Cyhuddo AS Pen-y-bont o fethu â stopio ar ôl damwain car

  • Cyhoeddwyd
Jamie WallisFfynhonnell y llun, JUSTIN TALLIS
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jamie Wallis ei ethol i gynrychioli Pen-y-bont ar Ogwr yn etholiad cyffredinol 2019

Mae Aelod Seneddol Ceidwadol Pen-y-bont ar Ogwr, Jamie Wallis wedi'i gyhuddo o fethu â stopio ar ôl damwain car y llynedd.

Dywed Heddlu De Cymru fod Mr Wallis, 37, o'r Bont-faen ym Mro Morgannwg, hefyd wedi'i gyhuddo o fethu â rhoi gwybod am y ddamwain, gyrru heb ofal a sylw, a gadael cerbyd mewn safle peryglus.

Dywedodd y llu fod y digwyddiad honedig, fis Tachwedd diwethaf, yn Llanfleiddan, ger Y Bont-faen.

Bydd yn ymddangos yn y llys fis nesaf.

Mr Wallis oedd yr AS cyntaf i ddatgan, ddiwedd mis Mawrth, ei fod yn drawsryweddol.

Pynciau cysylltiedig