Cydraddoldeb ar gynghorau: 'Peth ffordd eto i fynd'
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd sydd newydd ei hethol yn dweud bod cymdeithas "ddim yn symud yn ddigon cyflym", er bod dau gyngor, am y tro cyntaf yng Nghymru, bellach â nifer cyfartal o gynghorwyr benywaidd a gwrywaidd.
Bro Morgannwg a Mynwy yw'r cynghorau cyntaf erioed i gyrraedd y garreg filltir honno.
Llafur oedd â'r gyfran uchaf o gynrychiolwyr benywaidd, (44%) a'r Ceidwadwyr oedd â'r gyfran isaf (29%).
Ond er i'r sefyllfa wella o fewn pob un o gynghorau sir Cymru o'i gymharu â 2017, mae un arbenigwr yn rhybuddio na fydd yna wir gydraddoldeb rhywedd am beth amser eto.
Dywedodd y Cynghorydd Catherine Fookes, a gafodd ei hethol fel cynrychiolydd Llafur ward tref Mynwy yn yr etholiadau lleol, ei bod yn falch o fod yn rhan o greu hanes yno.
"Mae'n wych gweld gymaint o gynghorwyr benywaidd cryf ac effeithiol yn cael eu hethol ac rwy'n gyffrous iawn o fod yn gweithio gyda nhw".
"Menywod yw 50% o'r boblogaeth felly mae wir angen eu cynrychioli," meddai, gan ddadlau mai dyna sut mae creu polisïau cryfach mewn ymateb i faterion sy'n effeithio ar fenywod."
Ychwanegodd: "Yn sicr dydyn ni ddim yn symud yn ddigon cyflym fel cymdeithas at gydraddoldeb rhywedd yn wleidyddol."
Pa gyfran o gynghorwyr y pleidiau sy'n fenywod?
Yn yr etholiad, o'r prif bleidiau, Llafur oedd â'r gynrychiolaeth fwyaf o fenywod, sef 44%.
Y Ceidwadwyr oedd â'r gyfran isaf - 29% - ac roedd 35% o gynghorwyr Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn fenywaidd.
Ar draws Cymru, roedd yna gynnydd o 8% (o 28%) o ran cynghorwyr benywaidd o'i gymharu â 2017. Erbyn hyn, allan o 1,274 o gynghorwyr, mae 442 yn fenywod.
Cyngor Ceredigion sydd â'r gyfradd isaf, sef 18%, ac Ynys Môn sy'n ail gyda 23%.
Gan ddadlau "nad ydi'r status quo yn gweithio", dywedodd y Cynghorydd Fookes bod angen i fenywod sydd eisoes mewn gwleidyddiaeth wneud popeth posib i sicrhau cydraddoleb rhywedd.
"Gadewch i ni gael mwy o fenywod yn arweinwyr cyngor. Ni, gynghorwyr y presennol - gadewch chi ni annog mwy o fenywod i ymgeisio'r tro nesaf."
Rhoddodd deyrnged i gyn-arweinydd Ceidwadol Cyngor Mynwy, Richard John, am ei waith a'i "waddol" o ran galw am nifer cyfartal o gynghorwyr benywaidd a gwrywaidd ar y cyngor. Mae hi'n galw am yr un math o weithredu trawsbleidiol ar draws Cymru.
"Mae'n bwysig cydnabod yr ymdrech ar y cyd yn Sir Fynwy," meddai. "Fe osodwyd targed. Cyrhaeddon ni'r nod.
"Mae'n profi, heb os, oni bai bod yna weithredu cadarnhaol, ni chawn ni gydraddoldeb rhywedd. Dydy'r status quo ddim yn gweithio."
Targed 'uchelgeisiol' Mynwy
Yn ôl Jess Blair, cyfarwyddwr Y Gymdeithas Diwygio Etholiadol mae llwyddiant Cyngor Sir Fynwy'n brawf o werth gweithredu pendant.
"Fe osododd Sir Fynwy darged uchelgeisiol o sicrhau 50% o fenywod ychydig fisoedd yn ôl ac maen nhw wedi gwneud e," meddai.
"Mae Bro Morgannwg wedi gwneud yn dda iawn oherwydd yn sgil ethol mwy o gynghorwyr Llafur, sydd â 18 cynghorydd benywaidd allan o 24. wedi eu hethol.
"Ond dydyn ni ddim yn mynd i weld cydraddoldeb rhywedd ar y raddfa bresennol am amser maith iawn."
Dywedodd bod yna ddirnadaeth o hyd bod ymgeiswyr gwyn, gwrywaidd a hen yn fwy tebygol o gael eu hethol, a bod etholwyr ddim yn credu bod ymgeiswyr yn eu cynrychioli nhw.
"Oni bai ein bod yn gweithredu'n gadarnhaol i ethol mwy o fenywod… mwy o bobl o liw, mwy o ymgeiswyr anabl, pobl o'r gymuned LGBTQ+… ry'n ni wastad yn mynd i dorri'r cysylltiad rhwng cymunedau â'u cynrychiolwyr."
"Gweithredu cadarnhol, yn bennaf ar ran y Blaid Lafur, sydd i gyfri am y cynnydd y tro hwn...
"Fe wnaeth y Ceidwadwyr yn Sir Fynwy wir gynyddu'r ymdrechion i gael mwy o ymgeiswyr benywaidd.
"Gobeithio y gwnawn ni ddysgu'r gwersi y tro hwn. Mae gweithredu cadarnhaol a thargedau wedi gweithio. Os y gall pleidiau roi'r mesurau hyn yn eu lle ar gyfer 2027, gobeithio welwn ni fwy o gynrychiolaeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd7 Mai 2022