Ramadan: 'Profiad arbennig sy'n fwy nag ymprydio'

  • Cyhoeddwyd
Zain
Disgrifiad o’r llun,

Eleni yw profiad cyntaf Zain o ymprydio

"Mae'n gwneud i chi deimlo fel eich bod chi'n rhan o rywbeth mwy."

I Zain, 13, mae ei brofiad cyntaf o ymprydio ar gyfer Ramadan wedi bod yn brofiad "arbennig".

Teimladau tebyg sydd gan Nuha, 13, sydd hefyd yn ymprydio am y tro cyntaf.

"Mae'n teimlo'n eitha cŵl… fel 'wow, dwi'n rhan o'r darlun ehangach yma,' fel y gymuned yma sy'n fwy na dim ond fi."

Mae Zain, o Abertawe a Nuha o Bort Talbot ymhlith miliynau o Fwslemiaid sydd wedi bod yn ymatal rhag bwyta ac yfed yn ystod oriau golau dydd trwy gydol mis Ramadan.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nuha'n teimlo yn "rhan o'r darlun ehangach" wrth ymuno yng nghyfnod Ramadan am y tro cyntaf

Ymprydio yw prif elfen y mis ond mae yna sylw hefyd i hunan-wella, myfyrio a rhoi i'r llai ffodus.

Mae pobl ifanc fel arfer yn dechrau ymprydio ar gyfer Ramadan yn eu harddegau cynnar.

Er bod y ddau wedi gweld ymprydio yn "her" ar adegau, dywedodd Zain a Nuha eu bod wedi dysgu llawer o'u profiadau.

"Roeddwn i'n eitha balch o'r hyn wnes i ei gyflawni. Fe alla' i gyflawni unrhyw beth os wnes i lwyddo i wneud hynny," meddai Zain.

"Ar ddiwedd y dydd, ar amser iftar, doedd hi ddim wir yn cymryd llawer o fwyd i mi fod yn llawn, sy'n rhywbeth nad oeddwn yn ei ddisgwyl ar ôl bod yn llwglyd trwy'r dydd.

"Mae'n dangos ein bod ni'n gwastraffu llawer o fwyd."

Ychwanegodd fod ymprydio yn mynd yn "fwy heriol wrth i amser fynd yn ei flaen", yn enwedig yn yr ysgol, ond bod mwy i'r mis nag ymatal rhag bwyta ac yfed.

"Nid ymprydio yn unig yw hyn. Rhan fawr arall o Ramadan yw rhoi i elusen a gwella eich hun fel person."

Helpu elusennau

Thema ganolog yn ystod mis Ramadan yw rhoi arian i elusen a chyfrannu mewn ffyrdd eraill at achosion elusennol.

Fe wnaeth elusen Islamic-Relief amcangyfrif bod Mwslemiaid wedi rhoi dros £150m i achosion da yn ystod Ramadan 2020.

I Nuha, yn ogystal â chyfle i gyfrannu at achosion da, roedd Ramadan hefyd yn gyfle i bwyso a mesur rhai o'i harferion ei hun.

"Nes i sylwi mod i'n mynd ar fy ffôn yn aml! Pan dorrais i o allan o'n niwrnod, sylweddolais faint o'n i'n ei dreulio ar fy ffôn mewn gwirionedd, a faint o amser oeddwn i'n ei wastraffu," meddai.

Ychwanegodd fod ymprydio yn rhoi teimlad o ddiolchgarwch iddi am yr hyn oedd ganddi.

Disgrifiad o’r llun,

Amana: 'Mynd yn ôl at eich gwerthoedd craidd'

Mae Amana, 22, wedi bod yn ymprydio ers rhai blynyddoedd, ond mae'n dweud ei bod yn 'caru' Ramadan bob blwyddyn.

"Rwy'n meddwl ei bod hi'n amser mor braf o'r flwyddyn i ailosod, a mynd yn ôl at eich gwerthoedd craidd, rydych chi'n dysgu sut i gael gwared ar lawer o'ch arferion diangen."

Dywedodd y fyfyrwraig blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Abertawe nad yw pobl weithiau'n sylweddoli nad yw pawb yn gorfod ymprydio yn ystod Ramadan.

"Mae'n un o'r pump piler, ond does dim rhaid i chi ymprydio os nad ydych chi'n gallu."

Mae rhai wedi'u heithrio am resymau iechyd.

'Dysgu am eich crefydd'

Mae hyn yn cynnwys menywod sy'n bwydo ar y fron, henoed, pobl sy'n sâl neu unigolion sy'n teithio.

I Amana, fel Zain a Nuha, mae'r ymdeimlad o gymuned yn ganolog i'w phrofiad.

"Mae'n deimlad cŵl iawn a diddorol iawn, i fod yn gysylltiedig â'r gymuned Fwslemaidd gyfan ar draws y byd.

"Gan wybod ein bod ni i gyd yn gysylltiedig â Ramadan ac rydyn ni i gyd yn mynd trwy'r un heriau, yn dysgu am eich crefydd yn eich ffordd eich hun, i gyd yn profi ffydd mewn gwahanol ffyrdd."

Pynciau cysylltiedig