Difrod i geir ac eiddo mewn digwyddiad yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
llun o'r trafferthion ar Wynnstay Avenue WrecsamFfynhonnell y llun, Mark Rowe
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid galw rhagor o heddlu mewn dillad amddiffynnol i ddelio gyda'r trafferthion

Cafodd yr heddlu eu galw i stad dai yn Wrecsam nos Lun, wrth i nifer fawr o bobl greu trafferthion ar y stryd.

Bu'n rhaid galw rhagor o swyddogion yn gwisgo dillad ac offer amddiffynnol ar ôl i'r dorf daflu pethau atynt yn ystod y digwyddiad ar Wynnstay Avenue, Parc Caia.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Owain Llewellyn: "Ein blaenoriaeth oedd sicrhau diogelwch y bobl oedd yn yr ardal ac ar un pwynt roedd nifer fawr o swyddogion yno wrth inni weithio i dawelu'r sefyllfa a oedd wedi gwaethygu'n gyflym.

"Taflwyd pethau at y swyddogion, a difrodwyd ceir ac eiddo, ond diolch na chafodd neb ei anafu."

Arhosodd rhai swyddogion yn yr ardal dros nos.

Pynciau cysylltiedig