'Cyfleoedd i sector amaeth Cymru drwy allforio i Awstralia'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Fferm
Disgrifiad o’r llun,

Mae undebau amaeth Cymru wedi mynegi pryderon ers i gytundeb Awstralia gael ei arwyddo ym mis Rhagfyr

Mae "cyfleoedd" i'r diwydiant amaeth yng Nghymru ffynnu drwy allforio i Awstralia a thu hwnt, yn ôl un o uwch swyddogion y wlad honno.

Bu George Brandis yn ymweld ag Ynys Môn ddydd Gwener, gan gyfarfod ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd.

Ers dechrau trafodaethau'r cytundeb masnach, a gafodd ei arwyddo ym mis Rhagfyr, mae undebau amaeth Cymru wedi mynegi eu gwrthwynebiad iddo.

Dywedodd llywydd NFU Cymru nad ydy'r diwydiant yma ac yn Awstralia yn cystadlu ar "dir gwastad" oherwydd safonau amaeth gwahanol.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd George Brandis drafodaethau gyda ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd tra'n ymweld ag Ynys Môn

Tra'n ymweld â hufenfa Mona, dywedodd Mr Brandis, sy'n Uwch Gomisiynydd Awstralia i'r DU, y byddai cynhyrchwyr bwyd wedi ei brosesu ar eu hennill yn sgil y cytundeb masnach.

"Er enghraifft, mae caws Cymreig, sydd wedi ei gynhyrchu gyda llaeth gan ffermwyr Cymru, yn rhan o'r sector amaeth fydd yn gweld manteision mawr o'r cytundeb hwn," meddai.

Ond dywedodd hefyd y gallai ffermwyr cig oen ac eidion elwa yn y tymor hir, os yw'r DU yn ymuno ag ardal fasnach ehangach yn Asia yn sgil y cytundeb ag Awstralia.

"Mae 'na gyfleoedd yma i'w bachu, nid yn unig yn Awstralia ond hefyd drwy ddod yn aelod o barth masnach gwledydd arfordir y Môr Tawel, y CPTPP," dywedodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pryder Undeb Amaethwyr Cymru yw y bydd y gystadleuaeth gyda chynnyrch o Awstralia yn annheg

Y gallu i fewnforio ac allforio heb dollau sydd wrth galon y cytundeb masnach, sydd angen cael sêl bendith gwleidyddol cyn dod i rym.

Yn ôl dadansoddiad Llywodraeth y DU, bydd yn dod â £10.4bn yn fwy i'r economi. Ond bydd hefyd yn tynnu £94m o'r sectorau amaeth, coedwigaeth a physgota.

Er mwyn lliniaru effeithiau negyddol, bydd y cyfyngiadau presennol ar fewnforio cig oen ac eidion o Awstralia yn cael eu llacio'n raddol dros gyfnod o 15 mlynedd.

Dydy Aled Jones, llywydd NFU Cymru a aeth i gwrdd â Mr Brandis ddydd Gwener, ddim yn credu bod "dim byd o fantais" i amaethwyr Cymru yn y cytundeb.

"Maen nhw wedi rhoi mynediad i'r farchnad yma yn rhad iawn," meddai. "Does 'na ddim ymrwymiad mewn gwirionedd i lawer iawn o safonau."

Dywedodd bod ffermwyr yn gorfod plannu coed er mwyn taclo newid hinsawdd, tra bod coedwigoedd yn Awstralia yn cael eu torri er mwyn galluogi mwy o ffermio cig oen ac eidion.

"Tydi o ddim yn dir gwastad, o ran yr hyn yr ydan ni'n gystadlu arno fo," meddai.

Cafodd Mr Brandis gwmni'r AS Ceidwadol dros Ynys Môn ar ei daith o gwmpas yr ardal, ac mae hi'n dweud bod gwrando ar ffermwyr yn "bwysig".

"Rhan o fy swydd i yma, a'r rheswm dros wahodd Uwch Gomisiynydd Awstralia yma, oedd i roi sicrwydd bod y rhain yn gyfleoedd cyffrous," meddai Virginia Crosbie AS.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn rhannu rhai o bryderon y diwydiant ond mai sicrhau dyfodol y sector amaethyddol yw'r flaenoriaeth.

"Ein nod yn y tymor hirach yw creu sector amaethyddol cynaliadwy, ffyniannus a chryf yng Nghymru i genedlaethau'r dyfodol drwy ein Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig," dywedodd llefarydd.

"Bydd y cynllun newydd yn darparu incwm i ffermwyr nad yw cytundebau masnach yn effeithio arno."

Pynciau cysylltiedig