Merched Llangollen a ysbrydolodd Gentleman Jack
- Cyhoeddwyd
Mae ail gyfres o'r ddrama deledu Gentleman Jack yn ôl ar BBC One yn dilyn poblogrwydd y gyfres gyntaf yn 2019.
Suranne Jones sy'n portreadu Anne Lister, prif gymeriad y ddrama a chymeriad hanesyddol sy'n cael ei galw'n 'y lesbiad fodern gyntaf'.
Er i Anne Lister deithio'r byd yn eang, mae'n debyg mai dwy ddynes a oedd wedi ymgartrefu â'i gilydd yn Llangollen a ysbrydolodd hi i fyw bywyd priodasol gyda'i chymar oes, Ann Walker. Mae'r ddwy yn cael eu 'nabod heddiw fel 'Boneddigesau Llangollen'.
Boneddigesau Llangollen
Roedd Eleanor Butler a Sarah Ponsonby yn dod o deuluoedd bonheddig o Killkenny, Iwerddon. Roedd Eleanor Butler yn hanu o deulu Dugiaid Ormond a'i chartref oedd castell Killkenny.
Gwelai teulu Eleanor Butler hi fel llyfrbryf a oedd wedi cael gormod o addysg. Roedden nhw'n fwy a mwy anniddig ei bod hi'n mynnu aros yn hen ferch ac fe geision nhw ei hanfon i leiandy i fyw sawl tro.
Daeth trobwynt ym mywyd Eleanor yn 1798, yn 29 oed, pan wnaeth hi gwrdd â Sarah Ponsoby.
Gofynnodd teulu Miss Ponsonby a fyddai Eleanor yn edrych ar ôl Sarah wedi iddi neidio allan drwy ffenestr a chodi braw ar ei theulu. Datblygodd cyfeillgarwch glos iawn rhyngddynt yn sydyn a hynny drwy gydedmygedd o athroniaeth Ffrengig, nofelau a cherdded.
Dros amser fe wnaeth y ddwy gynlluniau i adael yr ynys werdd a symud i rywle gwledig i fyw fel cymar oes i'w gilydd, a hynny er mawr ofid i'w teuluoedd.
Y man gwledig hwnnw oedd Plas Newydd, Llangollen.
Bu'r ddwy yn cyd-fyw yno am hanner can mlynedd. Yn ystod yr amser hwnnw roedd Plas Newydd wedi dod yn fan y byddai llenorion ac ysgolheigion yn mynd ar eu taith o Lundain i Ddulyn.
Ymweliad Anne Lister â Llangollen
Un arall aeth i ymweld â'r ddwy oedd Anne Lister, sef Gentleman Jack, a hynny ym mis Gorffennaf 1822 pan aeth ar daith o amgylch gogledd Cymru. Er nad oedd yn llenor, roedd hi'n darllen yn helaeth, ac yn ôl y sôn, roedd hi wedi gwirioni â'r llyfrgell ym Mhlas Newydd, a oedd yn llawn gweithiau gan rai o brif lenorion yr iaith Saesneg.
Ysgrifennodd Anne yn ei dyddiadur am ei hymweliad, a nodi bod y ddwy ddynes wedi creu 'cryn argraff' arni.
Ymhlith gwesteion eraill y boneddigesau roedd pobl fel Robert Southey, Percy Shelley a William Wordsworth.
Tra'r oedd yno, cyfansoddod Wordsworth soned i'r cwpl gan ddisgrifio'r cartref yr oedden nhw wedi'i greu iddyn nhw eu hunain ym Mhlas Newydd fel "Glyn Cyfeillgarwch" lle caiff "cariad chwiorydd sydd mewn cariad ddringo'n uwch na gafael amser."
"… where faithful to a low-roofer cot,
On Deva's banks ye have abode so long;
Sisters in love, a love allowed to climb,
Even on this earth, above the reach of time"
Ar y pryd, sbardunodd eu dewis anghonfensiynol i gyd-fyw lawer o sibrydion amdanynt. Yn wir, cyhoeddodd un cylchgrawn erthygl amdanynt a oedd yn awgrymu'n gryf fod eu perthynas yn un rywiol. Mae'n debyg bod y ddwy wedi gwadu hynny'n chwyrn ac wedi ystyried erlyn y cylchgrawn am honni hynny.
Dros y blynyddoedd mae ysgolheigion wedi astudio'r ohebiaeth a fu rhwng y ddwy a does dim tystiolaeth yn rheiny i awgrymu fod eu perthynas yn un rywiol. Caiff eu cyfeillgarwch ei disgrifio fel un rhamantus blatonaidd.
Bu farw'r ddwy o fewn dwy flynedd i'w gilydd: Eleanor Butler yn 1829 yn 90 mlwydd oed, a Sarah Ponsonby yn 1831 yn 76 mlwydd oed. Mae'r ddwy wedi'u claddu gyda'i gilydd yn Eglwys Sant Collen.
Heddiw caiff Eleanor Butler a Sarah Ponsonby eu hystyried fel hynafiaid ffeministaidd a hwylusodd fywyd i lesbiaid oedd yn cyd-fyw yn yr 20fed ganrif.
Mae eu gwaddol i'w weld yn Llangollen hyd heddiw. Bellach, mae eu cartref Plas Newydd yn amgueddfa. Cafodd ardal Butler's Hill ei henwi ar ôl Eleanor Butler ac mae'r Ponsonby Arms yn y dref yn hawlio mai gan Sarah Ponsonby y daw'r enw.
Cyhoeddwyd fersiwn o'r erthygl yma'n wreiddiol yn 2019.
Hefyd o ddiddordeb