'Cysylltnod mewn enwau lleoedd yn bla'?
- Cyhoeddwyd
Pen-y-groes, Penrhyn-coch, Pen-rhos, Cei-bach, Crug-y-bar a Nant-y-caws yw'r dull safonol o ysgrifennu enwau lleoedd fel y rhain yn ôl y Panel Safoni Enwau Lleoedd, ond dywed un academydd bod defnyddio "cysylltnodau yn dân ar ei chroen" ac yn "gwbl ddiangen".
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd Nia Watkin Powell bod "gwasgar cysylltnodau fan hyn a fan draw yn ddibwys hollol" ac ychwanegodd bod pawb yn lleol yn gwybod sut i ynganu yr enwau yma beth bynnag.
"Does dim angen safoni o'r fath a be sy'n bod ar ysgrifennu Cei Bach yn hytrach na 'Cei-bach'?" meddai.
"Yr hyn sy'n bwysig yw peidio colli, camsillafu a newid enwau traddodiadol."
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol fe gafodd sylw Ms Powell gryn ymateb a chefnogaeth wedi iddi ysgrifennu: "Paham fod cysylltnod (-) wedi ymddangos yn ddiweddar fel pla mewn enwau lleoedd, a chyfeiriaf yn arbennig at y rhestr enwau a gymeradwyir gan y Comisiynydd Iaith?
"I mi, peth Anghymreig iawn yw defnyddio cysylltnod mewn enwau lleoedd ac nid oes unrhyw resymeg amlwg yn perthyn ychwaith i ba bryd y cyflwynir cysylltnod neu beidio yn y rhestr. Mae angen dileu'r rhan helaethaf o'r cysylltnodau hyn er mwyn Cymreigio'r rhestr o enwau 'Cymraeg'."
'Cydweithio'n lleol gyda gwahanol bartïon'
Mae gan y Comisiynydd gyfrifoldeb i argymell ffurfiau safonol enwau lleoedd Cymru a chynnig cyngor i sefydliadau ac unigolion ar faterion yn ymwneud ag enwau lleoedd.
Mae'r argymhellion ynghylch sut i sillafu enwau lleoedd yn cael eu cyhoeddi yn y Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol ar wefan y Comisiynydd, dolen allanol.
Mae'r rhestr yn fath o eiriadur lle gall rhywun chwilio am enw er mwyn gwybod sut i'w sillafu mewn ffordd safonol ac er mwyn gwybod a oes enw Cymraeg neu Saesneg gwahanol ar le.
Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Gwenith Price: "Mae'r Panel Safoni Enwau Lleoedd yn ymchwilio i darddiad enwau a'r defnydd ohonynt heddiw yn ogystal â hyrwyddo'r defnydd o ffurfiau safonol. Mae'r Panel yn ffynhonnell ymchwil ddibynadwy ac yn sail i'r Comisiynydd gynnal rhestr o enwau lleoedd.
"Mae darparu a chynnal rhestr o'r fath yn golygu bod modd i lawer wneud defnydd cynyddol ac ymarferol o'r enwau.
"Mae'r Comisiynydd yn cydweithio'n lleol a gyda gwahanol bartïon wrth i'r gwaith o safoni enwau ddigwydd."
'Llawer o ôl meddwl'
Mae'r Athro Ann Parry Owen yn aelod o'r Panel Safoni Enwau Lleoedd a dywed mai dilyn rheolau orgraff yr iaith y mae'r panel yn ei wneud wrth sillafu.
"Yn 1967 cyhoeddodd Gwasg Prifysgol Cymru Restr o Enwau Lleoedd gyda rhagymadrodd yn esbonio'r rheolau yng nghyswllt enwau lleoedd. Dyma yw sylfaen Rhestr y Comisiynydd," meddai.
"O ran y cysylltnod does dim byd wedi newid ac mae'r panel yn dilyn rheolau cyffredinol yr iaith Gymraeg.
"Un o'r prif resymau dros gael sillafiad safonol i enw lle yw rhoi arweiniad i bobl ar sut i'w ynganu.
"Yn y Gymraeg mae prif acen gair bron bob tro yn disgyn ar y sillaf olaf ond un: penbleth, ysgol, ysgolion. Felly os yw'r brif acen hon mewn lle gwahanol i'r disgwyl mae cysylltnod yn rhoi arweiniad ar sut mae gair i fod i gael ei ynganu'n gywir."
Llysfaen, Llys-faen?
"Cymerwn Penyberth (pen + y + berth) a Pen-y-bont (pen + y + bont). Mae'r cyntaf wedi ei ysgrifennu fel un gair, ac yn cael ei acennu yn y dull arferol, gyda phrif acen y gair ar y sillaf olaf ond un: Penýberth.
"O ran yr ail, mae'r brif acen ar y sillaf olaf yn wahanol i'r hyn sy'n arferol, ac mae'r cysylltnodau yn dangos hynny. Ceir Llysfaen yn Sir Conwy (yr acen ar Llys) ond Llys-faen yng Nghaerdydd (a'r acen ar faen). Dyma'r egwyddor sydd y tu ôl i ffurfiau fel Aber-porth, Bryn-glas, Pentre-cwrt, Tre-saith ac ati.
"Dyma hefyd y rheol a geir yn y Gymraeg yn gyffredinol - ac sy'n helpu ni i wahaniaethu, er enghraifft, rhwng di-flas, am fwyd sydd heb flas arno, a diflas am rywbeth sy'n anniddorol i'r eithaf. Mae gwahaniaeth ystyr rhwng y ffurfiau, ac felly mae'r cysylltnod yn gwneud gwaith pwysig yn gwahaniaethu, yn union fel mae'n gwahaniaethu rhwng enwau lleoedd.
"Mae rhai enwau sydd wedi ennill eu plwyf yn genedlaethol. Mae enwau fel Caerdydd, Llanrwst a Phontypridd, yn cael eu hystyried yn eithriadau i'r rheol.
"Barn y panel gwreiddiol oedd bod yr enwau mor enwog fel nad oedd dryswch yn debygol. Prin yw'r eithriadau. Wrth gwrs mae pawb yn gwybod yn iawn sut i ynganu eu henwau lleoedd lleol nhw eu hunain - ac felly mae'n gwbl naturiol i deimlo bod y cysylltnod yn ddiangen. Ond mae yno hefyd i roi arweiniad ar ynganiad i bobl nad ydynt yn lleol."
"Mae rhesymeg a llawer o ôl meddwl y tu ôl i'r penderfyniadau sydd yn cael eu gwneud gan y panel heddiw, fel gan ein rhagflaenwyr yn y gorffennol.
"Mae orgraff yn gyffredinol yn faes dyrys - ond nid yw orgraff y Gymraeg hanner mor ddyrys ag orgraff iaith ein cyfeillion dros y ffin yn Lloegr.
"Y cwestiwn i'w ofyn yw, lle bydden ni pe na bai gennym ni restr safonol fel un y Comisiynydd? Yn Lloegr, y safon gydnabyddedig gan amlaf yw'r sillafiad ar fapiau'r Arolwg Ordnans.
"Ni fyddai hynny'n gweithio yng Nghymru - nid oes unrhyw gysondeb o gwbl yn y ffurfiau a geir o un map i'r llall. Rydym ni'n ffodus iawn bod gennym ni seilwaith mor gryf i'n defnydd o'r iaith Gymraeg a bod y llywodraeth yn buddsoddi yn y seilwaith ieithyddol honno," ychwanegodd.
'Rhaid i gynghorau weithredu'
"Mae'n bwysig bod cynghorau sir yn dilyn y canllawiau," medd Phylip Brake o Lanwnnen sydd wedi bod yn rhan o'r drafodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Dwi'n falch bod Cyngor Ceredigion, er enghraifft, wedi ymateb a sillafu Penrhyn-coch yn gywir - mae hi mor bwysig cael cysondeb a sicrhau bod yr enwau yn cyd-fynd â'r orgraff gyfredol.
"Fel ddylai Crug-y-bar sydd wedi rhoi enw i'r emyn-dôn enwog gael ei sillafu'n iawn ac yn yr un modd Cwm-ann - nid un gair mohono na dau chwaith, mae angen y cyplysnod.
"Yn yr un modd Ffair-rhos sy'n gywir nid Ffair Rhos fel y noda ambell arwydd.
"Ond dwi'n credu bod angen parchu ynganiad lleol a bod rhaid gwahaniaethu rhwng Penrhos yn y gogledd a Phen-rhos.
"I ddweud y gwir dwi'm yn credu bod angen defnyddio enwau Saesneg fel Swansea o gwbl ond dadl arall yw honno!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2020