Etholiadau lleol 2022: 'Her anferth' y Ceidwadwyr
- Cyhoeddwyd
Parhau mae'r pwyso a mesur wedi etholiadau cynghorau Cymru ddydd Iau.
Bydd trafodaethau nawr yn gorfod cael eu cynnal i benderfynu arweinyddiaeth sawl cyngor, gan gynnwys Powys, Mynwy a Chastell-nedd Port Talbot.
Mae dyfodol prif weinidog y DU Boris Johnson o dan y chwyddwydr, gydag adroddiadau bod helyntion partïon honedig yn Rhif 10 yn fater yr oedd pobl yn ei godi ar garreg y drws.
Cafodd y Torïaid ddiwrnod ofnadwy, gan golli dros 80 o gynghorwyr
Bu i'r blaid hefyd golli gafael ar yr unig awdurdod roedden nhw'n ei reoli - Sir Fynwy.
Fe ddywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, y byddai Boris Johnson yn cytuno fod yr etholiad yn "gyfarwyddyd" i'r blaid Geidwadol "wneud yn well".
"Dw i'n meddwl petai chi'n siarad aa Boris eich hun - yna byddai'n dweud yn union hynny: 'iawn, ry'n ni wedi cael neges weddol gadarn gan bleidleiswyr yng Nghymru heddiw [ddydd Gwener]," dywedodd.
"Mae'n gyfystyr â chael cyfarwyddyd yn dweud y gallwn ni wneud yn well na hyn".
'Cyfres drychinebus o ganlyniadau'
Yn siarad a BBC Cymru ddydd Sadwrn dywedodd is-gadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, Tomos Dafydd Davies, bod y blaid yn wynebu 'her anferth' i adfer ymddiriedaeth gyda'r etholwyr.
Dywedodd Mr Davies, cynghorydd Ceidwadol newydd etholedig yn Sir Fynwy, bod y blaid wedi dioddef "cyfres drychinebus o ganlyniadau yng Nghymru".
Dywedodd Mr Davies, sydd hefyd wedi sefyll fel ymgeisydd Seneddol ar Ynys Môn yn ogystal â Dwyfor Meirionnydd: "Daeth Partygate i fyny ar garreg y drws o bryd i'w gilydd.
"Yn amlwg, mae her enfawr ar ein dwylo fel plaid i adfer yr ymddiriedaeth honno gydag etholwyr Cymru a Phrydain".
Dywedodd fod ganddo "bob ffydd" yn arweinyddiaeth Boris Johnson, fodd bynnag, gan ychwanegu: "Mae angen i Boris, yn ogystal â'r llywodraeth gyfan, ac yn wir y Blaid Geidwadol Gymreig fynd y cam ychwanegol hwnnw a dangos o ddifrif ein bod yn deall y boen y dicter y mae llawer o bleidleiswyr yn ei brofi".
Dywedodd Mr Davies y dylai'r Prif Weinidog ddefnyddio Araith y Frenhines ddydd Mawrth, lle mae llywodraeth y DU yn amlinellu ei hagenda polisi ar gyfer y flwyddyn nesaf, i fod yn "feiddgar ac uchelgeisiol" fel y gall "adfer yr ymddiriedaeth honno gyda'r etholwyr".
Cyfri Sadwrn yn y Fflint
Ni chadarnhawyd canlyniadau Sir y Fflint tan fore Sadwrn oherwydd yr angen i ail gyfri'r pleidleisiau mewn dwy ward.
Llafur yw'r grwp mwyaf ar y cyngor, wedi ennill y ddwy sedd ym Mwcle Gorllewin Bistre.
Aelodau annibynnol hawliodd y ddwy sedd yn Ne Cei Connah, sef y ward arall oedd angen ail gyfri.
Mae'n golygu fod gan Lafur 31 sedd, a'r annibynwyr ar 30.
Cafodd pedwar Democrat Rhyddfrydol eu hethol hefyd, a dau Geidwadwr.
Does gan yr un garfan fwyafrif yn y siambr 67 sedd.
Ar draws Cymru
Llafur bellach yw'r blaid fwyaf Sir Fynwy, gyda'r blaid hefyd yn adennill Blaenau Gwent a Phen-y-bont ar Ogwr, gan ddal Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Casnewydd a Thorfaen.
Mae Plaid Cymru wedi cadw Gwynedd a sicrhau rheolaeth lawn ar gynghorau Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.
Ond mae Llafur wedi colli eu mwyafrif yng Nghastell-nedd Port Talbot, wedi iddyn nhw ennill 25 o'r 60 sedd - ar ôl ennill 37 sedd yn 2017.
Enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol ddeg sedd ym Mhowys, gan ddod y grŵp mwyaf gyda 24 o gynghorwyr. Mae'r blaid yn dweud mai dyma'r nifer fwyaf o gynghorwyr y mae'r blaid erioed wedi eu cael.
Yn y cyfamser mae'r Gwyrddion wedi ennill saith sedd hyd yn hyn - eu canlyniad gorau erioed yng Nghymru.
Bydd y sawl sy'n rhedeg yr awdurdodau yn gorfod mynd i'r afael â rhedeg ystod eang o wasanaethau, o ganolfannau hamdden i ofal i'r henoed, tra hefyd yn gosod lefel y dreth cyngor a rheoli cyllideb.
Gallwch edrych yn ôl ar holl helynt diwrnod y canlyniadau yma.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mai 2022
- Cyhoeddwyd6 Mai 2022