Y Cofis yn ennill ffeinal gemau ailgyfle Cymru Premier
- Cyhoeddwyd
Fe rwydodd Laurie Bell ym munud olaf amser ychwanegol rownd derfynol gemau ail gyfle'r Cymru Premier i sicrhau buddugoliaeth o ddwy gôl i un dros Y Fflint a bachu lle yng Nghwpan Her yr Alban.
Bydd y tîm oedd â'r fantais o gael chwarae ar eu maes eu hunain - yr Oval - yn ymuno yn y gystadleuaeth â'r pencampwyr Cymreig, y Seintiau Newydd.
Wedi 90 munud di-sgôr, aeth Caernarfon ar y blaen wedi i Daniel Gossett (98) ergydio'n isel o ymyl y cwrt chwech i gornel y rhwyd.
Chwe munud barodd y fantais wedi i Ben Nash unioni'r sgôr i'r Fflint.
Roedd Dion Donohue yn meddwl ei fod wedi ennill y gêm i'r tîm cartref pan groesodd y bêl y llinell ond doedd hi ddim yn gôl oherwydd achos o gamsefyll.
Ond cefnogwyr y tîm cartref sy'n dathlu wedi peniad dramatig Bell wrth i'r gêm dynnu i'w therfyn, gan olygu bod Caernarfon wedi mynd gam ymhellach na'r llynedd pan gawson nhw eu curo 5-3 gan Y Drenewydd yn y gêm gyfatebol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mai 2022