Ben Lake yw Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion
- Cyhoeddwyd

Mae Ben Lake yn Aelod Seneddol dros Geredigion ers 2017
Mae trefnwyr Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion wedi cyhoeddi mai'r Aelod Seneddol lleol, Ben Lake fydd Llywydd yr Ŵyl eleni.
Ers 2017, mae'r brodor o Lanbedr Pont Steffan, a chyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan, yn AS Plaid Cymru dros Geredigion.
Mae o bellach yn Is-gadeirydd ar Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan ac yn llefarydd ar ddiwylliant i Blaid Cymru yn San Steffan.
Fel rhan o'i rôl bydd yn annerch y gynulleidfa o lwyfan y pafiliwn ar faes y brifwyl, sy'n cael ei chynnal ar gyrion Tregaron rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst.
Fe raddiodd Mr Lake mewn hanes a gwleidyddiaeth yng Ngholeg y Drindod, Rhydychen cyn derbyn Gradd Meistr mewn Hanes Modern Prydeinig ac Ewropeaidd.
Yn ystod ei gyfnod yn y brifysgol, bu'n drysorydd ac yn ysgrifennydd i Gymdeithas Dafydd ap Gwilym.
Bu'n rhan o'r tîm a drefnodd Eisteddfod Rhydychen yn 2013, ac mae'n parhau yn gefnogwr brwd o'r gymdeithas a'i gwaith.
Mae'n dilyn nifer o Gymry amlwg sydd wedi cael bod yn llywyddion dros y blynyddoedd, gan gynnwys y cyflwynydd a'r DJ, Huw Stephens, yr hanesydd Elin Jones a chyn-reolwr cynorthwyol tîm pêl-droed dynion Cymru, Osian Roberts.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd7 Awst 2021
- Cyhoeddwyd2 Awst 2021