Staff Prifysgol Caerdydd o blaid mynd ar streic
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau staff ym Mhrifysgol Caerdydd wedi pleidleisio o blaid streicio yn sgil anghydfod dros gyflogau ac amodau gwaith.
Roedd ychydig dros 50% o aelodau Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU) yn y brifysgol wedi cymryd rhan yn y bleidlais, ac roedd 80% o blaid gweithredu'n ddiwydiannol.
Mae'n golygu bod Prifysgol Caerdydd ymhlith 37 o sefydliadau ar draws y DU sydd wedi cyrraedd y trothwy ar gyfer mandad i gynnal streic.
Dywedodd y brifysgol mewn datganiad bod canlyniad y bleidlais yn "siomedig".
Bydd y mandad i weithredu'n ddiwydiannol yn para tan fis Hydref.
Galw am £2,500 yn fwy i bob aelod staff
Yn ôl yr undeb, mae cyflogau staff, yn sgil chwyddiant, dros 25% yn is ers 2009 mewn termau real.
Mae'r undeb yn galw am godiad cyflog o £2,500 i bob un o weithwyr y brifysgol, terfyn ar anghydraddoldebau mewn cyflogau a chytundebau sero awr, a chamau i atal "llwyth gwaith anodd ei reoli".
Mae aelodau'r undeb eisoes wedi gweithredu'n ddiwydiannol ar 13 o ddyddiau mewn nifer o brifysgolion ar draws y DU yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol.
Mae rhai o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi mynegi pryderon ynghylch yr effaith bosib ar eu haddysg.
"Gydag arholiadau ar y gorwel, mae'n gyfnod llawn straen yn barod i fyfyrwyr," meddai Isabel Bowen, sy'n astudio cymdeithaseg. "Heb gefnogaeth y darlithwyr bydd popeth ddeng gwaith gwaeth."
Dywedodd Lauren Saunders, sy'n astudio Sbaeneg a gwleidyddiaeth: "Rydw i'n poeni ynghylch y gefnogaeth y bydd myfyrwyr yn derbyn".
Gofynnodd y myfyriwr cemeg, Carl Panis: "Sut fydda' i'n gofyn am help gan fy nhiwtoriaid? Fe allai effeithio ar fy arholiadau.
"Fe allwn ni gael llai o ddarlithoedd yn ystod y streic ac fe allai gael effaith anferthol ar fy addysg."
Effaith negatif ar rai 'yn anochel'
Caerdydd yw'r unig brifysgol yng Nghymru lle gwnaeth o leiaf 50% o aelodau'r undeb fwrw pleidlais, gan gyrraedd y trothwy sy'n angenrheidiol yn gyfreithiol i gael mandad i streicio.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd: "Er nad yw'n glir eto ar ba ffurf a phryd y bydd yna weithredu, mae'n anochel y bydd gweithredu diwydiannol yn cael effaith negatif ar rai o ein myfyrwyr.
"Tra ein bod yn parchu hawl staff i gymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol cyfreithlon, ein blaenoriaeth o hyd yw darparu addysg i ein myfyrwyr.
"Gallwn roi sicrwydd i fyfyrwyr y bydd y brifysgol yn parhau ar agor a byddwn yn gwneud popeth posib i leihau'r tarfu ar ei hastudiaethau."