Dau yn euog wedi i gi ladd Jack Lis yng Nghaerffili

  • Cyhoeddwyd
Jack Lis
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Jack ar 8 Tachwedd wedi i gi ymosod arno

Mae dau berson wedi pledio'n euog i fod yng ngofal ci oedd yn beryglus ac a wnaeth achosi marwolaeth bachgen 10 oed y llynedd.

Bu farw Jack Lis yn dilyn yr ymosodiad mewn tŷ yng Nghaerffili ar 8 Tachwedd 2021.

Fe wnaeth Amy Salter, 28 oed o Drethomas, gyfaddef yn Llys y Goron Caerdydd i fod yng ngofal ci oedd yn beryglus allan o reolaeth gan achosi niwed a arweiniodd at farwolaeth.

Fe gyfaddefodd Brandon Hayden, 19 oed o Benyrheol, i'r un cyhuddiad yn ogystal â thri chyhuddiad pellach o fod yng ngofal ci oedd yn beryglus allan o reolaeth a dau gyhuddiad o fod yng ngofal ci a achosodd anaf.

Honnir i'r achosion hyn ddigwydd rhwng 4 a 7 Tachwedd y llynedd, cyn yr ymosodiad ar Jack Lis.

Ffynhonnell y llun, Bronwen Weatherby | PA Wire
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Jack Lis yn dilyn yr ymosodiad mewn tŷ yng Nghaerffili

Roedd ci mawr o'r enw Beast yng ngofal Ms Salter yn ei chartref pan ymosododd ar Jack.

Mr Hayden oedd yn berchen ar Beast pan ymosododd y ci ar bobl ger siopau yn y dyddiau cyn yr ymosodiad angheuol.

Bu farw Jack, oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Cwm Ifor, Caerffili, yn y fan a'r lle.

Cafodd y ci ei ddifa gan swyddogion heddlu arfog, a daeth cadarnhad yn ddiweddarach nad oedd yn frid sydd wedi'i wahardd yn y DU.

Mae disgwyl i Ms Salter a Mr Hayden gael eu dedfrydu ar 10 Mehefin.

Cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth ond dywedodd y barnwr: "Y canlyniad tebygol, yn enwedig i Mr Hayden, yw cyfnod dan glo."

Pynciau cysylltiedig