Arwr Wrecsam, sydd â dementia i gael mynd i Wembley
- Cyhoeddwyd

Gareth Davies, wnaeth hefyd ennill tri chap i Gymru, yn dathlu'i ben-blwydd yn 70 oed gyda'i wyrion
Bydd un o arwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam, sydd bellach yn byw â dementia, yn cael teithio i Wembley - diolch i berchnogion enwog y clwb.
Gwnaeth Gareth Davies 612 ymddangosiad i'r cochion ac yn ôl Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr fe yw "capten mwyaf llwyddiannus y clwb".
Mae o bellach yn 72 oed ac yn byw mewn cartref gofal.
Mae'r clwb yn cefnogi'n llwyr ymgyrch yr ymddiriedolaeth i alluogi Mr Davies a'i deulu i fynd i Wembley.
Bydd y Dreigiau yn cystadlu yn Rownd Derfynol Tlws FA Lloegr yn erbyn Bromley ar 22 Mai.
'Wedi "troi i fyny" i'r clwb'
Mewn neges ar ei gyfrif Twitter dywedodd yr actor Hollywood, Ryan Reynolds, byddai o a'i gyd-berchennog, Rob McElhenney, yn "sicrhau bod Gareth yn cyrraedd Wembley yn gyfforddus".
Ychwanegodd bod Mr Davies wedi "troi fyny" i'r clwb yn y gorffennol ,"a byddwn ni yna iddo fo".
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd mab-yng-nghyfraith Mr Davies, Chris Braisdell, bod y teulu "wedi'i syfrdanu'n fawr".
"Mae'i frwydr gyda dementia yn galed, ond mae bob amser yn cofio'r hen ddyddiau da."
Dywedodd Mr Braisdell nad oedd ef na'i wraig, Kate yn gwybod o flaen llaw fod ymgyrch wedi'i lansio i helpu ei thad i fynychu'r gêm yn Llundain.
"Doedden ni ddim yn disgwyl cymaint o ymateb gan y cefnogwyr," meddai.
Dywedodd fod y taid i ddau wedi ymrwymo ei yrfa i Wrecsam a bod yr apêl yn dangos bod pobl yn ei weld fel "cyfle i ddiolch iddo am yr hyn y mae wedi'i wneud i'r clwb".

Ryan Reynolds a Rob McElhenney yw perchnogion CPD Wrecsam
Fel capten, arweiniodd Gareth Davies y clwb i bencampwriaeth y Drydedd Adran yn 1978, ac roedd yn rhan o'r tîm a sicrhaodd ddyrchafiad yn 1969-70.
Roedd hefyd yn gapten ar y clwb pan gyrhaeddon nhw rownd wyth olaf Cwpan FA Lloegr yn 1974 a 1978, rownd go-gynderfynol Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop yn 1976 a rowndiau go-gynderfynol Cwpan y Gynghrair Bêl-droed yn 1978.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2022