Cyn-AS yn rhannu ei phrofiadau o aflonyddu rhywiol

  • Cyhoeddwyd
Betty Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Betty Williams, fu'n AS am 13 blynedd, yn poeni bod ymddygiad ASau yn gwaethygu

Mae cyn aelod seneddol o Gymru wedi bod yn sôn am ei phrofiadau hi o aflonyddu rhywiol yn San Steffan.

Roedd Betty Williams yn cynrychioli etholaeth Conwy am 13 blynedd rhwng 1997 a 2010.

Yn sgil yr honiadau diweddar am achosion o gamymddwyn gan aelodau yn Nhŷ'r Cyffredin, mae Ms Williams wedi bod yn trafod yr hyn ddigwyddodd iddi hi tra roedd yn gweithio yn y senedd

Mewn cyfweliad â'r Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru, dywedodd bod tri aelod seneddol gwrywaidd wedi ymddwyn yn amhriodol tuag ati ar dri achlysur gwahanol.

'Ddim yn dderbyniol'

Mewn un achos, roedd aelod wedi dod ati hi mewn coridor yn hwyr yn y nos ar ôl i ASau fod yn pleidleisio, ac wedi "sbïo arna fi i fyny ac i lawr... y looks 'ma maen nhw'n gallu rhoi... a gofyn i fi a faswn i'n mynd i glwb nos hefo fo y noson honno".

Dywedodd bod aelod hefyd wedi cyffwrdd yn ei phen-glin yn siambr Tŷ'r Cyffredin.

"Roedden ni wedi gorffen trafod rhyw fesur ac yn disgwyl i gael mynd i bleidleisio, a dyma hwn yn croesi drosodd o ochr y Torïaid i'r ochr lle o'n i'n eistedd ar y meinciau cefn, a dyma fo'n dŵad a d'eud mor dda oedd y ddadl wedi bod, a rhoi ei law a gwasgu fy mhen-glin i - yn y siambr ei hun.

"Doedd hynny ddim yn dderbyniol," meddai Ms Williams.

Disgrifiad o’r llun,

Betty Williams oedd Aelod Seneddol Llafur yn etholaeth Conwy rhwng 1997 a 2010

Fe ddigwyddodd y trydydd achos mewn cyfarfod o grŵp amlbleidiol, meddai.

"O'dd hi'n reit llawn yno a dyma'r aelod 'ma yn dod ata i - oedden ni'n weddol sownd i'n gilydd, o'dd hi'n llawn 'na - a rhoddodd ei law ar fy mron i, a gwasgu fy mron i."

Yn ôl Ms Williams, fe benderfynodd hi beidio â chwyno'n swyddogol am yr aelodau seneddol hyn, ond ei bod hi wedi "delio hefo fo yn fy ffordd fy hun", a doedd hi ddim wedi cael trafferth ganddyn nhw wedyn, meddai.

Mae nifer o achosion o gamymddygiad gan aelodau seneddol wedi cael sylw dros y dyddiau diwethaf.

'Mynd yn waeth yn lle'n well'

Roedd stori yn y Mail on Sunday fod aelod Ceidwadol yn cyhuddo dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, Angela Rayner, o groesi a dadgroesi ei choesau'n fwriadol er mwyn tynnu sylw Boris Johnson tra'r oedd yn siarad yn y siambr.

Mae aelod Llafur benywaidd o Gymru hefyd wedi cyhuddo aelod o gabinet yr wrthblaid o wneud sylwadau anweddus amdani.

Mae Betty Williams yn poeni bod ymddygiad ASau yn gwaethygu.

"Ces i brofiad o dair enghraifft, ond pan 'da chi'n meddwl am be' sy'n digwydd rŵan... mae 'di mynd yn waeth yn lle'n well dydi.

"Mae cael bod yn aelod seneddol yn fraint ac yn anrhydedd fawr os 'da chi'n 'neud o am y rhesymau iawn - yn amlwg dyw rhai o'r rhain ddim yn 'neud o am y rhesymau iawn."