Cymorth arholiadau yn sgil Covid i barhau

  • Cyhoeddwyd
DisgyblionFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgyblion yn parhau i wynebu aflonyddwch yn sgil Covid, medd athrawon

Mae Cymwysterau Cymru wedi cadarnhau y bydd newidiadau a gafodd eu cyflwyno i gefnogi dysgwyr sy'n sefyll arholiadau yn parhau y flwyddyn nesaf.

Bydd y wybodaeth ymlaen llaw yn cael ei rhoi i ysgolion a cholegau i helpu dysgwyr sy'n astudio ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch sydd wedi'u creu i Gymru.

Mae gwybodaeth o'r fath yn rhoi syniad o'r pynciau, themâu, testunau, neu gynnwys arall y gall dysgwyr ei ddisgwyl yn eu harholiadau.

"Y brif nod yw cefnogi gwaith paratoi dysgwyr," medd Cymwysterau Cymru.

Bydd CBAC yn rhoi gwybodaeth ymlaen llaw ar gyfer cyfres arholiadau mis Tachwedd 2022 cyn diwedd y tymor hwn.

Bydd gwybodaeth ymlaen llaw ar gyfer tymhorau arholiadau Ionawr a'r haf yn cael ei ddosbarthu nhymor yr hydref.

'Effaith sylweddol ar addysg'

Dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru: "Rydyn ni'n cydnabod bod y pandemig yn parhau i gael effaith sylweddol ar addysgu a dysgu ym mhob rhan o Gymru.

"Mae'r rhan fwyaf o gymwysterau yn cael eu cyflwyno dros ddwy flynedd, sy'n golygu bod rhai dysgwyr eisoes wedi profi aflonyddwch wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer cymwysterau a fydd yn cael eu cwblhau yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.

"Dyna pam rydyn ni wedi ystyried anghenion dysgwyr yn ofalus ac wedi penderfynu parhau â chymorth ychwanegol ar gyfer arholiadau yn y flwyddyn academaidd nesaf."

arholiad
Disgrifiad o’r llun,

Bydd arholiadau ysgrifenedig eleni yn dechrau wythnos nesaf

Ychwanegodd nad yw gwybodaeth ymlaen llaw yn bosibl ar gyfer y Dystysgrif Her Sgiliau (Bagloriaeth Cymru), felly bydd llawer o'r addasiadau presennol ar gyfer y cymhwyster hwnnw yn parhau i'r flwyddyn nesaf.

"Rydyn ni hefyd yn rhagweld y gallai gwybodaeth ymlaen llaw fod yn briodol ar gyfer rhai cymwysterau galwedigaethol sydd wedi'u creu i Gymru," meddai.

Pynciau cysylltiedig