Mam eisiau i landlord ei throi allan yn sgil rhent 'hurt'
- Cyhoeddwyd
Mae arian Amy Jones mor brin fel ei bod hi wedi gofyn i'w landlord preifat ei throi hi a'i mab ifanc allan er mwyn iddi gael ei hystyried yn gymwys am dŷ cymdeithasol.
Mae'r fam sengl, 29, wedi torri'n ôl ar fwyd a gwres er mwyn talu'r diffyg rhwng ei rhent a'i lwfans credyd cynhwysol ac mae hi yn wynebu bod yn ddigartref.
Mae cyfradd prisiau rhent eiddo yng Nghymru yn codi yn gynt nag ers dros 13 mlynedd, yn ôl arbenigwyr eiddo Zoopla.
Daw hyn wrth i ddau fyfyriwr dalu £27,000 ymlaen llaw er mwyn sicrhau un fflat yng nghanol Caerdydd.
Mae llywodraethau'r DU a Chymru yn dweud eu bod wedi rhoi arian ychwanegol i helpu tenantiaid.
'Prisiau'n hurt'
Mae Amy yn dweud bod ei sefyllfa hi mor fregus fel ei bod hi wedi gofyn i'w landlord ei throi hi allan o'r tŷ er mwyn iddi cael ei hystyried ar gyfer tŷ cymdeithasol.
"Mae'r prisiau wedi mynd yn hurt, maen nhw newydd fynd yn uwch o lawer na'r hyn y gall unrhyw un ei fforddio," meddai.
Mae ffigyrau Rightmove yn awgrymu fod Cymru wedi gweld y naid flynyddol fwyaf mewn prisiau rhent y tu allan i Lundain - i fyny 13.9% i £882 y mis.
Mae'r gost o rentu tŷ i rai wedi cynyddu 30% mewn cwta dwy flynedd yn unig, gydag un asiant yn disgrifio'r farchnad fel un sy'n mynd "tua'r dibyn".
Ar hyn o bryd mae Amy yn gorfod dod o hyd i'r gwahaniaeth rhwng ei rhent a lwfans credyd cynhwysol, sy'n £100 y mis, drwy "gyfaddawdu" ar ynni a bwyd.
Mae'r tŷ yn Aberdâr lle mae hi'n byw gyda'i mab Amari, 5, yn llaith - problem sy'n gwaethygu ac mae'n rhaid iddi ddod o hyd i rywle arall i fyw.
"Ar hyn o bryd rydw i'n talu £475 y mis, ond rydyn ni'n edrych ar o leia' £600 nawr i symud i dŷ dwy ystafell wely arall," meddai.
Bu farw William, mab cyntaf Amy, yn 2015 pan oedd yn dair wythnos oed ac o ganlyniad i'r dirywiad yn ei hiechyd meddwl, bu'n rhaid iddi roi'r gorau i'w gwaith.
"Hanerodd fy incwm," esboniodd.
"Mae fy mab arall yn sâl o hyd oherwydd lleithder yn y tŷ - mae'n cael effaith aruthrol."
Dywedodd Amy fod y lwfans tai credyd cynhwysol lleol o £375 yn golygu mai dim ond tai cymdeithasol sy'n fforddiadwy.
"Rydym eisoes yn ceisio cyfaddawdu ar nwy, trydan a bwyd," meddai.
Gyda chynnydd yn ei biliau gwresogi a siopa mae Amy eisiau i'w landlord ei helpu fel ei bod yn gallu cael ei hystyried ar gyfer tŷ cyngor.
"Rwyf wedi siarad ag asiant y landlord ac wedi gofyn am 'hysbysiad troi allan' i weld a all hynny helpu gyda'r cyngor," meddai Amy, "mae'r sefyllfa yn ofnadwy."
Ei gobaith ydy y byddai bod yn ddigartref yn gorfodi Cyngor Rhondda Cynon Taf i'w helpu i ddod o hyd i gartref.
'Gormod o denantiaid a dim digon o dai'
Mae data swyddogol yn dangos bod 27.8m o gartrefi yn y DU.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod tenantiaid sy'n rhentu'n breifat yn byw mewn 4.5m ohonynt. 2.8m oedd y ffigwr yn 2007.
Mae cwmnïau sy'n gosod tai wedi dweud wrth BBC Cymru bod y galw cynyddol am dai i'w rhentu yn uwch nag erioed ac yn dal i godi gyda nifer yn derbyn cannoedd o ymholiadau gan ddarpar denantiaid bob wythnos.
Mae Carys Davies sy'n cyflwyno'r rhaglenni Tŷ am Ddim ar S4C a The Great House Giveaway ar Channel 4 yn berchen ar Perfect Pads, cwmni yn Abertawe sy'n gwerthu ac yn gosod tai.
"Mae'r farchnad rhentu wedi newid yn gyfan gwbl ers y cyfnod clo ac mae pethau yn dal i fod yn nuts ond mae'r holl beth yn supply and demand.
"Mae 'na ormod o denantiaid a dim digon o dai ac mae hynny'n gwthio'r prisiau rhent yn uwch ac yn uwch ac mae'n nhw'n dal i godi," meddai.
Talu £27,000 o flaendal
Yn Nghaerdydd, dywedodd un asiant ei fod wedi gosod fflat yng nghanol y ddinas i denantiaid a oedd wedi talu £27,000 o rent ymlaen llaw gan eu bod mor awyddus i gael y fflat.
"Roedd y fflat gyferbyn â'r stadiwm," meddai David Gould, o gwmni Landlords Letting Company yn Nhonysguboriau.
"Cafodd ei hysbysebu am £1,250 y mis, ond roedd y myfyrwyr o dramor yn cynnig £1,500 y mis, ac yn fodlon talu 18 mis o rent ymlaen llaw," meddai.
Ychwanegodd: "Yn aml iawn rydyn ni'n cael galwadau ffôn gyda phobl yn dweud 'sdim rhaid i mi weld y lle hyd yn oed - mi gymerai unrhyw beth'.
"Ond yn gyfreithiol mae'n rhaid i ni ddangos yr eiddo iddyn nhw cyn y gallan nhw wneud cais amdano."
Mae sawl asiant sy'n gosod tai yn awgrymu bod nifer fawr o landlordiaid wedi penderfynu gwerthu eu tai a bod hynny wedi lleihau'r stoc o dai i'w rhentu'n breifat.
"Byddwn i'n dweud ein bod ni'n colli oddeutu pump i 10 eiddo y mis o'n portffolio presennol," meddai David Gould, "a chyn hyn rhwng pump a 10 eiddo y flwyddyn fydden i'n ei golli.
"Heb fwy o fuddsoddwyr preifat mae'r dyfodol yn llwm.
"Cyflenwad a galw sy'n rheoli'r farchnad ac ar hyn o bryd mae'r galw yn codi ac yn codi, tra bod cyflenwad wedi mynd trwy'r llawr," ychwanegodd Mr Gould.
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn cynnig cefnogaeth i rentwyr preifat uwchlaw lefelau cyn-bandemig.
"Yn ystod y pandemig fe wnaethom gynyddu'r Lwfans Tai Lleol yn sylweddol a thu hwnt i chwyddiant, sydd yn werth dros £600 y flwyddyn i fwy na miliwn o aelwydydd ar gyfartaledd," meddai llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau.
'Dim digon o dai'
Mae Carys Davies yn credu y bydd y farchnad rhentu yn setlo ond nid yn y dyfodol agos.
"Yn amlwg fel rhywun sy'n rhentu tai allan, mae'r cynnydd yn y galw yn grêt i gadw'r landlordiaid yn hapus, ond mae hyn wedi cael effaith a phwysau ar denantiaid sy'n rhentu ar hyn o bryd.
"Maen nhw mewn cylch, yn anffodus, os maen nhw moyn mynd am dŷ sydd ar rent mae 'na lot fawr o gystadleuaeth gan denantiaid eraill.
"Sdim digon o dai am byti'r lle ac wrth gwrs mae prisiau popeth wedi codi gan gynnwys y rhent, so mae'n gyfnod eitha pryderus ac anodd i denantiaid y dyddiau yma.
"Fi'n credu bod pethe yn dod mewn cylchoedd.
"Mae 'na fan yn mynd i ddod lle bydd y farchnad yn lefelu ma's - ond fi ddim yn credu bydd hynny diwedd y flwyddyn 'ma, falle'r flwyddyn nesaf mi fydd hi'n wahanol stori.
"Sdim digon o dai, ac fel 'na ni'n mynd i weld hi am beth amser, ond oes, ma ishe rhagor o dai."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd4 Mai 2021