mae plant yn gallu bod yn greulon, yn pigo ar blant efo gwallt coch, neu rhai sy'n gwisgo sbectol neu os 'di nhw'n dew - o'n i'n dew pan oeddwn yn blentyn felly dwi'n gwybod am hynny hefyd!

"Un tro blynyddoedd nôl 'nath 'na ddyn mewn hotel yng Nghaerdydd wrthod stafell i fi a fy mam am bo' ni'n ddu - a'th o allan i edrych ar Mam yn eistedd yn y car a wedyn dweud 'na'. Mi 'nath hynny fy wneud i'n flin!

"Ond dwi erioed wedi gweld hiliaeth efo fy ngherddoriaeth, a dydi cerddorion ddim fel 'na ar y cyfan dwi'm yn meddwl. Ti'n clywed llais rhywun ar y radio a ti ddim yn gwybod sut ma nhw'n edrych, nagwyt. Doedd gan lliw fy nghroen ddim byd i'w wneud efo pwy dwi'n canu efo ac ati - o'dd o i'w wneud efo os 'di nhw'n licio'n llais i neu beidio."

'Jaci Du'

Dydi Jaci ddim yn credu bod Cymru yn wlad hiliol, ond mae diffyg dealltwriaeth weithiau yn gallu gwneud pethau'n anodd, meddai.

"'Nes i ffeindio allan rhyw dair mlynedd nôl am y llysenw sydd gen i rownd Bethesda, sef 'Jaci Du'. O'n i ddim yn gwbod bo' bobl yn galw fi'n hynna!

"Y rheswm am hyn dwi'n meddwl ydi bod y bobl sy'n defnyddio fo yn gwbod bod o'n derm sarhaus i mi, a wedyn doedden nhw ddim yn ei ddefnyddio fo o flaen fi. Mewn ffordd mae hynny'n gwneud o'n waeth i mi.

"Pan 'nes i ffeindio allan am y llysenw o'n i'n siomedig, ac mae bobl dwi'n gwbod sy'n defnyddio fo yn rhoi 'Black Lives Matter' ar dudalen Facebook nhw! Pan dwi 'di deud mod i ddim yn licio'r enw 'na (Jaci Du), be' dwi'n gal nôl ydi 'wel du wyt ti 'de, dyna be' ma bobl yn galw ti.'

Ffynhonnell y llun, jaci cullimore
Disgrifiad o’r llun,

Chwith i'r dde: Richard (brawd Jaci), Taid Kenya, Nain Kenya, mam Jaci, Dafydd (cefnder), Jaci a thad Jaci

"Mae pobl yn cymryd yn ganiataol mod i'n hanner gwyn a hanner du, ac yn edrych ar Mam heb gymryd i ystyriaeth bod ei thad hi'n wyn.

"Dwi 'di cal bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg yng Nghymru yn dweud wrtha i 'Go home' - ond dwi'n byw 'ma erioed ac yn siarad Cymraeg!

"Fel ma nhw'n ddeud yn Saesneg, don't judge a book by its cover."

Hefyd o ddiddordeb