Y Gynghrair Genedlaethol: Woking 2-1 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Cafodd Wrecsam brynhawn siomedig yn erbyn Woking wrth golli yn y Gynghrair Genedlaethol.
Er mai Wrecsm oedd ar y blaen ar yr hanner gyda gôl agoriadol Tyreke Johnson, buan y tarodd Woking yn ôl.
Max Kretzschmar lwyddodd i ddod â'r sgôr yn gyfartal ac yna Jamar Loza yn sicrhau'r fuddugoliaeth.
Mae Wrecsam yn ail ar y tabl, saith pwynt y tu ôl i Stockport.