Galw am fwy o fenthyciadau llai i fusnesau bach
- Cyhoeddwyd
Dylai mwy o fenthyciadau bach fod ar gael i gefnogi busnesau, yn ôl arbenigwyr ym maes microgyllid.
Mae benthyciadau gan elusen Purple Shoots a mudiad Be Nesa Llŷn wedi helpu pobl a fyddai wedi cael trafferth cael cyllid gan y banciau mawr.
Dywedodd yr arbenigwr busnes yr Athro Dylan Jones-Evans y dylai banc datblygu Llywodraeth Cymru gynyddu ei ddarpariaeth o fenthyciadau bach.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i gefnogi busnesau Cymreig, a'u bod wedi cynnig £14.5m o fuddsoddiadau a chefnogi 200 o fusnesau newydd drwy eu Cronfa Micro Fenthyciadau sydd werth £30m.
Microgyllid ydy'r arfer o fenthyg symiau cymharol fach yn aml i fusnesau llai neu unigolion.
Tra bod y banciau mawr wedi canolbwyntio'n draddodiadol ar fenthyciadau mawr ar gyfer byd busnes, gall microgyllid ganiatáu i gwmnïau wneud gwelliannau bach a buddsoddi mewn offer ac adnoddau i dyfu'r busnes.
Ymateb i 'rwystredigaeth'
Fe wnaeth Karen Davies sefydlu Purple Shoots ym Mhontyrpidd wyth mlynedd yn ôl i gynnig benthyciadau bach i helpu pobl i ddechrau eu busnesau.
"Roeddwn i wedi bod yn y diwydiant gwasanaethau ariannol am y rhan fwyaf o fy mywyd, ac wedi gweld y rhwystredigaeth oedd yn wynebu nifer o bobl nad oedd yn cael eu hariannu gan y sefydliadau hynny.
"Fel arfer roedd hyn oherwydd eu bod wedi bod allan o waith am amser hir - nid oedd ganddynt unrhyw arian i'w roi i mewn, neu efallai bod ganddynt sgôr credyd gwael.
"Roeddwn i wedi cyfarfod â nhw, ac yn meddwl bod ganddyn nhw syniadau busnes oedd yn dda ac yn hyfyw, ond doedden nhw ddim yn gallu bwrw 'mlaen gyda nhw."
Dyma'r busnesau mae Purple Shoots wedi eu targedu gyda chyllid ers hynny, ac mae'r cwmni am i fwy o fusnesau geisio defnyddio microgyllid.
'Andros o wahaniaeth'
Ym Mhen Llŷn mae'r grefftwraig Miriam Jones wedi cael benthyciad bach gan Be' Nesa Llŷn, mudiad sy'n cefnogi syniadau busnes lleol.
Defnyddiodd hi'r arian i brynu teclyn laser er mwyn cynnig mwy o amrywiaeth o fowlenni a gwaith pren.
"'Naeth o andros o wahaniaeth. Dwi wedi gallu neud powlenni efo 'sgrifen personol ar gyfer priodasau ac ar gyfer penblwyddi, a dwi'n gallu rhoi cerddi [arnyn nhw].
"Mae pobl yn dod ata i weithiau yn gofyn 'alli di roi englyn ar y bowlen yma fel presantau?', felly da chi'n cael rhywbeth reit unigryw a phersonol fel presant."
Mae buddsoddi yn yr offer newydd wedi agor drysau iddi.
"Dwi wedi cael lot o gyfleoedd just achos mod i'n gallu rhoi ysgrifen ar fy ngwaith," meddai.
Cynnig 'hyblygrwydd'
Mae cynllun Be Nesa Llŷn wedi bod yn llwyddiannus iawn, gan ariannu offer cneifio i ffermwyr ac offer ffitrwydd i athrawes ddawns.
Dywedodd un o'r ymddiriedolwyr, Michael Strain: "Da ni wedi gwneud yn dda iawn. 'Da ni ddim wedi colli pres eto."
"Mae'r pres wedi dod 'nôl i mewn, ond os ydy rhywun wedi cael cyfnod byr o helynt ariannol a chael ei wasgu am dri neu bedwar mis, os 'nawn nhw siarad efo ni wnawn ni ddim mynnu'r arian yn ôl. Fydd 'na ddim costau ychwanegol am fethu taliad misol, sydd i gyd yn bethau sy'n digwydd i bobl efo benthyciadau mwy ffurfiol.
"Wedyn mae'r hyblygrwydd 'na yna, sydd yn un o'i rinweddau mwyaf, dwi'n meddwl."
'Bwlch yn y farchnad'
Mae sefydliadau ariannol eraill yn cynnig benthyciadau bach hefyd, fel y mae Banc Datblygu Cymru sydd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Dylan Jones-Evans, sy'n athro entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol De Cymru, fod gan y banc rôl i gau "bwlch yn y farchnad" ar gyfer cyllid i gwmnïau newydd.
"I raddau does dim pwynt i fanc sy'n eiddo cyhoeddus gystadlu â banciau'r stryd fawr i ariannu busnesau. Eu rôl ddylai fod i lenwi'r bylchau yn y farchnad, ac mae hwn yn fwlch enfawr yn y farchnad.
"Nawr, a bod yn deg, mae rhywfaint o arian yn mynd tuag at rai microfusnesau yng Nghymru. Ond mae'r broblem yn llawer mwy na hynny."
Dywedodd yr Athro Jones-Evans na fydd llawer o fusnesau "yn gofyn am gannoedd o filoedd" o bunnoedd mewn benthyciadau.
"Fe fyddan nhw'n gofyn am bump, deg, pymtheg, ugain mil o bunnoedd, dim ond i wneud y gwahaniaethau hynny i'r busnes sy'n eu gwneud yn gystadleuol ac yn eu galluogi i wneud y cyfraniad hwnnw i'r economi a'r gymdeithas," meddai.
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i gynnig "cyngor, cymorth a chyllid" i fusnesau bach yng Nghymru, a'u bod yn cefnogi Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru i'r diben hwnnw.
"Yn 2019 fe wnaeth Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru lansio Cronfa Micro Fenthyciadau Cymru, cronfa werth £30m.... sy'n cynnig benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 am gyfnod o hyd at 10 mlynedd i ficro busnesau sydd eisoes yn bodoli a rhai newydd, yn ogystal â busnesau bach a chanolig a mentrau cymdeithasol.
"Ym mis Chwefror 2022, roedd y gronfa wedi cefnogi 660 busnes, gan fuddsoddi £14.5m yn uniongyrchol a denu dros £4.3m o fuddsoddiadau preifat pellach. Mae'r gronfa wedi creu a diogelu dros 2,600, a chefnogi 200 o fusnesau newydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2020