Peilot ymestyn diwrnod ysgol yn 'bositif' ond ehangu'n her

  • Cyhoeddwyd
Gwers goginio
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cynllun peilot 10 wythnos yn gweld awr o weithgareddau wedi'u hychwanegu i'r diwrnod ysgol

Mae ymestyn y diwrnod ysgol wedi bod yn bositif i ddisgyblion ond byddai ehangu'r newid yn her, yn ôl athrawon sydd wedi bod yn rhan o gynllun peilot.

Roedd Cymuned Addysgu Abertyleri yn un o 14 ysgol neu goleg i gymryd rhan yn y peilot 10 wythnos i ychwanegu awr o weithgareddau i'r diwrnod ysgol.

Mae'n dilyn addewid gan Lywodraeth Cymru i edrych ar ddiwygio'r diwrnod a'r tymor ysgol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai "gwerthusiad trwyadl" o'r cynllun peilot.

'Positif i'r gymuned a'r plant'

Yn ôl Kate Olsen, dirprwy bennaeth Cymuned Addysgu Abertyleri, "fel ysgol mae 'di mynd yn dda" ond mae "rhifau wedi bod yn gymysg".

"Mae 'di bod yn beth positif i'r gymuned ac, yn bwysicach, i'r plant," meddai.

"Mae e wedi rhoi profiadau eang iddyn nhw falle fydden nhw ddim wedi cael cyfle i gael yn ystod diwrnod yr ysgol."

Disgrifiad o’r llun,

"Fel ysgol mae 'di mynd yn dda" ond mae "rhifau wedi bod yn gymysg", meddai Kate Olsen

Mae'r sesiynau sydd wedi cael eu cynnig yn ddyddiol i blant Blwyddyn 5 a 6 yn cynnwys coginio, drymio a gweithgareddau eraill wedi eu darparu gan wahanol gyrff, gan gynnwys yr Urdd.

Gan fod plant wedi colli cyfleoedd i gymysgu oherwydd y pandemig, mae Ms Olsen yn dweud bod y sesiynau wedi cael "effaith bositif ar eu hyder nhw a'r gallu i gymysgu a chreu ffrindiau newydd".

Yn ôl yr ysgol mae'r sesiynau wedi bod yn boblogaidd iawn, ond mae'r niferoedd sydd wedi eu mynychu wedi gostwng wrth i amser fynd yn ei flaen, a phresenoldeb wedi bod yn is ar brynhawniau Gwener.

Ond mae cydlynu'r ddarpariaeth ar draws tri safle a chanfod darparwyr i redeg y sesiynau ac ystafelloedd addas yn yr ysgol wedi bod yn her.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sesiynau sydd wedi cael eu cynnig i blant Blwyddyn 5 a 6 yn cynnwys coginio a drymio

Mae Ms Olsen felly yn gweld y problemau o geisio ehangu'r ddarpariaeth i fwy o blant ac ar draws gwahanol ysgolion tu hwnt i'r cyfnod peilot.

"Ry'n ni 'di defnyddio lot o bobl o fewn y gymuned - cwmnïau drama er enghraifft a chwmnïau celf sydd wedi dod a gallu cynnig sgiliau i'r plant," meddai, "ond i sicrhau hynny'n ehangach fydde hwnna'n achosi problemau, fi'n credu, yn enwedig i gymunedau gwledig.

"Mae hynna falle'n mynd i fod yn fwy o sialens iddyn nhw na'r ysgolion trefol."

Ychwanegodd y byddai ariannu ehangu'r cynllun a sicrhau staff penodol i'w drefnu hefyd yn her.

Sgiliau newydd

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd William ei fod wedi mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau newydd

Mae William, 10, yn un o'r plant sydd wedi gallu cymryd mantais o'r cynllun.

Dywedodd ei fod wedi mwynhau'r cyfle i wneud martial arts fwyaf.

"Roedd e'n sgil doeddwn i ddim yn gwybod fy mod i'n mwynhau a nawr ein bod ni wedi gwneud y clwb ar ôl ysgol a chael cyfle i wneud e, nawr rwy'n gwybod fy mod i'n ei hoffi e," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd mam William, Lucy fod ehangu'r cynllun ledled Cymru "yn edrych fel tipyn o ymrwymiad"

Yn ôl mam William, Lucy, mae'r cyfleoedd wedi rhoi "hwb" i'r plant.

Ond mae hi'n gweld heriau ymarferol o geisio ehangu'r cynllun i bob disgybl ar draws Cymru.

"Rwy'n credu bod gallu ei gyflwyno i bob plentyn ym mhob dosbarth ledled Cymru yn edrych fel tipyn o ymrwymiad i fod yn onest," meddai.

'Nid dyddiau hirach yn unig'

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod ymateb brwdfrydig wedi bod i'r cynllun peilot gan y 1,800 o ddisgyblion sydd wedi cymryd rhan, ond y bydd 'na werthusiad ar ôl iddo ddod i ben i bob ysgol dros y mis nesaf.

Mae rhai undebau wedi gwrthwynebu'r cynllun £2m yn frwd, gan ddadlau bod ysgolion eisoes yn ceisio delio gyda diwygiadau mawr eraill fel y cwricwlwm newydd.

"Dydy'r treial hwn ddim yn ymwneud â dyddiau hirach yn unig," meddai llefarydd ar ran y llywodraeth.

Ychwanegodd bod helpu dysgwyr i gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau yn gallu bod yn dda ar gyrhaeddiad, lles a datblygu perthnasoedd.

Pynciau cysylltiedig