Trosglwyddo perchnogaeth Melin Tregwynt i'r gweithwyr

  • Cyhoeddwyd
Eifion and Amanda Griffiths

Mae'r teulu tu ôl i gwmni tecstilau Melin Tregwynt yn mynd i drosglwyddo perchnogaeth y busnes i'w staff.

Ymddiriedolaeth sy'n eiddo i'r gweithwyr fydd yn rheoli'r felin yn Sir Benfro sydd wedi bod yn nwylo'r teulu Griffiths ers 1912.

Dywedodd y perchnogion presennol, Eifion a'i wraig Amanda Griffiths, mai eu gweithwyr yw'r "bobl iawn" i gynnal y busnes.

Melin Tregwynt yw'r cwmni Cymreig diweddaraf i drosglwyddo perchnogaeth i'r gweithwyr.

"Gallwch chi gael eich clymu mewn i'ch busnesau," meddai Eifion Griffiths.

"Roedd mam a dad wedi gweithio yn y busnes yma nes iddyn nhw farw, y ddau ohonyn nhw."

Ychwanegodd Amanda Griffiths: "Ac rydyn ni wedi dweud na fydden ni'n gwneud hynny."

Bydd y cwpl yn lleihau eu hamser yn y felin yn raddol wrth i'r berchnogaeth gael ei drosglwyddo i ymddiriedolaeth sy'n eiddo i'r gweithwyr.

Ffynhonnell y llun, MELIN TREGWYNT
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r felin wedi bod yn nwylo'r teulu ers 1912

Mae'r model yn rhoi pwerau dros benderfyniadau i'r gweithwyr, tra bod y perchnogion gwreiddiol yn derbyn tâl fydd yn lleihau wrth gamu 'nôl o'r busnes.

Does dim cost neu atebolrwydd personol ar aelodau staff, dim ond cymhelliant i sicrhau bod y busnes yn ffynnu.

Mae'r penderfyniad yn osgoi gwerthu i gwmni a allai fod wedi newid natur y busnes.

"Roedd rhaid dod o hyd i'r bobl iawn i gario ymlaen ar ein hôl ni," meddai Eifion.

"Mae llawer o fusnesau'n gwerthu i fusnes arall, neu mae rhywun yn dod heibio gan ddweud, 'Hoffwn i brynu hwn'.

"Ond byddai hynny'n golygu y byddai'n rhaid i ni ymddiried yn y bobl hynny gyda'n busnes sy'n rhan o'n bywydau ni."

Ffynhonnell y llun, ROB MELEN
Disgrifiad o’r llun,

Staff Melin Tregwynt

'Llwybr gwahanol'

Dywedodd Amanda Griffiths fod profiadau pobl eraill o werthu i brynwyr cyfoethog wedi eu hysgogi i ystyried llwybr gwahanol.

Meddai Amanda: "Roedden ni wedi dod ar draws pobl oedd wedi sefydlu cwmnïau creadigol ac wedi eu gwerthu.

"Roedden nhw'n meddwl eu bod nhw wedi dod o hyd i'r partner iawn, ond roedden nhw wedi cael eu siomi'n eithaf cyflym."

Mae'r cwpl yn bwriadu parhau i fyw ger y felin.

"Rydyn ni'n rhan o'r gymuned, rydyn ni eisiau aros yma. Rydych chi'n gofyn i chi'ch hun, sut fyddech chi'n gallu byw gyda'ch hun pe baech chi wedi gwerthu'r busnes neu pe bai'r staff wedi colli eu swyddi?"

Mae Eifion Griffiths yn cytuno.

"Dydyn ni ddim yn ymddeol i fyw dramor yn rhywle cynnes. Rydyn ni'n aros tua phum milltir i ffwrdd, felly rydyn ni eisiau gallu dod yma a theimlo'n falch."

Ffynhonnell y llun, ROB MELEN

Melin hanesyddol

Sefydlodd taid Eifion Griffiths, Henry Griffiths, Melin Tregwynt pan brynodd y felin yng Nghasmorys ger Hwlffordd yn 1912.

Roedd melin wedi bod ar y safle ers yr 17eg ganrif pan dalodd Henry Griffiths tua £750 i'w phrynu mewn ocsiwn yn Abergwaun.

"Hyd yn oed yn amser fy nhaid roedd gennym ni ryw fath o werthu ac archebu drwy'r post," meddai Eifion.

Dywedodd fod ei dad, Howard Griffiths, wedi helpu gwireddu potensial y felin fel siop a hafan i dwristiaid.

Hyfforddodd Eifion Griffiths fel pensaer cyn dychwelyd i redeg y busnes teuluol yn y 1970au.

Priododd â'i wraig Amanda yn 1986 ac mae'r ddau wedi ehangu'r busnes i fod yn ddylunydd a chynhyrchydd tecstilau Cymreig.

Cynllunio olyniaeth

Disgrifiad o’r llun,

Dylan Huws ac Owain Llwyd o Gwmni Da

Mae cwmnïau Cymreig eraill hefyd wedi dewis trosglwyddo perchnogaeth o'u sylfaenwyr i'r gweithlu.

Trosglwyddodd perchnogaeth cwmni cynhyrchu teledu Cwmni Da yng Nghaernarfon i'w weithwyr yn 2019.

Dylan Huws oedd yr unig sylfaenydd a oedd dal gyda'r cwmni pan benderfynodd drosglwyddo perchnogaeth i ddwylo'r gweithlu.

Mae e bellach yn gadeirydd anweithredol Cwmni Da, ac felly ddim yn cymryd rhan mewn unrhyw benderfyniadau gweithredol y busnes.

"Dwi yn falch iawn bod y cwmni dal i fodoli, ac yn dal i ffynnu," meddai.

"Dwi'n meddwl bod y cyfnod 'da ni wedi bod trwyddo yn ddiweddar, gyda Covid, wedi dangos y cwmni ar ei orau."

'Hapus gyda'r newid'

Mae'r ffaith fod Covid wedi cyd-fynd a throsglwyddo'r cwmni i ddwylo'r gweithwyr wedi helpu, yn ôl Mr Huws.

"Mae pawb wedi tynnu at ei gilydd, mae pawb wedi gorfod wynebu sefyllfaoedd gyda'i gilydd, ac wedi dod trwyddo fo gyda'i gilydd."

Fel rhan o'r broses o drosglwyddo rheolaeth mae'r staff wedi gorfod ethol cynrychiolydd i fwrdd yr ymddiriedolaeth.

Owain Llwyd, sy'n olygydd lluniau i Cwmni Da ac wedi gweithio yno ers 2010, gafodd ei ethol.

"Pan wnaethon ni ddechrau clywed bod 'na newid yn mynd i fod ym mherchnogaeth y cwmni, mi oedd y staff yn teimlo yn eitha' nerfus dwi'n meddwl. Roedd 'na ansicrwydd yna," meddai Mr Llwyd.

Ond wrth i amser symud ymlaen mae'r staff yn hapus iawn gyda'r newid.

"Dyw e ddim yn newid mawr o ddydd i ddydd. Mae pob peth yn symud ymlaen. 'Da ni yn cael mwy o wybodaeth am sut mae'r cwmni yn perfformio.

"Mae yn teimlo yn fwy democrataidd," meddai.

Mae'r cynhyrchydd wafflau yn Llandysul, Tregroes Waffles, hefyd yn mabwysiadu model busnes sy'n eiddo i'r gweithwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Andrew Evans fod cynnydd yn y math yma o drosglwyddo perchnogaeth

Mae Andrew Evans yn bartner gyda Geldards - cwmni sydd wedi cynghori nifer o fusnesau wrth iddyn nhw gynllunio ac yna trosglwyddo perchnogaeth i'w staff.

"Mae diddordeb yn y math yma o drosglwyddo perchnogaeth wedi tyfu yn syfrdanol yn y ddwy flynedd a hanner diwethaf," meddai Mr Evans.

Dywedodd nad oedd y model yn addas i bob busnes, ond yn gweithio yn dda gyda theuluoedd sydd wedi sefydlu cwmni ond heb olynydd amlwg i gymryd yr awenau.

"Mae'r sylfaenydd yn gwerthu ei siâr i'r ymddiriedolaeth. Mi all hynny ddigwydd ar dermau sy'n para dros gyfnod o flynyddoedd [i'w talu].

"Ac maen nhw'n cael eu talu o lif arian y busnes, felly does dim angen i'r staff fynd i fenthyg symiau mawr o arian o'r banc."

Pynciau cysylltiedig