DORIS: Lle i ffermwyr 'gymryd y cam cyntaf a gofyn am help'

  • Cyhoeddwyd
Gwynant Parry
Disgrifiad o’r llun,

Mynd i'r dafarn i wylio pêl-droed sy'n rhoi cyfle i Gwynant Parry feddwl am fywyd heblaw ei waith

Yng nghanol y trelars anifeiliaid a'r cerbydau 4x4, mae cerbyd go wahanol wedi ei barcio yn ocsiwn anifeiliaid Rhuthun y dyddiau yma.

Mae fan felen DORIS (Denbighshire Outreach Rural Information Service) yn llachar, lliwgar, ac yn denu'r llygad.

A'r gobaith ydy bydd hynny'n denu pobl o ardaloedd gwledig - a ffermwyr yn arbennig - i siarad am broblemau iechyd meddwl.

Wedi teithio o Dalysarnau, ger Porthmadog, y diwrnod y bu BBC Cymru yn ymweld â'r ocsiwn, roedd Gwynant Parry.

Roedd o'n croesawu presenoldeb y fan: "Handi iawn! Os ydy rhywun isio siarad, mae hi yna.

"Mae lot o ffarmwrs adra drwy'r dydd, gweld neb. Mae isio gweld pobl does, neu mae posib mynd i rut wedyn."

"'Di ffarmio ddim fel oedd o dwi'm yn meddwl 'de," meddai.

"Ond mae'n rhaid i rywun just cario ymlaen, gwneud y gorau o be' fedran nhw."

Byddai llawer yn cytuno â geiriau Gwynant, ond mae gwasanaeth DORIS yn anelu at newid y feddylfryd honno trwy bwysleisio bod "cario ymlaen" yn haws weithiau wrth droi'r meddwl at bethau eraill.

Mae'r gwasanaeth yn cael i redeg gan elusen iechyd meddwl MIND, ond yn defnyddio rhagnodi cymdeithasol - social prescribing - i helpu pobl.

Yn hytrach na chanolbwyntio ar y problemau iechyd meddwl, mae'r dechneg hon yn defnyddio pethau fel gweithgareddau cymunedol.

Cadw'n brysur yn y gymuned

Un o'r gwirfoddolwyr gyda MIND, Denise Williams, fu'n egluro sut mae'r gwasanaeth yn gweithio.

"Mae aelod o staff o MIND yn gallu eistedd 'efo nhw a dim gweithio ar eu iechyd meddwl nhw, ond cyfeirio nhw at bethau eraill sy'n digwydd yn y gymuned, pethau i gadw nhw'n brysur, pethau i gadw eu meddwl nhw i ffwrdd o'r broblem sydd ganddyn nhw.

"Er enghraifft Men's Shed, lle mae dynion yn gallu mynd i gadw'n brysur, gwneud gwaith coed.

"Felly dim helpu 'efo iechyd meddwl o anghenraid, ond beth sy'n digwydd o'u hamgylch yn y gymuned."

Gwylio pêl-droed yn y dafarn ydy un o'r ffyrdd mae Gwynant Parry'n mynd a'i feddwl oddi ar waith.

"Fydda i'n mynd am beint, licio watsiad ffwtbol. Just cael few hours bob wsos i gael dy feddwl off bethau 'de. Bywyd heblaw gwaith 'de."

Disgrifiad o’r llun,

"Cymryd y cam cyntaf" sy'n bwysig, meddai Elen Gwen Williams

Yn gweithio gyda DORIS mae Sefydliad y DPJ, sy'n ceisio helpu ffermwyr yn benodol.

Yn ôl Elen Gwen Williams, mae stigma o amgylch iechyd meddwl o hyd.

"Mae ffermwyr, 'den ni wedi arfer rhoi meddyginiaeth i'n anifeiliaid, 'den ni wedi arfer trwisio tractor, torri bys, strapio fo, cario mlaen. Torri braich, mynd i'r ysbyty a cael plastar.

"'Den ni angen gwneud hynny 'efo'r meddwl, edrych ar ôl ein meddyliau, a 'neud yn siŵr bod ni'n cymryd y cam cyntaf.

"Siarad 'efo ffrind, mynd am baned, cymryd y cam cyntaf a wedyn gofyn am help."

Bydd fan DORIS yn ymweld â marchnad anifeiliaid Rhuthun a Llanelwy a nifer o gymunedau gwledig de Sir Ddinbych yn gyson dros y flwyddyn nesaf.

Yn ôl un arall o wirfoddolwyr MIND, Meryl Jones, mae "mynd yn ôl" yn allweddol.

"'Den ni wedi bod yn Rhuthun ddwy waith a 'den ni wedi bod yn Llanelwy ddwy waith rŵan yn yr ocsiwn.

"Cerdded o gwmpas achos 'den nhw ddim yn fodlon dod i fewn i fa'ma. Felly 'den ni'n mynd allan cerdded o gwmpas a siarad 'efo nhw a rhoi cardiau bach.

"Achos os 'den ni ddim yn teimlo bod nhw'n medru siarad efo ni, falle fedran nhw ffonio ni wedyn."

Pynciau cysylltiedig