Addysg gartref: Nifer wedi treblu mewn pum mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae diwrnod ysgol Destiny, 14, o Lanelli yn wahanol i ddiwrnod ysgol y rhan fwyaf o ddisgyblion, a hynny am ei bod yn cael ei dysgu adref gan ei mam.
Mae hi'n un o oddeutu 90,000 o blant sy'n cael ei dysgu adref ar draws y DU, a dywed bod y math hwn o addysg yn rhoi "teimlad o ryddid" iddi.
Mae ei diwrnod yn cychwyn tua amser cinio a thra'n astudio ar gyfer ei harholiadau TGAU mae Destiny, sy'n awtistig, yn gwerthu teganau ar gyfer cathod ar-lein.
Yn ôl data newydd mae nifer y rhai sy'n cael eu haddysgu adref yng Nghymru wedi treblu mewn pum mlynedd.
Dywed ymgyrchwyr bod y cyfnodau clo yn sgil Covid wedi bod yn ysbrydoliaeth i rai rhieni addysgu eu plant adref.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio i "gryfhau" eu canllawiau er mwyn sicrhau lles plant a gwneud yn siŵr eu bod yn cael "addysg addas".
Dywed Destiny bod cael addysg adref wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'w hyder a'i hiechyd meddwl. Mae hi wedi bod yn cael ei haddysgu gan ei mam Elina ers iddi fod yn saith.
"Dwi'n astudio gwahanol bynciau ac weithiau rwy'n cael dewis pwnc fy hun," meddai
"Dywedwch bo' fi ond am ddysgu am ddaearyddiaeth - dwi'n gwneud hynny.
"Dwi'n dueddol o gychwyn am 10:00 neu amser cinio - mae hynny'n rhoi digon o amser i fi ddihuno, gwneud yr hyn sydd ei angen yn y bore a llunio cylchgrawn.
"Mae pob diwrnod yn gwbl wahanol. Hyd yn oed os nad wyf yn eistedd lawr ac yn ysgrifennu rywbeth mae Mam yn rhoi dewis i fi o naill ai fynd tu allan i wylio adar neu rywbeth neu edrych ar raglen ddogfen.
"Dwi'n gallu chwarae cerddoriaeth ymlaciol, dwi'n gallu dod â thedis i'r ysgol," ychwanegodd Destiny.
Beth mae addysg adref yn ei olygu?
Er bod addysg yn orfodol ar draws y DU does dim rhaid i blant fynd i'r ysgol.
Does dim rhaid dilyn y cwricwlwm cenedlaethol ond mae'n gyfrifoldeb ar y rhiant i sicrhau bod yr hyn sy'n cael ei ddysgu yn cyfrannu at addysg y plentyn.
Mae Deddf Addysg 1996 yn nodi bod yn rhaid i bob plentyn gael addysg effeithiol sy'n addas i'w oed a'i allu.
Mae rhieni neu warchodwyr sy'n dewis dysgu eu plant adref yn teimlo'n aml eu bod yn gallu cwrdd â gofynion unigol eu plentyn yn well na'r ysgol - a does dim rhaid iddyn nhw fod yn athro neu gael unrhyw gymhwyster arall.
Mae rhai rhieni sy'n addysgu adref, o bosib, wedi eu dylanwadu gan gredoau athronyddol, ysbrydol neu grefyddol.
Does yna ddim cyllid ar gyfer rhoi addysg i blant yn y cartref a does dim rhaid glynu at unrhyw amserlen neu dymor ysgol.
Ond mae modd i awdurdodau lleol weithredu os yw hi'n ymddangos nad yw'r rhieni yn darparu addysg addas.
Dyw union ffigyrau y plant sy'n cael eu haddysgu adref ddim ar gael gan nad oes rhaid i deuluoedd roi gwybod i'w hawdurdod lleol - heblaw eu bod yn tynnu eu plentyn o'r ysgol.
Y llynedd fe wnaeth ymchwil gan y BBC ganfod fod nifer y plant yn y DU sydd wedi cofrestru ar gyfer addysg yn y cartref wedi codi 75% a'r amcangyfrif yw fod 90,000 o blant yn cael eu haddysgu adref.
Ddegawd yn ôl roedd llai na 900 o blant yn cael eu haddysg adref, ond bellach amcangyfrifir bod y nifer yn 3,540. Y flwyddyn flaenorol roedd y nifer yn 3,273.
Yn Sir Gaerfyrddin, lle mae cartref Destiny, mae'r nifer fwyaf o blant sy'n cael eu haddysgu adref - 402. Mae hynny wedi codi o 284 mewn dwy flynedd.
Mae'r gyfradd sirol uchaf o blant sy'n cael eu haddysgu adref yng Ngheredigion - 32.1 o bob 1,000 o blant.
Mae ffigyrau sydd wedi dod i law y rhaglen Wales Live yn dangos bod nifer y plant sy'n cael eu haddysgu adref wedi bron â threblu yn y pum mlynedd ddiwethaf.
Mae'n bosib bod y ffigyrau'n uwch yn sgil mwy o ymdrech gan gynghorau i ganfod a chofnodi teuluoedd sydd wedi penderfynu peidio cael addysg yn yr ysgol.
'Llai o ffrindiau ond dwi'm yn poeni'
Fe adawodd Destiny yr ysgol pan yn saith oed a dywed bod y cyfan yn "ormod iddi".
"Mi 'nes i ddysgu tipyn o bethau ond roedd hi'n anodd a phan fydden i'n mynd adre' ro'n i'n flin ac yn crio," meddai.
Mae'n dweud bod ganddi lai o ffrindiau na'r rhai sy'n mynd i'r ysgol ond dyw hi ddim yn credu bod hynny, o reidrwydd, yn beth drwg.
"Petawn i'n gorfod mynd i'r ysgol, fe fyddai hynny yn effeithio ar fy hyder i," meddai.
"Mae nifer yn cael eu bwlio nawr ac mae'r sefyllfa yn gwaethygu, yn arbennig gyda'r cyfryngau cymdeithasol. Mae 'na wastad gystadleuaeth. Ry'ch chi wastad yn gorfod gwisgo mewn ffordd arbennig.
"Mae yna lwyth o reolau yn yr ysgol a dwi'm yn meddwl y buaswn yn gallu ymdopi gyda hynny petawn i'n mynd yno."
'Ofn a straen' i riant
Ond dywed ei mam, Elina, sy'n ddylunydd graffeg bod yna heriau i addysgu adref a bod y cyfan yn gallu bod yn "ofnus" ac yn "straen" i riant sengl.
"Fe wnaeth fy mywyd newid yn llwyr gan bo fi'n fam sengl. Roedd yn rhaid i fi gyflogi fy hun a stopio gwneud y swydd o'n i'n arfer ei gwneud," meddai'r fam sy'n 40.
"Ry'n ni wedi cael cyfnodau da iawn ond cyfnodau gwael hefyd.
"Yn ariannol mae'r cyfan yn gallu bod yn bwysau gan bod yn rhaid i fi dalu am bob dim sy'n gysylltiedig gyda'i haddysg."
'Covid wedi rhoi blas'
Yn ôl rhai mae'r pandemig wedi golygu bod mwy o bobl wedi dysgu eu plant adref.
"Rwy'n credu bod Covid wedi rhoi blas o beth yw addysgu adref a bod rhai wedi gweld bod eu plentyn yn ffynnu," meddai Wendy Charles-Warner, cadeirydd y grŵp addysgu adref, Education Otherwise.
Dywed Llywodraeth Cymru bod y nifer sy'n cael eu haddysgu adref wedi cynyddu yn ystod y pandemig ond eu bod yn gobeithio y byddai modd i ddisgyblion ddychwelyd i'r ysgol os mai dyna fyddai orau iddyn nhw.
"Ry'n ni'n datblygu cynlluniau a fydd yn cryfhau'r canllawiau presennol ar ddysgu dewisol yn y cartref er mwyn sicrhau lles plant a gwneud yn siŵr eu bod yn derbyn addysg addas," medd llefarydd.
Dywed Llywodraeth Cymru y byddant yn gwario £1.7m ar adnoddau addysg a gweithgareddau i'r rhai sy'n cael eu haddysgu adref.
"Mae'r pandemig wedi dangos y pwysigrwydd o sicrhau bod y gefnogaeth i bob plentyn a pherson ifanc mor effeithiol â phosib, gan gynnwys y rhai sy'n cael eu haddysgu adref," ychwanegodd llefarydd.
Dywedodd Plaid Cymru bod angen cyfreithiau newydd i amddiffyn plant sy'n cael eu haddysgu adref, tra bod y Ceidwadwyr yn galw am well cefnogaeth er mwyn sicrhau bod y rhai sy'n cael eu haddysgu adref yn cael "addysg o'r radd flaenaf".
Mwy am y stori hon yn Wales Live am 22:30 ar BBC 1 Cymru ac wedi hynny ar BBC iPlayer
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2020
- Cyhoeddwyd13 Mai 2020
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2018