Amseroedd aros gwaethaf erioed i adrannau brys ysbytai

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
YsbytyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

65.1% o bobl gafodd eu trosglwyddo i ward neu eu gyrru adref o adrannau brys o fewn pedair awr yn ôl y ffigyrau diweddaraf

Mae ysbytai Cymru wedi cofnodi eu ffigyrau amseroedd aros gwaethaf erioed ar gyfer adrannau brys.

Unwaith eto methwyd targedau'r llywodraeth i drin pobl mewn adrannau damweiniau ac achosion brys o fewn pedair a 12 awr.

Amseroedd ymateb ambiwlansys ar gyfer y galwadau mwyaf brys oedd yr ail waethaf a gofnodwyd erioed.

Mae nifer y bobl ar restrau aros am driniaeth ysbyty nad yw'n frys yng Nghymru wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed am yr 22ain mis yn olynol.

Cododd y cyfanswm i 691,885 ym mis Chwefror, ond mae cyfradd y cynnydd yn parhau i arafu.

30% yn is na'r targed

Dim ond 65.1% o bobl gafodd eu trosglwyddo i ward neu eu gyrru adref o adrannau brys o fewn pedair awr yn ôl y ffigyrau diweddaraf - y targed ydy 95%.

Roedd y ffigwr yma ar ei isaf yn Ysbyty Glan Clwyd (44.1%) ac Ysbyty Maelor yn Wrecsam (46.2%).

Roedd mwy o gleifion nac erioed yn disgwyl dros 12 awr i gael eu trin hefyd - cyfanswm o 10,886.

Y targed yw na ddylai unrhyw un fod yn disgwyl cyhyd.

Amseroedd aros yng Nghymru. Y nifer sy'n disgwyl am unrhyw driniaeth, fesul mis.  Hyd at ddiwedd Chwefror 2022.

Fe wnaeth nifer y bobl fu'n mynychu adrannau brys gynyddu'n sylweddol - 232 yn rhagor o ymweliadau pob dydd ar gyfartaledd na'r mis blaenorol.

Roedd cynnydd hefyd yn nifer y galwadau i'r Gwasanaeth Ambiwlans fis Chwefror - y 10fed mis yn olynol y cafodd dros 100 o alwadau "coch" eu gwneud pob dydd ar gyfartaledd.

Y targed yw i'r gwasanaeth gyrraedd y galwadau hyn - y rhai mwyaf brys - o fewn wyth munud, ond dim ond 51.1% o'r amser llwyddwyd i wneud hynny.

Amseroedd aros mewn adrannau brys yng Nghymru. % yn disgwyl llai na'r targed o bedair awr.  Amser i gleifion gael eu trosglwyddo i ward neu eu gyrru adref.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n anodd i wasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng ddarparu gofal yn amserol ac yn gyson - mae sawl ffactor yn gyfrifol am hyn.

"Ymhlith y ffactorau hynny y mae cyfraddau absenoldebau salwch uwch ac anawsterau wrth ryddhau pobl o'r ysbyty, gan olygu bod mwy o oedi wrth aros am welyau mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.

"Rydym hefyd wedi gweld cynnydd yn y galw ac adroddodd y gwasanaethau ambiwlans brys am gynnydd o 10% yn nifer y galwadau 'coch', neu alwadau lle mae bywyd yn y fantol, bob dydd ym mis Mawrth o'i gymharu â mis Chwefror.

"Adroddwyd hefyd am 46% yn rhagor o alwadau coch ym mis Mawrth 2022 o'i gymharu â'r un mis yn 2021.

Ychwanegodd "Yr wythnos nesaf, byddwn yn cyhoeddi cynllun manwl i egluro sut y byddwn yn mynd i'r afael â'r amseroedd aros ar gyfer y cleifion hynny y cafodd eu triniaeth ei hoedi dros dro yn sgil y pandemig."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer y bobl ar restrau aros Cymru wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed am yr 22ain mis yn olynol

Ymateb y pleidiau

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George: "Ar ôl i reolaeth Llafur o'r GIG gyrraedd isafbwyntiau newydd wrth i amseroedd aros gyrraedd uchelfannau newydd yr hydref diwethaf, roedd pobl Cymru'n disgwyl i bethau wella o'r fan honno, nid gwaethygu.

"Ond dyma ni ar drothwy gweld rhestrau aros y GIG yn torri eu record yn fisol am ddwy flynedd, mae rhestrau aros adrannau damweiniau ac achosion brys ar eu gwaethaf erioed, gydag ymatebion ambiwlans heb fod ymhell ar ei hôl hi - pan fo pethau'n gwella yn Lloegr.

"Mae pob un o'r achosion hyn yn fwy nag ystadegyn yn unig - mae'n berson sy'n digalonni mewn poen yn meddwl tybed sut mae'r gwasanaethau cyhoeddus y maent yn talu amdanynt wedi cael eu camreoli mor ddrwg."

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd a gofal: "Mae hwn yn set arall o ffigyrau sy'n peri pryder mawr, gyda phwysau ar y gwasanaeth iechyd yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol.

"Mae staff rheng flaen yn parhau i weithio mor galed ag y gallant, ond mae angen i arweinyddiaeth ddod o'r lefel uchaf a dyna pam mae angen i ni weld cynllun Llywodraeth Cymru i leihau amseroedd aros ym mhob sector gan gynnwys gofal, triniaeth a diagnosteg fel mater o frys.

"Mae unrhyw welliant bach mewn amseroedd aros i'w groesawu, ond roedd bron i 44,000 o gleifion yn dal i aros yn hirach na'r amser targed ar gyfer diagnosteg, sydd ddeuddeg gwaith yn fwy na chyn y pandemig."

Dywedodd Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Mae'r ffigyrau hyn yn drychinebus i bobl ar hyd a lled Cymru. Mae Llafur yn methu'n llwyr â mynd i'r afael â'r argyfwng hwn, mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu a gweithredu yn awr.

"Rhaid i'r llywodraeth lansio ymchwiliad i'r argyfwng yn ein gwasanaethau ambiwlans, llenwi'r 3,000 o swyddi gwag yn y GIG yng Nghymru a thaclo amseroedd aros canser dinistriol."

Ymatebion eraill

Dywedodd Dr Olwen Williams, Is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru: "Gydag argyfwng recriwtio sylweddol a chynyddol yn y GIG yng Nghymru, rhaid i ymddiriedolaethau a byrddau iechyd feddwl yn wahanol am sut y gallant lenwi bylchau rota mewn ysbytai.

"Un ateb yw dylunio swyddi arbenigol newydd, sy'n rhoi cyfle i feddygon greu eu cynlluniau swyddi eu hunain a dilyn eu diddordebau clinigol ac addysgu.

"Rydyn ni'n gwario cannoedd ar filiynau o bunnoedd ar feddygon locwm yng Nghymru, ond eto ni chafodd 59% o'r swyddi meddygon ymgynghorol a gafodd eu hysbysebu yng Nghymru eu llenwi eleni."

'Dwys a pharhaus'

Wrth ymateb i'r ffigyrau, dywedodd yr Athro Jon Barry, cyfarwyddwr Cymru yng Ngholeg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr: "Mae ffigyrau amseroedd aros yng Nghymru yn dal i gynyddu o fis i fis. Mae'r rhain yn adlewyrchiad o'r pwysau dwys a pharhaus y mae'r gwasanaeth iechyd yn eu hwynebu.

"Rydym yn clywed gan lawfeddygon ledled Cymru fod Covid-19 yn dal i effeithio ar lawdriniaeth gynlluniedig neu ddewisol oherwydd bod cleifion a staff yn profi lefelau cadarnhaol ac uchel o absenoldeb staff.

"Mewn rhai ardaloedd, mae gwasanaethau dewisol unwaith eto yn cael eu hatal. Mae'r holl ganslo munud olaf hyn yn peri gofid i gleifion sy'n aros mewn poen a thrallod am eu llawdriniaeth arfaethedig.

"Rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â difrifoldeb y sefyllfa a sefydlu canolfannau dewisol neu hybiau llawfeddygol ledled Cymru i gael gwasanaethau dewisol yn ôl ar waith."

Ffynhonnell y llun, Conffederasiwn GIG Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Darren Hughes fod angen "chwalu'r syniad bod Covid wedi diflannu"

Mae'r pwysau ar ofal iechyd a chymdeithasol yng Nghymru yn "gwbl ddiderfyn", yn ôl rheolwyr y gwasanaeth iechyd.

Dywedodd Darren Hughes o Gonffederasiwn GIG Cymru bod nifer uchel yr achosion Covid ar hyn o bryd yn amharu ar allu'r gwasanaeth iechyd i ddarparu gofal.

"Mae angen chwalu'r syniad bod Covid wedi diflannu achos dydy e ddim," meddai Mr Hughes.

"Bydd ei effaith ar y gwasanaeth iechyd i'w deimlo am flynyddoedd i ddod."

Dywedodd bod adrannau gofal brys yn wynebu'r "pwysau mwyaf difrifol yr ydyn ni wedi ei weld erioed" a bod "pwysau enfawr" ar y gwasanaeth ambiwlans.

Eglurodd hefyd bod trafferthion ariannu a staffio wedi arwain at "bwysau aruthrol" ar ofal cymdeithasol yn y gymuned.

"Mae'n broblem ar draws y system gyfan," meddai.