Y Fenni: Arestio menyw wrth ymchwilio i lofruddiaeth dyn, 90
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 68 oed wedi ei harestio ar amheuaeth o lofruddio dyn 90 oed yn Sir Fynwy.
Cafodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu galw i gyfeiriad yn ardal Llanfair Cilgedin am 10:14 ddydd Mawrth, ar ôl i'r dyn gael ei ganfod yn ddiymateb y tu allan i'r eiddo.
Bu farw o'i anafiadau yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, Cwmbrân ar ddydd Gwener 8 Ebrill.
Mae'r fenyw wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth amodol tra bod ymchwiliadau'r heddlu yn parhau.
Dywed Heddlu Gwent fod swyddogion arbenigol yn cynorthwyo aelodau o deulu'r dyn.
Maen nhw hefyd yn apelio am unrhyw un sydd â gwybodaeth a all fod o gymorth i gysylltu â nhw.