AS: 'Aelod Llafur wedi gwneud sylwadau anweddus amdana'i'
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol benywaidd o Gymru wedi honni wrth BBC Cymru fod aelod o gabinet yr wrthblaid wedi gwneud sylwadau anweddus amdani.
Dywed ei bod wedi cael ei disgrifio fel "un oedd yn gallu ennill pleidleisiau" gan fod "menywod am fod yn ffrindiau iddi a bod dynion eisiau cysgu gyda hi".
Nid hwn oedd yr unig dro iddi brofi ymddygiad ffiaidd neu rywiaethol, meddai.
Dywed ASau benywaidd eraill o Gymru eu bod wedi cael sylwadau tebyg ers camu i'r byd gwleidyddol.
Dywed yr AS, sy'n dymuno aros yn ddienw am eu bod yn ofni'r canlyniadau, bod y sylwadau wedi cael eu gwneud yn ystod sgwrs mewn digwyddiad.
Dywedodd bod swyddog wedi'i llongyfarch ar fod yn "seren y dyfodol" o fewn ei phlaid.
Ond cyn iddi gael amser i ymateb mae'n honni bod yr aelod o Gabinet yr Wrthblaid wedi torri ar draws gyda'i ddisgrifiad brwnt ohoni.
Mewn ymateb, dywedodd y Blaid Lafur petai cwyn yn cael ei wneud y byddai'n cael ei "ystyried yn gwbl ddifrifol".
Mae BBC Cymru wedi cysylltu â nifer o ASau benywaidd yn sgil anfodlonrwydd am erthygl ym mhapur y Mail on Sunday ar Ddirprwy Arweinydd Llafur, Angela Rayner.
Roedd yn cynnwys honiadau gan AS Ceidwadol dienw bod Ms Rayner yn croesi ac yn dad-groesi ei choesau yn Nhŷ'r Cyffredin i dynnu sylw Boris Johnson.
Condemniodd y prif weinidog yr erthygl a'r AS dienw, tra dywedodd Ms Rayner ei bod "wedi fy llorio" ond ei bod wedi cael ei "llethu" gan gefnogaeth.
Ond mae'r digwyddiad wedi tynnu sylw at bryderon ynghylch y modd y caiff menywod eu trin yn y Senedd a gwleidyddiaeth.
Datgelodd yr AS Ceidwadol dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, Fay Jones, sut yr oedd hi wedi bod yn destun "dilyw o e-byst" ar ôl ymddangosiad ar BBC Newsnight yr wythnos ddiwethaf.
"Fe ddywedon nhw wrtha i fy mod 'yn ast fach dwp' a sylwadau tebyg," meddai.
"Daeth 99% ohonyn nhw gan ddynion."
Gwnaeth Ruth Jones o'r Blaid Lafur, sydd wedi cynrychioli Gorllewin Casnewydd ers ennill is-etholiad yn 2019, gymariaethau rhwng ei gwaith fel ffisiotherapydd ac yna rheolwr yn y GIG, a'i gwaith yn y Senedd.
Wrth ymateb i sylwadau gan yr AS benywaidd sydd wedi gwasanaethu hiraf, Harriet Harman, fod rhywiaeth yn y Senedd "bron yn gyffredinol", dywedodd Ms Jones fod y sylw "yn llygad ei le".
"Mae'n atseinio fy mhrofiad i ers dod yn AS," meddai.
"Wrth ddod o'r GIG mae wedi bod yn syfrdanol gweld a phrofi'r modd y mae ASau a staff benywaidd yn cael eu trin yn wahanol yn y Senedd ar sail eu rhyw, cefndir neu'r ffordd y maent yn gwisgo.
"Mae merched yn cael eu barnu gan reolau gwahanol - nid am eu sgiliau a'u galluoedd - yn wahanol iawn i ddynion.
"Mae angen i'r Senedd symud â'r amseroedd."
'Colli llais merched'
Mae sgyrsiau BBC Cymru gydag ASau wedi datgelu thema gyson o wleidyddion benywaidd yn cael eu barnu'n wahanol i ddynion.
Dywedodd Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin, fod yna beryg y bydd llais menywod yn cael eu colli yn y byd gwleidyddol.
"Dwi'n trio perswadio menywod i roi eu hunain ymlaen i fywyd cyhoeddus. Mae rhywun yn ystyried y gwahanol ffactorau - yr ymyrraeth ar eu bywydau teuluol a'r lefel o sarhad mae nhw'n mynd i gael.
"Mae rhywun yn dod i'r casgliad - pam fuaswn isio dod i fewn i fywyd cyhoeddus? Ac os ydy hynny'n digwydd yna mi fydden ni'n colli lleisiau menywod yn y lle ble dan ni angen eu lleisiau."
Fe ddywedodd AS Llafur Gŵyr, Tonia Antoniazzi ei fod "bob amser ar ei meddwl" bod "sylwadau'n cael eu gwneud ar olwg menyw yn hytrach na'r hyn mae hi'n ei ddweud".
Roedd pryder bron yn unfrydol ymhlith yr ASau y siaradodd BBC Cymru â nhw y gallai'r ffordd y mae gwleidyddion benywaidd yn cael eu trin a'u portreadu atal menywod eraill rhag dilyn gyrfa mewn gwleidyddiaeth.
Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus
Yn y cyfamser mae'n edrych yn debyg y bydd Llywodraeth y DU yn ymwrthod â chynlluniau Pwyllgor Safonau Tŷ'r Cyffredin i ychwanegu 8fed Egwyddor o 'Barch' at y Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus.
Mae'r pwyllgor yn llunio cod ymddygiad newydd ar gyfer ASau fel rhan o ganlyniadau sgandal lobïo Owen Paterson.
Wrth ymddangos gerbron y pwyllgor ddydd Mawrth, awgrymodd Arweinydd y Tŷ Mark Spencer fod yr egwyddorion presennol eisoes yn ymdrin â pharch.
"Mae parch eisoes wedi'i gynnwys o dan biler arweinyddiaeth," meddai.
"Byddai ei wneud yn 8fed egwyddor annibynnol yn gamgymeriad; byddai'n agored i or-ddehongli gan bobl eraill, a fydd wedyn yn dweud oherwydd fy mod yn anghytuno â chi, nid oeddwn yn eich parchu chi."
Dywedodd Mr Spencer wrth y pwyllgor hefyd fod yr erthygl am Ms Rayner yn "warth".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2020
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2022