Parafeddyg mewn cyflwr difrifol wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae dau barafeddyg a oedd yn reidio beiciau modur fel rhan o gwrs hyfforddi wedi cael eu hanafu mewn gwrthdrawiad pedwar cerbyd.
Mae un o'r rhai sydd wedi'u hanafu ac o uned ymateb beic modur Gwasanaeth Ambiwlans Llundain yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol.
Dywed Heddlu'r Gogledd bod y gwrthdrawiad wedi digwydd ddydd Iau - ychydig cyn 14:30 ym Mhentrefoelas.
Fe gafodd y ddau a oedd ar feiciau modur anafiadau difrifol ac fe gafodd tri unigolyn arall fân anafiadau.
Dywed plismyn bod y gwrthdrawiad yn cynnwys fan, cerbyd pick-up a dau feic modur a oedd yn cael eu reidio gan barafeddygon.
Bu ffordd yr A5 rhwng Pentrefoelas a Betws-y-coed ar gau am gyfnod.
Cafodd dau glaf eu cludo gan hofrennydd i ysbyty yn Stoke ac aed ag un arall i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Mae'r ail barafeddyg a oedd yn y digwyddiad wedi cael gadael yr ysbyty.