Apêl wedi gwrthdrawiad beic modur, car ac ambiwlans ger Y Bala
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr beic modur wedi cael anafiadau difrifol ar ôl bod mewn gwrthdrawiad gydag ambiwlans a char arall yn ardal Y Bala.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Glan-yr-Afon ar yr A494 ychydig cyn 16:40 ddydd Llun.
Mae'r heddlu yn apelio am dystion i'r gwrthdrawiad rhwng y beic modur RIEJU llwyd a choch, Peugeot 308 arian a'r ambiwlans.
Cafodd y dyn ei hedfan i Ysbyty Aintree, Lerpwl, gydag anafiadau oedd yn bygwth ei fywyd.
Dywedodd Sarjant Emlyn Hughes o Heddlu'r Gogledd eu bod am ddiolch i'r cyhoedd am fod yn amyneddgar gan fod y ffordd wedi bod ynghau tan 22:00 wrth i swyddogion fforensig archwilio'r safle.
"Rydym yn annog unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu unrhyw un a welodd y beic modur cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â ni."