Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio menyw yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi arestio dyn 41 oed ar amheuaeth o lofruddio ar ôl dod o hyd i gorff menyw yn Sir Benfro.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i gyfeiriad ar Military Road yn Noc Penfro fore Gwener.
Dywedon nhw fod y canfyddiad wedi golygu fod llawer o heddweision wedi bod yn yr ardal, gan gynnwys swyddogion arfog.
Nos Wener fe lansiwyd apêl am dystion.
Mae'r dyn a gafodd ei arestio yn parhau yn y ddalfa, a dywedodd yr heddlu nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys mae nhw'n credu iddo fod yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau difrod troseddol yn ardal Neyland yn gynharach yn y bore.
O ganlyniad mae swyddogion yn ceisio rhoi ei symudiadau at ei gilydd ac eisiau siarad ag unrhyw un oedd yn Neyland rhwng 06:00 a 06:45 a Doc Penfro rhwng 08:00 a 08:15 fore Gwener.
Disgrifir y dyn fel dyn chwe troedfedd o daldra, yn gwisgo siaced dywyll ac o bosib ar feic trydan lliw golau.