Gobaith eto o gloddio mwynau ar Fynydd Parys yn Môn
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni mwyngloddio o Fôn yn dweud bod archwiliadau diweddar ar Fynydd Parys ger Amlwch, wedi bod yn "hynod addawol".
Mae Anglesey Mining PLC wrthi'n cynnal archwiliadau tyllu ar y mynydd gyda'r gobaith o ailddechrau cloddio am fetalau fel copr, sinc a phlwm.
Yn ystod y 19eg ganrif, Mynydd Parys oedd canolbwynt copr y byd, ac fe amcangyfrifir i 3.3 miliwn tunnell o gopr gael ei allforio i bedwar ban byd yn ystod y cyfnod.
Yn ôl y cwmni maen nhw'n gobeithio symud y cynllun ymlaen dros y misoedd nesaf.
Gwerth £207m o fetalau
Yn 2017 fe ddangosodd canlyniadau adroddiad bod gwerth ailddechrau cloddio'r safle, gan ddweud bod gwerth tua $270m (£207m) o fetalau yno, gan gynnwys aur ac arian.
Awgrym yr adroddiad yw y byddai'n costio tua $53m (tua £40.5m) i gloddio 1,000 tunnell y dydd ar y safle.
Roedd y ddogfen yn amcangyfrif y byddai'r gwaith yn cynhyrchu 14,000 tunnell o sinc, 7,200 tunnell o blwm a 4,000 o gopr y flwyddyn dros gyfnod o wyth mlynedd.
Gyda'r cwmni bellach wedi derbyn cefnogaeth gan noddwyr a chaniatâd cynllunio, maen nhw wrthi'n cynnal archwiliadau ac arbrofion dichonoldeb ar Fynydd Parys.
Yn ôl y prif weithredwr, Jo Battershill, mae'r gwaith o dyllu "yn hynod addawol" ac mae'r cwmni yn edrych ymlaen at fwrw'r cynllun ymlaen at "gamau nesaf y datblygiad".
Y gred yw bod asesiadau amgylcheddol, fydd yn ystyried goblygiadau'r cynllun, yn dechrau yn y man hefyd.
Byddai unrhyw aur gaiff ei gloddio yn cael ei farchnata fel Aur Cymru, yn ôl y cwmni.
Mae 'na groeso yn lleol wrth glywed y newyddion, yn ôl y cynghorydd Richard Owain Jones.
"Os daw o, mae'n newyddion da i'r ardal - mae unrhyw addewid o waith a swyddi o safon i'w groesawu," meddai.
"Y mynydd neu'r môr oedd hi flynyddoedd yn ôl, ac roedd pawb efo cysylltiad i'r mynydd yma. Gobeithio y cawn ni 'chydig bach - rhyw ganran fechan - o hynny yn ôl i'r ochr yma o'r ynys."
Mae'r posibilrwydd o ailddechrau cloddio yno wedi cael ei grybwyll sawl gwaith yn y gorffennol, ond mae'r galw am fetelau megis sinc ar gyfer y diwydiant ceir trydan wedi rhoi hwb i'r gobeithion y tro hwn.
"Yn y gorffennol doedd pris y metalau yma ddim digon uchel iddyn nhw [y cwmni] fedru fforddio ei dynnu, ond efo gwneud ceir trydan mae'r angen am rhain yn fwy nag erioed ac wrth i bris y shares fynd i fyny, ella y bydd o werth o iddyn nhw."
Mae gan Owen Roberts gysylltiadau teuluol agos â'r mynydd pan oedd y gwaith yn ei anterth.
"Fel pawb yn Amlwch ar y pryd - mae'r mynydd wedi twtsiad pob teulu brodorol yn Amlwch, ac mae o wedi bod yn adnodd reit bwysig i ni," meddai.
"Dwi'n meddwl mai'r ffaith bod 'na sinc yma sy'n tynnu lot. Mae'r copr a'r plwm yn bwysig hefyd wrth gwrs, a rhyw faint o arian ac aur."
Ond mae Mr Roberts yn gobeithio na fydd y gwaith cloddio yn amharu ar yr elfen dwristiaeth, sy'n denu miloedd i'r ardal.
"Dwi ddim yn meddwl y gwneith o achos maen nhw'n sôn am ochr Rhosybol a gwaelodion y mynydd, ac mae'r ffaith bod Siafft Morris wedi ei dyllu yn yr 1980au yn golygu bod y gwaith mawr wedi'i wneud yn barod."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd20 Awst 2021