Cynllun ar gyfer Senedd fwy yn 'ergyd i bleidiau llai'
- Cyhoeddwyd
Bydd cynllun i ehangu'r Senedd yn taro pleidiau llai ac yn blaenoriaethu un math o amrywiaeth dros eraill, yn ôl uwch aelod Ceidwadol o'r Senedd.
Ddydd Mawrth fe gytunodd Llafur a Phlaid Cymru ar gynllun ar gyfer Senedd 96 sedd - 36 yn fwy na nawr, gyda chwotâu rhyw gorfodol.
Dywedodd prif chwip y Ceidwadwyr, Darren Millar, fod y ffordd y bydd yn gweithio yn golygu na fydd yn adlewyrchu'n uniongyrchol sut y pleidleisiodd pobl.
Ychwanegodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds y gallai'r newidiadau "gau mas" y pleidiau llai.
Gwrthododd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ymateb i sylwadau Mr Millar a Ms Dodds.
Maen nhw o'r farn bod angen mwy o wleidyddion i ddelio â'r llwyth gwaith cynyddol a ddaw yn sgil pwerau ychwanegol a ddatganolwyd gan San Steffan dros y degawd diwethaf.
Yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Mawrth fe gyhoeddodd y Ceidwadwyr Cymreig fod Mr Millar wedi rhoi'r gorau i bwyllgor oedd wedi ei sefydlu i wneud argymhellion ar sut i ehangu'r Senedd.
Fe gyhuddodd ef y Prif Weinidog Mark Drakeford ac arweinydd Plaid Cymru Adam Price o danseilio gwaith y pwyllgor, sy'n bwriadu adrodd ddiwedd y mis.
O dan y cynlluniau byddai'r cyhoedd yn pleidleisio dros bleidiau, yn hytrach nag ymgeiswyr, gyda 96 o Aelodau o'r Senedd wedi'u gwasgaru dros 16 etholaeth.
Byddai'n defnyddio'r hyn a elwir yn "system rhestr gaeedig" - tebyg i sut roedd etholiadau Senedd Ewrop yn gweithio ym Mhrydain cyn Brexit - lle mae pleidleiswyr yn cefnogi rhestr plaid yn hytrach nag ymgeisydd, ac ni allant wrthod unrhyw ymgeiswyr unigol a enwebwyd.
Byddai pleidiau'n cael eu gorfodi i enwebu rhestrau sy'n cynnwys dynion a merched yn gyfartal, gyda rhestrau ymgeiswyr yn cael eu gosod am yn ail rhwng dynion a merched.
Ar hyn o bryd mae'r Senedd yn cael ei hethol drwy gymysgedd o'r cyntaf i'r felin ar gyfer 40 o etholaethau, a rhestrau plaid ar gyfer yr 20 Aelod o'r Senedd sy'n weddill.
'Mwy cyfrannol'
Ddydd Mawrth dywedodd Jac Larner o Brifysgol Caerdydd y byddai'r system yn debygol o weld y tair plaid fawr - Llafur, y Torïaid a Phlaid Cymru - "yn dal i ennill bron pob un o'r 96 sedd oni bai bod ymddygiad pleidleisio yn newid yn sylweddol".
Dywedodd y byddai'r diwygiadau yn sefydlu system "fwy cyfrannol" nag ar hyn o bryd i adlewyrchu'r modd y pleidleisiodd pobl, ond ni fyddai'n "gwbl gyfrannol".
Mae'r Blaid Geidwadol yn gwrthwynebu mwy o aelodau o'r Senedd, ond mewn cyfweliad gyda BBC Radio Wales roedd yn ymddangos bod Mr Millar yn awgrymu y dylid cael system etholiadol fwy cyfrannol - sy'n cynrychioli'n well sut pleidleisiodd pobl.
"Nid yw'r system sydd wedi'i chynnig gan arweinydd Plaid Cymru ac arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru yn system gyfrannol uniongyrchol," meddai.
"Mae'n mynd i fod yn ergyd i bleidiau llai yng Nghymru. Mae'n mynd i fod yn system sy'n hyrwyddo un agwedd o amrywiaeth dros eraill.
"Nid dyna'r math o system flaengar, a dweud y gwir, y mae Cymru ei hangen ar gyfer y dyfodol."
Beirniadodd Mr Millar hefyd y gost ddisgwyliedig o ariannu ASau ychwanegol.
Roedd amcangyfrifon blaenorol o 2020 yn awgrymu y byddai 30 AS ychwanegol yn costio tua £12m y flwyddyn.
Dywedodd Mr Millar, gyda'r niferoedd uwch a gynigir a gyda chwyddiant, y gallai fod tua £15m i £17m y flwyddyn.
"Os ydych chi'n tynnu'r arian yna allan o gyllideb Cymru mae'n golygu nad yw ar gael i fod yn gwella addysg na'r system iechyd yng Nghymru," meddai.
Mae'r datganiad ar y cyd rhwng Mr Drakeford a Mr Price wedi gwneud gwaith y pwyllgor yn "gwbl ofer", meddai, gan ychwanegu fod rhai o'u penderfyniadau "ddim i'r cyfeiriad yr oedd y pwyllgor yn symud".
Dyw hi ddim yn glir os yw sylwadau Mr Millar yn nodi y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig fel grŵp yn cefnogi system fwy cyfrannol ar gyfer ethol aelodau o'r Senedd.
Yn dilyn ymholiad gan BBC Cymru i'r mater, dywedodd llefarydd ar ran y blaid nad oedd ganddyn nhw unrhyw beth pellach i'w ychwanegu.
'Mynd yn erbyn democratiaeth'
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds fod angen cael tua 6% i 8% o'r bleidlais i gael sedd yn y Senedd ar hyn o bryd, ond y byddai hynny'n cynyddu i "o leiaf 12%" dan y system newydd.
"Y gwirionedd yw na fydd pleidleisiau'n cael eu gweld mewn seddi," meddai.
"Mae'n bosib y bydd rhai o'r pleidiau llai fel ninnau, y Gwyrddion a phleidiau llai eraill yn cael ein cau mas.
"Mae'n mynd yn erbyn democratiaeth yn llwyr.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi darparu datganiad i'r [pwyllgor] a mater iddyn nhw yw archwilio unrhyw faterion y maen nhw'n eu hystyried yn berthnasol - ac yna i'r Senedd drafod eu hargymhellion yn iawn."
Ddydd Mawrth dywedodd Mr Drakeford fod "adroddiad ar ôl adroddiad" wedi dangos na all y Senedd yn ei ffurf bresennol "wneud y gwaith yn y ffordd y mae gan bobl Cymru yr hawl i ddisgwyl iddo gael ei wneud".
"Bydd y diwygiadau rydyn ni wedi cytuno arnyn nhw yn unioni hynny," meddai'r prif weinidog.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2022
- Cyhoeddwyd10 Mai 2022
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2021