Cwpan y Byd Merched: Kazakhstan 0-3 Cymru
- Cyhoeddwyd
Sicrhaodd tîm merched Cymru fuddugoliaeth gyfforddus ar achlysur canfed cap Natasha Harding dros ei gwlad.
Er y daith o dros 3,000 o filltiroedd i Nursultan, doedd na ddim ôl blino ar ferched Gemma Grainger wrth iddynt godi i'r ail safle yng ngrŵp I rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.
Gyda'r tîm cartref yn amddiffyn yn reddfol fe gymerodd hi 29 munud i Gymru wneud y gorau o'u meddiant a darganfod cefn y rhwyd.
Wedi'i bwydo gan Angharad James, yn dilyn cyfnod o basio cyflym, llwyddodd Kayleigh Green i droi o fewn y cwrt cosbi gyda'i hergyd gref yn mynd i gornel isa'r rhwyd.
Wedi methu cyfle euraid funudau ynghynt, dyblodd Natasha Harding y fantais wedi 42 munud drwy rwydo ar ei diwrnod mawr.
Fe wnaeth croesiad perffaith Ceri Holland ddarganfod Harding yn y cwrt ac wedi chwarae da fe wnaeth ymosodwraig Reading sgorio'i 25ain gôl dros ei gwlad.
Wedi'r egwyl roedd mwy o bwysau gan Gymru, gydag Angharad James unwaith eto'n rhan o'r symudiad wrth i Jess Fishlock ergydio'n nerthol gan basio Ismailova yn y gôl.
Fe ddylai'r sgôr wedi bod yn fwy wrth i Gymru fethu cyfleoedd i gynyddu'r fantais.
Er hynny bydd triphwynt Cymru, gan hefyd gynyddu'r gwahaniaeth goliau, yn golygu fod y pwysau nawr ar Slofenia a Groeg yn erbyn merched Gemma Grainger.
Gyda Ffrainc ar frig y grŵp, mae'n debyg mai gorffen yn yr ail safle yw'r dyhead erbyn hyn.
Ond gyda Cymru'n gobeithio cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf, byddai buddugoliaethau yn erbyn Groeg a Slofenia fis Medi yn ddigon i orffen yn ail a chyrraedd y gemau ail gyfle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2022