Diffyg staff Cymraeg yn 'rhwystro twf' Cylchoedd Meithrin

  • Cyhoeddwyd
Sesiwn Ti a Fi yng Nghilfynydd, ger Pontypridd
Disgrifiad o’r llun,

Sesiwn Ti a Fi yng Nghilfynydd, ger Pontypridd, ble mae criw o rieni wedi sefydlu cylch newydd

Mae pryder y gall prinder gweithlu Cymraeg ei hiaith rwystro twf Cylchoedd Meithrin dros y blynyddoedd nesaf.

Mewn dogfen o'r enw 'Grym ein Gweithlu', mae'r Mudiad Meithrin wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i'r her os am gyflawni ei tharged o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.

Yng Nghilfynydd ger Pontypridd mae criw o rieni wedi sefydlu Cylch Meithrin.

Maent eisoes yn cynnal sesiynau Ti a Fi i rieni a phlant bach ond yn cael trafferth dod o hyd i arweinydd.

Yn ôl ysgrifennydd y cylch, Lowri Real, maen nhw'n hysbysebu'r swydd am yr eildro.

"Ni'n barod i fynd, ni'n barod i ddechrau, ni'n awyddus," meddai.

"Mae 'na bobl yma yn y gymuned sy'n gofyn pryd mae'r cylch yn mynd i agor ac yn anffodus y staffio yw'r her i ni ar y funud a trio ffeindio rhywun cymwys i arwain y cylch."

'Problem enfawr'

Mae Cylch Meithrin yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd wedi'i sefydlu ers blynyddoedd ac yn ffynnu gyda rhyw 80 o blant yn mynychu yn ystod yr wythnos.

Ond yn ôl ysgrifennydd y cylch, Elin Davies, maen nhw hefyd wedi cael trafferth dod o hyd i staff addas.

Disgrifiad o’r llun,

Dim ond yr isafswm cyflog mae'r cylch yn gallu ei gynnig yn ôl Elin Davies, Ysgrifennydd Cylch Meithrin yr Eglwys Newydd

"Mae'n broblem enfawr", meddai.

"Ni 'di cael llawer o staff yn gadael dros y blynyddoedd ac mae ceisio denu staff sy'n siarad Cymraeg yn rhugl mor anodd. Un o'r rhesymau o'n profiad ni yw fod y cylch 'mond yn gallu cynnig isafswm cyflog.

"Mae gyda ni sawl meithrinfa preifat ry' ni'n cystadlu â nhw, ni hefyd yn cystadlu gydag ysgolion sy'n cyflogi staff cynorthwyol.

"Mae 'na lot o gystadleuaeth yn anffodus."

Yr un yw profiad y pwyllgor sy'n ceisio sefydlu cylch yng Nghilfynydd.

Aeth Lowri Real ymlaen i ddweud: "Yn y sector breifat er enghraifft maen nhw'n gallu cynnig oriau lot hirach. Weithiau gyda cylch ni ond yn gallu cynnig dwy neu dair awr yn enwedig wrth sefydlu cylch newydd.

"Dwi'n meddwl bod ni'n colli lot o bobl dda i ysgolion cynradd, maen nhw'n mynd yno i weithio fel cynorthwywyr."

Targed o 60 cylch newydd

Mae Cylchoedd Meithrin yn cael eu hystyried yn hanfodol wrth gyflwyno rhieni i addysg Gymraeg.

Mae tua 90% o blant sy'n mynychu cylchoedd yn mynd ymlaen i gael addysg gynradd cyfrwng Cymraeg.

Mae gan y Mudiad Meithrin darged i sefydlu 60 Cylch Meithrin newydd yn ystod tymor y Senedd presennol, ond mae'n rhybuddio y gall prinder gweithwyr rwystro hynny rhag digwydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae arweinwyr clwb Ti a Fi yng Nghilfynydd, ger Pontypridd, yn cael trafferth recriwtio staff addas

Mae'r mudiad yn galw ar y llywodraeth i weithredu ar nifer o argymhellion i geisio llenwi'r bwlch.

"Does dim pwynt bod yn feirniadol", meddai Prif Weithredwr y Mudiad, Dr Gwenllian Lansdown Davies.

"Mae'n rhaid i ni dderbyn lle ydan ni. Dweud lle 'dan ni isio bod ymhen blwyddyn, ymhen dwy neu ymhen pum mlynedd i wneud yn siŵr fod gyda ni ddigon o bobl sydd wedi cymhwyso ac sy'n gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg i allu parhau â'r genhadaeth honno sydd mor bwysig yn creu siaradwyr Cymraeg y dyfodol."

"Mae hi'n rhy heriol ar y funud i ni allu bod yn gwbl hyderus pan y byddwn ni fel mudiad a phan y bydd cylchoedd yn mynd ati i recriwtio y bydd yna wastad ddiddordeb yn y swydd."

Ychwanegodd: "Yn wahanol i sectorau eraill, os nad oes gan Gylch Meithrin nifer digonol o oedolion i fod yn gweithio gyda'r nifer o blant yn y lleoliad hwnnw, all o ddim agor ei ddrysau."

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid derbyn y sefyllfa, a chynllunio i ddatrys y broblem, meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn buddsoddi yng nghynllun Cam wrth Gam y mudiad, sy'n darparu cyrsiau gofal plant cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr uwchradd.

Mae Miya yn dilyn y cwrs yn Ysgol Bro Edern yng Nghaerdydd.

"Mae'n gwrs dwy flynedd a chi'n dod allan gyda cymhwyster lefel pedwar", meddai.

"Chi'n gweithio mewn lleoliad dydd Llun i ddydd Mercher ac yna dydd Iau a dydd Gwener ni yn yr ysgol yn gwneud gwaith papur.

"Wrth weithio dros y ddwy flynedd yma mae lot o bobl wedi cael cynnig swyddi."

Arian ychwanegol

Yn dilyn y pandemig mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi bron i £200,000 yn ychwanegol i'r Mudiad Meithrin.

Maen nhw'n dweud eu bod nhw'n gobeithio y bydd hynny'n caniatáu mwy o fuddsoddi yn y cynllun Cam wrth Gam.

"Mae recriwtio gweithlu yn her ar draws y sector gofal plant", medd llefarydd.

"Mae'r gwaith o gynllunio i gynyddu'r gweithlu ar waith, ac rydym yn ddiolchgar i'r Mudiad Meithrin am eu cyfraniad i'r trafodaethau hynny."

Pynciau cysylltiedig