Milwyr Cymreig 'yn barod' i amddiffyn Ewrop rhag Rwsia

  • Cyhoeddwyd
Rhydian Stephens
Disgrifiad o’r llun,

Milwyr Cymreig fel Rhydian Stephens sy'n arwain ymgyrch NATO ger y ffin gyda Rwsia yn Estonia

Mae milwyr Cymreig "yn barod" i amddiffyn Ewrop rhag ymosodiad gan Rwsia petai Vladimir Putin yn troi ei olygon at wledydd eraill.

Wrth arwain ymgyrch NATO ger y ffin gyda Rwsia yn Estonia, dyna oedd y farn gadarn ymhlith milwyr a swyddogion milwrol catrawd y Cymry Brenhinol.

Mae rhyw 850 o filwyr y gatrawd Gymreig yn arwain bataliwn NATO o 1,200, sydd hefyd yn cynnwys milwyr o Ddenmarc a Ffrainc.

Ynghyd â dros 1,000 o luoedd Estonia, maen nhw wedi bod yn ymarfer a pharatoi dros y dyddiau diwethaf ar gyfer y posibilrwydd o ymosodiad gan Rwsia ar wledydd y Baltig.

Cafodd camerâu Newyddion S4C weld y paratoadau a siarad â rhai o'r milwyr Cymreig sydd yno.

'Gallwn ni ymladd yn ôl'

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jack Wilkes o Dywyn ymysg y cannoedd o filwyr Cymreig ger ffin Rwsia

Dywedodd y ffiwsilwr Jack Wilkes, sydd yn dod o Dywyn, ei fod yn hyderus bod y grym a'r gallu gan y milwyr yno i wrthsefyll unrhyw fygythiad gan fyddin Rwsia.

"Petai'r Rwsiaid yn ymosod, allwn ni ymladd 'nôl. Dwi'n siŵr o hynny," meddai.

Ac adlewyrchu'r hyder ymhlith ei ddynion mae prif swyddog y Cymry Brenhinol, Ru Streatfeild.

"Ein rôl yma yw rhwystro ymosodiad a bod yn barod i amddiffyn. Beth bynnag fydd yn digwydd, ry'n ni yn barod amdano fe.

"Dyna holl bwrpas yr ymarfer yma - ac mae wedi rhoi hyder i bawb. Ry'n ni'n barod."

Disgrifiad o’r llun,

Pwrpas yr ymarfer yw rhoi hyder i'r milwyr, medd Ru Streatfeild

Mae swyddogion amddiffyn Estonia wedi rhybuddio bod angen dyblu presenoldeb NATO yn y wlad er mwyn eu diogelu nhw rhag bygythiad Rwsia.

Dywedodd Kusti Salm, ysgrifennydd parhaol ar amddiffyn y wlad, wrth Newyddion S4C bod y bygythiad hwnnw "yn gwbl glir".

'Ni moyn helpu'

Mae NATO wedi cryfhau ei phresenoldeb yn nwyrain Ewrop. Ers dechrau'r rhyfel yn Wcráin, mae niferoedd milwyr NATO yn y rhanbarth wedi cynyddu o 13,000 i 40,000.

Ond dyw'r gynghrair heb gytuno i alwadau cyson arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky, i anfon milwyr yno i helpu amddiffyn y wlad.

Yn ôl Rhydian Stephens o Rydaman, mae hynny yn rhwystredig.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y lluniau yma eu cymryd gan ddyn camera BBC Cymru ar ffin Estonia a Rwsia

"Fi'n credu mae lot o bobl yn y fyddin moyn helpu pobl Wcráin. Ond obviously, nid ni sydd yn 'neud y penderfyniadau yna," meddai.

"Ni'n gweld beth sydd yn digwydd yn y newyddion a ni moyn helpu, ond mae'n rhaid i ni just gwneud swydd ni yma. Mae'n bwysig i ni fod yma yn Estonia hefyd."

Wrth ymarfer, rowndiau blanc nid bwledi byw oedd yn cael eu saethu.

Ond wrth wneud hynny mor agos at y ffin, y bwriad yw rhoi neges glir i Rwsia, petaen nhw'n ystyried croesi'r ffin i Estonia, bod yna fwledi byw a byddinoedd yn barod amdanyn nhw.

Pynciau cysylltiedig