Gofyn am gofnod o 'iaith babi' er mwyn helpu rhieni

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Casglu 'geiriau babi' er mwyn helpu rhieni newydd

'Cici beis', 'bow wow' ac 'ych a fi' - geiriau mae'r rhan fwya' ohonom ni wedi eu defnyddio wrth siarad â babis a phlant bach.

Nawr mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Mudiad Meithrin yn galw ar bobl i rannu'r geiriau maen nhw'n eu defnyddio wrth siarad babi er mwyn eu rhannu gyda rhieni newydd.

Maen nhw'n gobeithio y bydd hynny'n annog rhieni sydd ddim mor hyderus wrth ddefnyddio eu Cymraeg neu sy'n ddysgwyr, i siarad Cymraeg gyda'r plentyn o'r cychwyn cynta'.

Y cylch meithrin neu'r grŵp Ti a Fi lleol yw cyflwyniad cyntaf nifer o blant bach i'r Gymraeg, ac yn ôl arbenigwyr mae'n bwysig cyflwyno'r iaith mor gynnar â phosibl.

Dyna pam mae'r sefydliadau yn awyddus i gasglu geiriau babi er mwyn eu rhannu gyda rhieni newydd.

Dyma'r tro cyntaf i hyn gael ei wneud yn Gymraeg.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dona Lewis mai'r nod ydy rhoi geirfa ychwanegol i ddysgwyr Cymraeg ddefnyddio gyda'u plant

Dywedodd Dona Lewis, dirprwy brif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy'n gyfrifol am y cynllun, mai'r nod ydy rhannu'r eirfa gyda rhieni di-Gymraeg a dysgwyr.

"Mae parentese yn fethodoleg sy'n bodoli ar draws y byd, a dyma'r tro cyntaf i ni ddatblygu'r eirfa yn y Gymraeg," meddai.

"Mae'r eirfa yn syml iawn, 'da chi'n defnyddio 'stumiau tra'n ei gyflwyno fo, tôn llais gwahanol ac yn y blaen.

"Maen nhw'n bethau hollol naturiol efallai i'r rhai ohonom ni sy'n siarad Cymraeg adre', ond y pwrpas ydy ein bod ni'n casglu nhw ar gyfer dysgwyr Cymraeg sydd eisiau eu defnyddio nhw gyda'u plant.

"Y bwriad ydy gweld pa rai yw'r mwyaf cyffredin a wedyn eu trosglwyddo mewn adnoddau neu hyfforddiant i rieni."

Yng Nghylch Meithrin Dinas Powys ger Caerdydd dim ond rhai o'r plant sy'n clywed y Gymraeg gartre', felly mae cadeirydd pwyllgor y cylch Elinor Elias Jones yn croesawu'r cynllun.

"Mae gyda ni deuluoedd gyda babis newydd sy'n dod i'r cylch, ac yn aml iawn mae'r rhieni wedi colli hyder i siarad gyda'i gilydd, ond falle bod mod i ennyn hyder eto drwy ddefnyddio Cymraeg gyda'r babi newydd," meddai.

"Mae hi mor bwysig i'r rheini i ddefnyddio'r tipyn bach o Gymraeg sydd gyda nhw, yn syth o'r amser mae'r babi yn cael ei roi yn eich côl chi.

"Dyna pryd mae'r plentyn yn clywed yr iaith am y tro cyntaf. Mae sylfaen yr iaith wedi ei gosod wedyn.

"O un neu ddau air mae'n tyfu'n fwy o eiriau, ac yn datblygu'n frawddegau."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Aled a Llinos, gyda'u plant Nansi, Gwen ac Alys

Mae Llinos Lloyd Hughes, 37 oed o Langwm, Corwen, yn fam i dair o ferched - Gwen sy'n bump oed, Alys sy'n dair a Nansi, sy'n saith mis.

Maen nhw'n aelodau o gylch meithrin a grŵp Ti a Fi Cerrigydrudion.

"Dwi'n siarad iaith babis efo'r plant o'r cychwyn cyntaf ac yn defnyddio geiriau fel bebeis am gysgu, mi am ddwmi, ditwns am ben ôl, neu mw mw, wow wow a me me am anifeiliaid," meddai.

"Rydw i bendant yn gweld o'n help hefo'r plant. Roedden nhw'n dechra' trwy siarad babi a chyfuno synau cyn symud ymlaen i ddweud geirfa.

"Hefyd roeddwn i'n teimlo fod o'n creu rhyw fath o fond neu ddealltwriaeth rhwng fi a'r plentyn yn y dyddiau cynnar pan doedden nhw methu cyfathrebu eu hanghenion.

"Dwi'n meddwl fod y prosiect yma yn syniad gwych ac y bydd o gymorth mawr i rieni newydd sy'n dysgu'r iaith.

"Mae hefyd yn ffordd hwyliog o gychwyn cyfathrebu cynnar yn y Gymraeg rhwng mamau a babis."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Athro Enlli Thomas fod y prosiect yn "torri tir newydd"

Mae gan Adran Gwyddorau Addysg Prifysgol Bangor ddiddordeb mawr yn y cynllun, ac mae'r Athro Enlli Thomas, sy'n arbenigwr ar gaffael iaith plant bach, wedi bod yn rhan o'r trafodaethau ers y dechrau.

"Mae hwn yn gynllun diddorol iawn sy'n torri tir newydd yma yng Nghymru - dyma fydd y tro cyntaf i unrhyw un geisio cael rhestr o'r fath at ei gilydd," meddai.

"Bydd yn ddiddorol gweld yr amrywiadau iaith o deulu i deulu ac o ardal i ardal, a'r effaith bosibl ar drosglwyddo iaith o fewn teuluoedd."

Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg a Mudiad Meithrin yn awyddus i glywed geiriau babi o bob rhan o Gymru, ac mae modd cyfrannu geiriau ar wefan y mudiad, dolen allanol.

Buan y mae bow wow'n troi'n gi bach a dot dot yn ddolur, ond mae'r geiriau babi'n bwysig wrth sicrhau fod yna le i'r Gymraeg ym mhob cartref.

Pynciau cysylltiedig