Y Gynghrair Genedlaethol: Weymouth 1-6 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Jordan DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Jordan Davies ddwywaith i Wrecsam yn Weymouth nos Fawrth

Sicrhaodd Wrecsam y triphwynt mewn gêm llawn goliau ar arfordir de Lloegr nos Fawrth.

Weymouth, sy'n brwydro i aros yn y gynghrair, aeth i'r egwyl ar y blaen diolch i gôl Tom Bearwish.

Ond er mor siomedig oedd perfformiad Wrecsam yn yr hanner cyntaf, trowyd y gêm ar ei phen bron yn syth wedi cychwyn yr ail.

Gydag ergyd nerthol o 25 llath ddoth Jordan Davies â'r Dreigiau'n gyfartal o fewn eiliadau wedi'r chwiban.

Roedd y cefnwr chwith yn rhan o symudiad ail gôl Wrecsam hefyd, a ddaeth ond funud yn ddiweddarach, gyda Paul Mullin yn hawlio'r clod am y cyffyrddiad olaf.

Daeth trydydd yn fuan wedyn gyda'r chwaraewr ganol cae, James Jones, yn gorffen y symudiad.

Davies oedd yn gyfrifol am bedwaredd gôl Wrecsam, eto o gryn bellter, gan sicrhau ei 20fed o'r tymor.

Ond ddim hwnnw oedd diwedd y sgorio, gyda Mullen eto yn rhwydo'r bumed wedi 78 munud, ac Ollie Palmer gyda'r chweched brin funud yn ddiweddarach.

Bellach does ond pedwar pwynt yn gwahaniaethu'r Dreigiau a Stockport, sydd ar y brig.

Mae canlyniad heno hefyd yn golygu fod Weymouth yn syrthio i adran Vanarama y Gogledd.