'Dim lle i fi mewn gwleidyddiaeth am fy mod i'n fenyw'

  • Cyhoeddwyd
skype
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'Olivia' yn dweud fod y negeseuon yn gwneud iddi deimlo fod dim lle iddi mewn gwleidyddiaeth

Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn cynnwys iaith gref, all beri gofid

Mae 'na bryder y bydd mwy a mwy o fenywod yn troi eu cefnau ar wleidyddiaeth oherwydd negeseuon maen nhw'n eu derbyn ar-lein, yn ôl elusen Chwarae Teg.

Mae BBC Cymru wedi siarad gyda dwy fenyw ifanc, sy'n aelodau o bleidiau gwleidyddol, sydd wedi derbyn negeseuon cas wrth rannu eu barn wleidyddol ar wefannau cymdeithasol.

Mae 'Olivia', nid ei henw iawn, yn aelod o'r Blaid Lafur.

"Mae e jyst yn bombardment o pob lle. Be' bynnag yw platfform ti, ti am gael dynion yn dweud wrtho ti, 'you won't get far because you're a woman'.

"Fi'n cael pobl yn dweud 'you won't get too far if you don't sleep with me' - ar Twitter fi wedi cael 'you're a whore', 'put your tits away', 'you're stupid', 'you're unintelligent', popeth fel 'ny.

"Ma'n 'neud i chi deimlo bach yn fychan. Ti ddim yn bodoli mewn gwleidyddiaeth, 'sdim lle i ti."

Yn ôl Olivia, ei golwg sy'n denu ymatebion.

"Pryd bynnag dwi'n mynegi barn, ma' wastad pobl sy'n gallu anfon negeseuon cas, ond bron bob tro ma' nhw'n o accounts sy'n anonymous, ond mae e fwy am fy ngolwg na dim byd arall.

"'Sneb yn tynnu chi i un ochr a dweud bod chi'n mynd i brofi hyn. Fel merch ifanc ti'n mynd i agor dy hun fyny i [negeseuon cas] a dwi wedi cael hynny am chwe mlynedd.

"Dydych chi ddim yn cwyno, achos 'sdim pwynt. Fi'n ofnus o'r repercussions o fi yn reportio fe."

'Cwynion yn pentyrru o fewn y blaid'

Mae Jas Samrai yn aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae hi hefyd wedi derbyn negeseuon amhriodol ar-lein.

"Ga'i negeseuon yn bygwth fy lladd, bwlio, neu jyst negeseuon cas ynglŷn â sut dwi'n edrych neu fy mhersonoliaeth, neu fy naliadau gwleidyddol. Mae'n eitha' gwael.

"Ma' fy mywyd rhyw yn cael ei godi yn aml hefyd. Fe fydd pobl yn fy ngalw yn 'slut', yn 'whore' a pethau fel 'na.

"A hyd yn oed ar fy marn gwleidyddol dwi'n cael fy ngalw'n dwp, neu'n waeth na hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jas Samrai, sy'n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol

Ychwanegodd: "Mae'n ddiddiwedd. Mae'n rhaid bod fi'n cael tri neu bedwar o'r negeseuon yma bob wythnos neu ddwy. Ma' hynny'n lot i berson ifanc dwi'n credu.

"O fewn ein plaid ni, ar hyd o bryd, dyw'r system gwynion ddim yn gweithio'n rhy dda. Ma' 'na gwynion yn pentyrru.

"Ma' 'na gwynion difrifol iawn sydd heb eu delio eto, heb sôn am gwynion bach. Felly o ran y pleidiau 'sneb lot yn cwyno, achos does dim lot chi'n gallu 'neud."

'Stopio menywod rhag cael llais'

Mae rhai o'r enghreifftiau mae Olivia a Jas wedi eu rhannu gyda BBC Cymru yn annymunol a dweud y lleia'.

Ond tra bod Jas wedi cwyno, doedd Olivia ddim yn teimlo'n gyfforddus yn gwneud hynny.

Yn ôl Helen Antoniazzi o elusen Chwarae Teg, mae 'na beryg y gallai'r math yma o negeseuon wneud i rai menywod droi eu cefnau ar wleidyddiaeth.

"Dwi'n credu yn y bôn ma' 'na bobl yn ceisio stopio menywod rhag cael llais a mynegi eu barn, a ma' nhw'n defnyddio'r abuse yma fel ffordd i stopio merched siarad, a stopio nhw drio am yrfa wleidyddol.

"Galle mwy a mwy o fenywod benderfynu nad y'n nhw am sefyll etholiad neu cynnig eu henwau ar gyfer swyddi gwleidyddol oherwydd y gallen nhw dderbyn negeseuon fel hyn ar-lein."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Helen Antoniazzi fod menywod yn cael eu targedu am leisio'u barn

Fe gysylltodd BBC Cymru gyda'r Blaid Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol, er mwyn cael eu hymateb nhw i'r materion gododd Olivia a Jas.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llafur bod y blaid yn cymryd pob cwyn am gam-drin neu aflonyddu - boed ar gyfryngau cymdeithasol neu wyneb yn wyneb - o ddifri', eu bod nhw'n cael eu hymchwilio'n drwyadl, a bod camau disgyblaeth priodol yn cael eu cymryd.

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu bod nhw'n cymryd y materion yma o ddifri', ac eu bod nhw'n ymchwilio i bob cwyn.

Fe ddywedon nhw hefyd bod 'na sefydliadau o fewn y blaid er mwyn datblygu a chynnig cymorth i fenywod a phobl ifanc, gan gynnwys delio a chamdriniaeth ar gyfryngau cymdeithasol.

Politics Wales, BBC One Wales am 10:15 dydd Sul, 24 Mai