Costau byw: Sut i leihau biliau nwy a thrydan
- Cyhoeddwyd

"Y peth mwya' poenus amdano yw fod o ddim o ddifri wedi hitio ni eto. Mae 'na bryder allan yna yn sicr ond mae'r poen go iawn yn mynd i ddod yn ystod yr hike nesaf…jest achos mai dyna pryd 'da ni'n defnyddio mwya' o drydan a nwy - yn y gaeaf."
Gyda phrisiau ynni'n codi i filiynau o bobl ar draws Prydain, mae 'na bryder fydd mwy o bobl yn mynd i ddyled. Mae pris nwy a thrydan wedi codi 54% o 1 Ebrill 2022 - ar gyfartaledd fydd hynny'n golygu cynnydd o £693 yn y bil blynyddol, a chwsmeriaid yn talu cyfanswm o £1,971 y flwyddyn. Ac mae disgwyl fydd cynnydd pellach yn yr hydref pan mae'r cap ar filiau nwy a thrydan yn cael ei adolygu eto.
Un sy'n cynnig help i bobl ar fudd-daliadau yng Ngwynedd yw Meilyr Tomos sy'n gweithio i Y Dref Werdd ym Mlaenau Ffestiniog, prosiect sy'n taclo tlodi tanwydd ac yn cynnig cyngor am leihau defnydd ynni.

Rhian Medi a Meilyr Tomos, Y Dref Werdd
Yma, Meilyr sy'n egluro am y sefyllfa yno a'r trafferthion mae rhai yn ei wynebu, gan gynnig cyngor am sut i leihau biliau egni:

Sefyllfa yng Ngwynedd
Y cyfartaledd cyflog yng Ngwynedd ydy rhwng £26,000 a £27,000 felly os ydy biliau pobl dros £2700 y flwyddyn a ti'n defnyddio diffiniad Llywodraeth Cymru o dlodi tanwydd, mae hanner y sir mewn tlodi tanwydd, yn sicr o'r hike (sef y cap ar filiau nwy a thrydan) nesaf ymlaen. Mae mor ddifrifol a hynny.

Ffigurau Llywodraeth Cymru
Mi allai bron i 45% (614,000) o gartrefi yng Nghymru brofi tlodi tanwydd yn dilyn y cynnydd yn y cap ar brisiau yn Ebrill 2022 (mae cartref yn cael ei ystyried i fod yn profi tlodi tanwydd os oes mwy na 10% o incwm y cartref yn cael ei wario ar danwydd).

Mae cysyniad y cap ar brisiau yn anodd i'w ddeall gan mai cap cyfartalog ydi o ac mae amgylchiadau pawb mor wahanol. Mae rhai efo nwy rhwydwaith, rhai heb, rhai yn dal i ddefnyddio paraffin heaters yn Blaenau. Felly mae'n anodd rhoi ffigwr ar lle fyddan ni erbyn gaeaf nesaf.
Mae nwy dal hanner y pris y cilowat i gymharu efo trydan. 'Does gan cyrion ein pentrefi ni a'r ardaloedd gwledig yng Ngwynedd ddim nwy - maen nhw'n ddibynnol ar olew, LPG neu trydan i gynhesu a dyw olew a LPG ddim yn cael ei rheoleiddio gan Ofgem felly does dim cap.
Mae'r bobl sy'n defnyddio'r tanwydd hynny, mae eu prisiau nhw wedi neidio fyny dros nos.
Mae 'na dipyn o dai cymdeithasol yng Ngwynedd yn cael eu cyflenwi efo olew neu LPG a trydan. Mae lot ohonyn nhw yn Blaenau. Mae costau byw tŷ sy'n cael ei gynhesu gan drydan o leiaf tua £500 y flwyddyn yn fyw - does dim adlewyrchiad o hynny yn y system fudd-daliadau.
Y pobl sy' wedi copio fo yn syth yw'r pobl mwyaf bregus - y rhai sy'n talu efo prepayment meters. Dydyn nhw ddim yn cael cynnig y fixed deals gan y cwmnïau ynni. Mae'r ystod o tariffs alli di ddewis os ti'n talu drwy prepayment yn fach iawn.
Gostwng defnydd
Mae pobl sy'n talu efo prepayment meters yn defnyddio lot llai o danwydd na'r arfer. Roedd gŵr mewn tŷ cymdeithasol sy' fod i gael ei gynhesu efo storage heaters - yn lle defnyddio'r storage heaters mae o'n defnyddio heater bach portable mae'n gallu rhoi ymlaen am awr ar y tro.
Er mae o mewn tŷ cymdeithasol mae o wedi dewis peidio defnyddio'r dechnoleg maen nhw wedi darparu i gynhesu'r lle. Does dim dwywaith bod o'n dioddef - mae'n byw mewn tŷ heb wres.

Sut all bobl gadw biliau trydan a nwy i lawr? Newid ymddygiad
Rhowch y thermostat i lawr un gradd.
Defnyddiwch technoleg sy'n rhaglenni'r gwers i ddod ymlaen ar amser penodol, yn sicr yn y bore. O ran seicoleg y peth os ti'n deffro a'r tŷ yn gynnes, mae'n oce. Beth sy'n gallu digwydd yw mae pobl yn deffro i dŷ oer ac yn troi pob gwres ymlaen ac yn gwastraffu gwres fel hynny.
Cofiwch gau drysau a defnyddiwch rhimynnau drafft (draught excluders).
Paneli solar - ystyriwch gyplysu'r system efo batris - pan mae'n dod i 4.30 y prynhawn, sef y cyfnod mwyaf prysur o ran ynni, mae'n bosib symud drosodd i ddefnyddio trydan wrth y batri. Mae'n costio dros £6k i osod system felly yn y tŷ.
Gosodwch ddefnydd inswleiddio eich hunain - mae rôl yn costio tua £20. Mae angen tua 250mm o inswleiddio yn y to. Os ydy'r defnydd inswleiddio yn hen, bydd llwch wedi disgyn arno a'i wasgu i lawr. Os chi'n ffit yn gorfforol ac yn defnyddio crawl boards, mae'n werth cael golwg yn yr atig ac ystyried lluchio 100mm ar ei ben o. Mwy pwysig fyth - os oes gyda chi aelodau o'r teulu sy'n hŷn a'n defnyddio lot o wres, ystyriwch gwneud hynny iddyn nhw.
Coginio - defnyddiwch popty araf (slow cooker) neu'r popty ping. Popty araf yw'r ffordd rhataf o goginio unrhyw beth. Yn aml mae'r bwyd sy'n rhad yn yr archfarchnad yn fwyd ti'n cynhesu yn y popty fel sglodion wedi rhewi, pizza, lasagne parod. Yn aml iawn mae'r bwydydd yma angen bod yn y popty am 40 munud i awr. Os ydy popty yn defnyddio 2 cilowatt 'neith o gostio £1 i goginio'r bwyd hynny am awr.
Oes 'na un peth hawdd gallai pawb fod yn gwneud?
Mesurydd clyfar (smart meter) - tu ôl i'r sgrin fach mae 'na safle we lle mae'r gwybodaeth am eich defnydd ynni llawer mwy manwl. Dyna'r math o addysgu ein hunain 'da ni angen gwneud.

Os ydy chi'n cael trafferth talu biliau:
Mae gan pob gwmni ynni gronfa ar gyfer pan chi mewn dyled.
Ac mi fydd darpariaethau ar gael trwy banciau bwyd neu cwmniau yn y sector - ewch at eich awdurdod lleol am gyngor pellach. Mae gan pob awdurdod lleol gyngor ar-lein fel yr adrand help yma gan Gyngor Gwynedd., dolen allanol
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig help gydag effeithlonrwydd ynni, dolen allanol.

Mae Cymru Fyw eisiau clywed sut mae'r cynnydd mewn prisiau a chostau byw wedi effeithio arnoch chi.
Ydych chi wedi gorfod addasu y ffordd yr ydych chi'n siopa, gymdeithasu neu agwedd arall o'ch bywyd?
Rhannwch eich profiadau gyda ni ac fe fyddwn yn cyhoeddi detholiad o'r straeon ar Cymru Fyw. E-bostiwch: cymrufyw@bbc.co.uk