Y Gynghrair Genedlaethol: Boreham Wood 1-1 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae breuddwydion Wrecsam o sicrhau dyrchafiad awtomatig i'r Ail Adran wedi pylu rhywfaint ar ôl methu a churo deg dyn Borham Wood.

Cic o'r smotyn yn y 89 munud wnaeth ddryllio gobeithion Wrecsam.

Golygai buddugoliaeth Stockport yn Chesterfield, eu bod nhw nawr dri phwynt ar y blaen i'r Dreigiau ond hefyd gyda gêm mewn llaw.

Bydd Stockport yn teithio i'r Cae Ras ddydd Sul nesaf.

Doedd Wrecsam ddim ar eu gorau, ond llwyddodd foli wych Paul Mullin i'w rhoi ar y blaen.

Cafodd Jamal Fyfield, cyn chwaraewr canol cae Wrecsam, ei anfon o'r cau cyn yr eglwyl am drosedd ar Jordan Davies.

Er gwaetha'r mantais i Wrecsam, daeth deg dyn Borham Wood yn gyfartal ar ôl i Tyler French droseddu yn erbyn Kane Smith, gyda Tyrone Marsh yn rhwydo'r gic o'r smotyn.