Etholiadau lleol: Y blychau pleidleisio wedi cau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gorsaf bleidleisioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gorsafoedd pleidleisio ar agor o 07:00 nes 22:00 ddydd Iau

Mae'r blychau pleidleisio wedi cau ac etholwyr wedi dewis pwy fydd yn eu cynrychioli ar lefel awdurdod lleol am y blynyddoedd nesaf.

Mae cyfanswm o 1,160 o seddi yn cael eu cystadlu, ac roedd gan tua 2.2 miliwn o bobl bleidlais, gan gynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed am y tro cyntaf mewn etholiadau cyngor.

Roedd y gorsafoedd pleidleisio ar agor o 07:00 nes 22:00 ddydd Iau.

Bydd cynghorau yn dechrau cyfri'r pleidleisiau ddydd Gwener, gyda disgwyl y canlyniadau o'r prynhawn ymlaen.

Bydd modd dilyn y canlyniadau yn fyw ar lif byw Cymru Fyw o 11:00 ddydd Gwener.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Mae amcangyfrifon yn awgrymu nad oedd gan dros 106,000 o etholwyr bleidlais eleni am nad oedd cystadleuaeth yn eu ward - oherwydd bod yr un nifer o bobl yn ymgeisio a nifer y seddi sydd ar gael.

Mae'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn dweud fod 74 o'r 1,234 o seddi eisoes wedi'u llenwi, gan olygu nad oedd etholiadau yn y llefydd hynny.

Yng Ngwynedd (28) a Sir Benfro (19) y mae'r nifer fwyaf o seddi o'r fath.

Mae pleidleisio cynnar wedi bod yn digwydd eisoes ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Pen-y-bont ar Ogwr a Thorfaen fel rhan o gynllun peilot.