Defnyddio'r celfyddydau fel therapi i helpu gyda dibyniaeth
- Cyhoeddwyd
"Gan mai sgwennu a chreu maen nhw, tydi nhw ddim yn gorfod datgelu pethau amdanyn nhw eu hunain. Ac mae'r pethau maen nhw'n sgwennu, mae mor anhygoel."
Dros y gwanwyn roedd Mari Elen yn rhan o griw oedd yn dod at ei gilydd bob wythnos i ddefnyddio'r celfyddydau er mwyn helpu merched Cymraeg eu hiaith sy'n byw gyda dibyniaeth.
Y syniad oedd cyfarfod i sgwrsio, trafod a chreu gyda'i gilydd a diwedd mis Mai bydd digwyddiad yn cael ei gynnal i arddangos peth o'r gwaith.
Yn ôl Mari, dramodydd a gwneuthurwr theatr, doedd dim rhaid i neb ddatgelu unrhywbeth am eu profiadau ac roedd y ffaith eu bod yno i gyd-greu yn creu awyrgylch ddiogel.
Meddai: "Dwi fel arfer yn gwneud gweithdai efo pobl ifanc a phlant, ond mae gwneud hwn gydag oedolion sydd wedi profi trawma yn hollol wahanol.
Mae'n le saff i greu heb feirniadaeth
"Mae'n dangos pa mor bwerus ydi celf fel therapi. Mae pawb yn cael y cyfle i roi eu mewnbwn, neu aros yn ddistaw - does dim rhaid dweud dim, mae'n le i deimlo'n hollol ddiogel.
"Maen nhw'n creu rhywbeth o'r newydd, a theimlad o gyflawni rhywbeth a'r teimlad bod pawb yn gallu creu rhywbeth newydd a defnyddio'r celfyddydau i fynegi eu hunain. Mae'n le saff i greu heb feirniadaeth."
Roedd y gweithdai Merched Ar y Dibyn, oedd yn cael eu cynnal yng Nghaernarfon, ar gyfer menywod Cymraeg eu hiaith yng Ngwynedd a Môn sy'n byw gyda chamddefnyddio sylweddau. Mae'r sesiynau, sydd wedi arwain at bodlediad, yn rhan o brosiect ehangach Ar y Dibyn sy'n cael ei redeg gan y Theatr Genedlaethol.
Oherwydd natur y trafodaethau oedd yn digwydd roedd cwnselydd hefyd yn rhan o'r gweithdai ac ar gael am sgwrs gydag unrhywun oedd angen.
Yn ôl Carwyn Jones, academydd sydd wedi cymhwyso fel therapydd, roedd pawb yn gweithio fel grŵp - fo fel cwnselydd, yr artistiaid, y cyfieithydd, a'r cyfranogwyr.
Meddai: "'Dan ni gyd yn ein bywydau efo profiadau gwahanol ac anawsterau, ac os ydan ni gyd yn agored ac yn onest mae'n torri'r barriers a'r syniad yma bod rhai efo problemau a rhai eraill efo'r atebion. 'Dan ni i gyd efo problemau ac efo atebion.
"Roedd y bobl oedd yn dod i'r gweithdai efo'u hanawsterau efo dibyniaeth ond unwaith roedd pawb yno roedd o fel unrhyw weithdy creadigol arall. Doedd dim canolbwyntio ar yr anawsterau - ella ei fod yn dod allan yn y broses greadigol, ond roedd teimlad ein bod ni'n gweithio fel unrhyw waith creadigol."
Er bod yr ymddygiad - yfed oedd fy un i - wedi mynd ers amser hir mae'r meddylfryd yn gallu dal bod yno
Mae'n dweud nad ydi o'n ystyried ei hun yn berson creadigol o gwbl, ac roedd yn ansicr o'r elfen creu ar y cychwyn, ond ei fod wedi elwa o fod yn rhan o'r gweithdai ar lefel bersonol.
Meddai: "Mae gen i gefndir dibyniaeth. Mae'r broblem yn y gorffennol, ond i ryw rathau er bod yr ymddygiad - yfed oedd fy un i - wedi mynd ers amser hir mae'r meddylfryd yn gallu dal bod yno - meddwl prysur, sy'n gallu arwain at bryder.
"Be' nes i sylweddoli oedd bod y broses greadigol yn tawelu'r meddwl, drwy ganolbwyntio ar gynnig syniadau neu drafod, a bod yn greadigol. Roedd o'n anhygoel o brofiad."
Bydd digwyddiad Ar y Dibyn, dolen allanol, yn cynnwys arddangosfa o'r gwaith, sgwrs banel a pherfformiad, yn cael ei gynnal yn y Galeri, Caernarfon, ar 27 Mai.