Bwriad penodi Comisiynydd y Gymraeg newydd 'wedi'r haf'

  • Cyhoeddwyd
Aled RobertsFfynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Aled Roberts yn Gomisiynydd y Gymraeg o Ebrill 2019 tan ei farwolaeth yn Chwefror 2022

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio penodi Comisiynydd y Gymraeg erbyn diwedd yr haf.

Wedi marwolaeth y cyn-gomisiynydd, Aled Roberts fis Chwefror, mae'r swyddfa wedi cadarnhau bod ei ddirprwy wedi cymryd yr awenau dros dro.

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth Cymru Fyw y bydd y broses hysbysebu yn cychwyn wedi'r Pasg, gan sicrhau penodiad wedi toriad seneddol yr haf.

Ers dod i rym yn 2012, bwriad rôl y Comisiynydd yw hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg, gosod safonau ar sefydliadau a hybu statws swyddogol yr iaith.

Yn dilyn cyfnod Meri Huws fel deilydd cyntaf y swydd, penodwyd Aled Roberts ym mis Ebrill 2019.

Yn gyn-aelod Democratiaid Rhyddfrydol o'r Cynulliad, dywedodd bod "hybu a hyrwyddo yn fwyfwy pwysig", yn ogystal â'r gwaith o reoleiddio.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn dilyn y newyddion trist am farwolaeth ddisymwth Aled Roberts, rydym yn dechrau'r broses cynllunio ar gyfer penodi Comisiynydd y Gymraeg newydd.

"Ein bwriad yw hysbysebu am Gomisiynydd newydd ar ôl toriad y Pasg, gan gadarnhau'r penodiad ar ôl toriad yr haf."

Dyletswyddau i'r dirprwy

Ers marwolaeth Aled Roberts, ei ddirprwy, Gwenith Price, sydd wedi bod yn ymgymryd â dyletswyddau'r rôl.

Dywedodd llefarydd ar ran swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ei bod yn fwriad cyhoeddi strategaeth newydd y sefydliad yn dilyn y Pasg.

"Ers colli Aled Roberts ym mis Chwefror eleni, rydym yn parhau â'r weledigaeth o greu Cymru lle gall pobl fyw eu bywyd yn Gymraeg, gan weithredu er budd yr iaith a'i siaradwyr," meddai.

"Trosglwyddwyd swyddogaethau, dyletswyddau a phwerau Comisiynydd y Gymraeg i'r Dirprwy Gomisiynydd, Gwenith Price.

"Wedi'r Pasg, byddwn yn cyhoeddi ein hamcanion a'n blaenoriaethau strategol fel sefydliad am y tair blynedd nesaf.

"Mae ein staff yn gweithio ym mhob rhan o Gymru, ac yma i gydweithio â'r cyhoedd a sefydliadau er mwyn goresgyn unrhyw rwystrau sy'n atal siaradwyr rhag defnyddio'r Gymraeg.

"Mae'n bwysig i ni ein bod yn gwrando ar brofiadau pobl o ddefnyddio'r Gymraeg, ac rydym yn parhau i weithio i sicrhau tegwch i siaradwyr Cymraeg. Mae croeso i unrhyw un i gysylltu â ni i drafod eu profiadau wrth ddefnyddio'r iaith."