Chwe Gwlad Merched: Cymru 8-10 Yr Eidal

  • Cyhoeddwyd
Cymru yn erbyn Yr EidalFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd yn ddiweddglo siomedig i ymgyrch Chwe Gwlad Cymru ddydd Sadwrn wrth i'r Eidal lwyddo i gipio buddugoliaeth gyda chic gosb ym munud ola'r gêm.

Ond gall Cymru ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn gorffen y bencampwriaeth yn y trydydd safle - eu canlyniad gorau ers 13 blynedd.

Er i Gymru gael dechrau addawol i'r gêm, fe fethon nhw a sgorio unrhyw bwyntiau yn gynnar yn yr hanner cyntaf.

Wedi rhyw 20 munud o chwarae fe ddaeth cyfle i'r ymwelwyr wrth i Robyn Wilkins a Sioned Harries gael cardiau melyn.

Manteisiodd yr Eidal ar hynny - sgoriodd Sara Barattin gais cynta'r gêm, a diolch i drosiad Michela Sillari roedd hi'n 0-7 i'r Eidal erbyn hanner amser.

Sgoriodd Robyn Wilkins driphwynt cyntaf y Cymry wedi 71 munud, ac roedd gobaith am fuddugoliaeth wedi i Keira Bevan roi Cymru ar y blaen o 8-7 drwy sgorio cais bum munud yn ddiweddarach.

Ond fe wnaeth yr Eidal gloi'r gêm gydag ergyd drom i'r tîm cartref, wrth i'w cic gosb wedi 79 munud ddod â'r sgôr i 8-10.

Pynciau cysylltiedig