Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-0 Southend
- Cyhoeddwyd
Roedd un gôl yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Wrecsam wrth iddyn nhw herio Southend yn Y Gynghrair Genedlaethol ddydd Sadwrn.
Er i'r tîm cartref roi pwysau ar yr ymwelwyr, roedd hi'n ddi-sgôr ar y Cae Ras erbyn hanner amser.
Ond diolch i gôl Ollie Palmer yn fuan wedi'r egwyl, roedd yna fuddugoliaeth i Wrecsam ddydd Sadwrn.
Mae'r ddau dîm yn ddisymud yn y gynghrair - gyda Wrecsam yn parhau'n ail, a Southend yn 12fed.