'Paffio ers 18 mlynedd' yn erbyn unigrwydd ac iselder

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Osian Roberts yn trafod ei brofiad o heriau iechyd meddwl

Mae arolwg newydd yn dangos fod unigrwydd yn cael effaith ar iechyd meddwl chwarter o oedolion yng Nghymru, gyda llawer yn teimlo cywilydd a ddim isio cyfaddef hynny.

Dywedodd 40% o bobl na fydden nhw'n cyfaddef wrth eraill eu bod nhw'n teimlo'n unig chwaith, a 15% eu bod wedi cael teimladau hunanladdol oherwydd unigrwydd.

Roedd y ffigyrau'n rhan o arolwg gan y Sefydliad Iechyd Meddwl yng Nghymru fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.

Mewn cyfweliad â rhaglen Newyddion S4C mae dau o bobl sydd wedi dioddef o unigrwydd wedi bod yn sôn am eu brwydr nhw a phwysigrwydd siarad ag eraill am eu problemau.

'Angen lle i feddwl'

Mae Corinna Parry o Gyffordd Llandudno yn gyfarwydd â theimladau o unigrwydd, ac yn dweud ei bod hi wedi bod yn "paffio ers 18 mlynedd" yn erbyn iselder.

"Dwi'm yn gallu byw rhai diwrnodau, dwi'n really stryglo," meddai.

"Dyna beth sy'n bwysig, just i gario 'mlaen, hyd yn oed drwy'r dagrau a chrïo, dwi yn gallu paffio a dwi yn gallu cario 'mlaen."

Heb estyn allan a siarad gyda chwnselydd, meddai, gallai pethau fod wedi mynd yn ddu iawn iddi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen cofio bod pobl eraill yn meddwl amdanoch chi hyd yn oed os nad yw'n teimlo felly, meddai Corinna Parry

"Dwi wedi cael cwnsela, ac mae hwnna 'swn i'n ddeud wedi safio bywyd fi, siarad 'efo rhywun sydd ddim yn judgemental, sydd just yn gwrando," meddai.

"Dwi'n meddwl dyna be' o'n i angen, just space i feddwl.

"Pan ti'n paffio, pan ti'n sâl a really, really isel, 'dan ni'n meddwl bod neb yn meddwl lot amdanon ni, achos 'dan ni'm yn meddwl lot amdan ein hunain.

"Ond mae pobl yn meddwl lot amdanoch chi."

'Y cam cyntaf oedd cyfaddef'

Pedair blynedd yn ôl fe gafodd Osian Roberts, ffermwr o Sir Ddinbych, bwl sylweddol o iselder.

Blinder oedd yr arwydd cyntaf, ond ymhen ychydig doedd o ddim yn gallu gadael y tŷ a wynebu pobl yn yr ocsiwn neu'r farchnad.

"O'n i 'di cychwyn colli diddordeb mewn pob peth, a 'di blino'n ofnadwy. Oedd gennai ofn gadael y tŷ, oedd fy stumog yn teimlo'n ofnadwy, o'n i'n teimlo fel zombie, oedd y symptomau i gyd yna.

"Ond eto oedd gennai ofn deud wrth neb, rhag ofn bod o'n dod yn fwy o broblem i bawb arall."

Disgrifiad o’r llun,

Milfeddyg ddaeth i ymweld ag Osian ar y fferm oedd y cyntaf i sylweddoli fod angen help arno, a'i annog i gysylltu gyda rhywun

I ddechrau fe anwybyddodd gyngor i ofyn am help, cyn i bwl arall tra'i fod yn gweithio yn y sied wneud iddo sylweddoli fod angen troi at rywun.

Aeth i weld y meddyg a chael meddyginiaeth am ei gyflwr, gan gysylltu hefyd - dros neges destun yn hytrach na ffôn i ddechrau - gydag elusen iechyd meddwl.

Ymhen ychydig wythnosau roedd hynny wedi gwneud gwahaniaeth, gyda'i hyder yn dychwelyd digon iddo fynd i'r mart a hyd yn oed dangos ei stoc yn y Sioe Frenhinol.

"Y step cyntaf oedd cyfadde' i fi'n hun ac i bobl, a chychwyn siarad, bod 'na broblem genna i," meddai.

"Di o'm yn hawdd cyfaddef, ond 'swn i'n deud mai dyna'r peth gorau i 'neud, achos mae'r rhyddhad wedyn fatha codi tunnell oddi arna chi.

"Mae'n bosib 'neud, 'mond i chi gael yr wmff i 'neud, a chysylltu efo rhywun."

Llais ar ben arall y ffôn

Yn ôl Elen Gwen Williams o elusen DPJ Foundation, mae blynyddoedd diwethaf y pandemig wedi bod yn anodd i iechyd meddwl llawer o bobl yn y byd amaeth, a'r perygl o unigrwydd a theimlo'n ynysig wedi bod yn uwch nag erioed.

"Y neges bwysicaf ydy i estyn allan am yr help 'na pan 'dach chi ei angen o, a 'neud yn siŵr bod chi yna i'ch gilydd yn y gymuned," meddai.

"Mae 'na bobl fel y DPJ sy'n barod yna i ateb y ffôn os 'dach chi'm yn teimlo fel chi'ch hun, 'di cael profedigaeth, mynd drwy alar, ffraeo efo teulu, cariad - mae unrhyw broblem yn rhywbeth 'dan ni'n gallu helpu efo."

Disgrifiad o’r llun,

Elen Gwen Williams o elusen DPJ Foundation

Nid y bobl sy'n dioddef yw'r unig rai sy'n gallu troi at gymorth chwaith, meddai - dylai'r rheiny sy'n agos iddyn nhw hefyd droi at wasanaethau cymorth os ydyn nhw'n amau bod rhywbeth o'i le.

"Just dechrau'r sgwrs 'na," ychwanegodd Elen.

"Os 'dach chi'n poeni am rywun arall yn eich cymuned, neu ffrindiau neu deulu, 'dan ni'n gallu rhoi cyngor i chi i gymryd y cam cyntaf yna i allu siarad efo nhw, i gael nhw i ofyn am help eu hunain hwyrach.

"'Dan ni'n gymuned glos, 'dan ni'n 'nabod ein gilydd... ac os 'dach chi'n sylwi bod rhywun yn mynd drwy gyfnod anodd, neu ddim cweit eu hunain, codwch y ffôn."

Pynciau cysylltiedig