Pan mae'r plant nôl adre yn y nyth

  • Cyhoeddwyd
Beth a'r teuluFfynhonnell y llun, Beth Angell

Mae cyfyngiadau'r coronafeirws wedi golygu bod y digrifwr a'r cynhyrchydd teledu Beth Angell a'i gŵr Gareth yn rhannu tŷ gyda'u dwy ferch unwaith eto. Pwy sydd wedi gorfod addasu fwyaf?

Mis Medi y llynedd, fe ddaeth tro ar fyd wrth i'r ferch hynaf adael am y Coleg.

Mi oedd y fengaf yn dysgu gyrru ac i'w gweld allan o'r tŷ fwy nag oedd hi adref, ac mi oedd y 'fo' a fi yn dechrau hel ein traed yn fwy nag erioed, wrth baratoi at fod yn 'wag ein nyth' neu be bynnag ydi'r cyfieithiad am 'empty nesters'.

Ond cwta fis yn ôl newidwyd ein nythod ni gyd unwaith eto, ac mi rydan ni a nhw wedi gorfod dysgu cyd-fyw dan amgylchiadau tra gwahanol.

Waeth i chi ddweud, i bob pwrpas, ein bod ni'n bedwar oedolyn yn cyd-fyw, yn ffendio'n traed ac yn cyfaddawdu. Mae 'di bod yn gyfnod o addasu i bawb.

Ffynhonnell y llun, Beth Angell
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r merched nôl yn y nyth ond mae Beth yn ei chael yn anodd atgoffa ei hun i beidio â'u trin fel plant...

Dyma'r peth; ma'ch plant yn blant i chi dim gwahaniaeth beth ydy eu hoedran, ond rhaid cofio weithiau eu bod yn oedolion a mae angen i chi barchu hyn.

Ydi o wirioneddol unrhyw fusnes i fi os ydi person 20 oed isho bod yn ei gwely tan amser cinio? Ydi o dal yn iawn i fi eu mwydro am y llanast yn eu hystafelloedd ac ydi o fyny i fi gwestiynu addasrwydd eu dewis o raglenni i'w gwylio?

Mewn un gair …'Nacydy'. A ges i wybod hyn - mewn cyfres o weiddi, tuchan a rhowlio llygaid - yn fuan iawn wedi y 'Cloi Mawr'.

Yn yr wythnosau cyntaf roedd cryn hefru a gweiddi, o'm rhan i gan amlaf, ond o edrych nôl beryg fy mod wedi mynd syth nôl i Mam Mode ac wedi anghofio fod rhain yn oedolion oedd eisoes wedi arfer â lledaenu eu hadenydd a rŵan dyma lle o'n i yn eu trin nhw fel plant eto.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Beth Angell

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Beth Angell

Felly cefais air â mi fy hun i gofio mai nid plant oedden nhw mwyach, ond os oedden nhw isho cael eu trin fel oedolion roedd rhaid i ambell beth newid. I'r perwyl hwn dwi'n disgwyl iddyn nhw lanhau, coginio a golchi dillad. Ond dwi ddim yn dweud wrthyn nhw sut na phryd i 'neud hyn!

Dwi hefyd wedi dysgu fod y sefyllfa yma yn un o eithafion.

Weithiau mae rhywun yn dyheu am gwmni a'r funud nesaf ma rhywun isho llonydd, felly mi rydan ni gyd yn trio parchu hyn am ein gilydd gan roi llonydd a chariad ble bo'r gofyn.

Yn y pen draw dwi'n meddwl mai'r hyn sydd wedi ein cynnal yw gallu chwerthin gyda'n gilydd tra'n neud cwis neu fideos ar TikTok [gwefan gymdeithasol] ac er, yn y tawelwch, dwi'n drist nad ydyn nhw yn blant bellach, dwi hefyd yn gwybod bod lot fawr o hwyl i'w gael mewn cartref o bedwar oedolyn.

Hefyd o ddiddordeb: