Tafarn unigryw'r Douglas Arms ar werth ar ôl canrif
- Cyhoeddwyd
Ar ôl 100 mlynedd yn yr un teulu mae tafarn chwedlonol y Douglas Arms ym Methesda, lle byddech chi'n cael eich bil mewn sylltau a cheiniogau tan yn ddiweddar, ar werth.
Wedi ei lleoli ar stryd fawr un o drefi chwarel enwocaf Cymru mae'r Douglas yn llawn hanesion, fel y clywodd Cymru Fyw gan Christine Edwards, y landlord presennol a gorwyres Philip ac Elizabeth Davies ddechreuodd redeg y dafarn yn 1913.
Llety ar y ffordd o Lundain i Gaergybi
Adeiladwyd gwesty'r Douglas Arms ar dir ystâd y Penrhyn rhwng 1820 a 1830 ac mae hynny'n egluro tarddiad enw'r Douglas Arms.
Arglwydd Penrhyn oedd teitl teulu Douglas-Pennant sef tirfeddianwyr a pherchnogion chwarel y Penrhyn, ac mae arfbais y teulu ar arwydd y dafarn hyd heddiw.
Pwrpas y Douglas Arms yn ei dyddiau cynnar oedd cynnig llety i deithwyr ar lôn newydd Thomas Telford o Lundain i Gaergybi, sef yr A5, eglura Christine.
"Gwesty a tafarn coetsys oedd y Douglas yn wreiddiol. Roedd 'na stabal i'r ceffylau a iard i barcio'r coetsys a wedyn roedd pobl yn aros fan'ma," meddai.
"Ond wnaeth y lôn coetsys ddim para'n hir, daeth y rheilffordd i Fangor yn 1845 a wedyn oedd y coetsys yn old hat.
"Nath y Douglas 'mond cael defnydd am 30 mlynedd fel tafarn coetsys ond nath o gario 'mlaen 'run fath; mae o mewn lle hardd a hyfryd efo'r Carneddau a'r Glyderau reit wrth ymyl a roedd pobl yn dod ar eu gwyliau i Fethesda yn yr 1800au hyd yn oed."
Penrhyn yn gwerthu'r Douglas i deulu Davies
Mae perthynas y Douglas Arms gyda theulu Christine yn mynd yn ôl i 1913 pan ddechreuodd ei hen nain a'i thaid, Philip ac Elizabeth Davies rentu'r Douglas gan Arglwydd Penrhyn.
Wedi dyddiau Philip ac Elizabeth Davies cafodd eu mab Alfred Davies a'i wraig Marjorie Roberts, sef nain a thaid Christine, gyfle i brynu'r dafarn gan y Penrhyn yn 1939.
"Roedd yr ystâd yn gorfod gwerthu amryw o'i eiddo, y Douglas yn eu plith, i dalu am drethi marwolaeth," meddai Christine. "Wnaeth Penrhyn werthu'r Douglas yn uniongyrchol i Nain a Taid sef Alfred a Marjorie, felly mae'r dafarn ar werth yn gyhoeddus am y tro cyntaf erioed yn 2022!"
Atgofion Christine
Yn ferch fach bum mlwydd oed symudodd Christine, merch Geoffery a Sheila Davies o Lundain gyda'i rhieni i Fethesda er mwyn helpu Alfred a Marjorie i redeg y Douglas Arms a hwythau'n mynd yn hŷn.
Cafodd ei thad, Geoffery, wared â'r hen stabl oedd drws nesaf i'r Douglas ers dyddiau'r goets a cheffyl ac adeiladu'r tŷ lle magwyd Christine.
"Prysur" yw'r gair sy'n dod i feddwl Christine wrth iddi hel atgofion am ei phlentyndod yn y Douglas yn yr 1960au.
"Os oeddach chdi'm isio job oeddach di'n cadw allan o ffordd Nain. Os oedd gynno hi frecwast priodas neu unrhyw beth ar y go, bydda hi'n galw ar unrhyw un o'r plant i helpu.
"Oedd Nain yn 'neud catering fel fasa chdi ddim yn coelio; priodasa', te cynhebrwng, lluniaeth i chwarelwyr oedd yn dod yma am meetings, partis dolig... be' bynnag i rwbath rhwng 20 a 120 o bobl. Roedd y lle dal yn westy tan 1981."
'Mae'r lle erioed 'di bod yn local'
Yn 1874 roedd 17 o dafarndai ar y stryd fawr yn gwasanaethu syched pobl Pesda. Er i'r nifer o dafarndai leihau dros y degawdau, arhosodd bwysigrwydd tafarndai i gynnal cymuned.
Meddai Christine: "Oedd pobl leol yn dod yma i yfad o hyd, mae'r lle erioed 'di bod yn local efo lot o gymeriada', nid jest chwarelwyr.
"Roedd pawb yn gwybod pwy oedd yn lle. Duda bo' chdi isio saer er enghraifft, oeddach di'n gwbod fasa John so and so yn y Bull am 7 o'r gloch nos Wenar a Wil so and so yn Douglas ar nos Iau. Dyna sut oedd y gymdeithas yn gweithio.
"Mae cymdeithas wedi newid. Mae hynny'n naturiol achos toedd o ddim yr un peth o 1913 i 1957 a 1983 ac yn y blaen. Does 'na ddim newydd yn hynny, fel'na mae cymdeithas yn datblygu."
Y landlord chwedlonol Geoffrey Davies: Ceiniog, swllt a phunnoedd!
Un o'r pethau mwyaf unigryw am y Douglas Arms yw i gwsmeriaid dderbyn eu bil mewn hen arian tan y blynyddoedd diwethaf.
"Two pounds and eight shillings plîs," fyddai Geoffrey Davies yn ei ofyn am beint o gwrw yn hytrach na "£2.40 plîs!"
Eglura Christine: "Pan oedd y wlad yn troi'n decimal yn 1971 oedd fy nhad yn gwrthwynebu fo yn llwyr.
"Nath o ddeud 'Fydd hwn yn inflationary,' a 'Gewch chi weld, fydd mental arithmetics pobl yn cael eu hamharu', a mae hynna yn wir.
"Os oedd peint yn 37 pence ers talwm sy'n tua £1.75 heddiw, fasa fo byth yn deud 37 pence, bydda fo'n deud '1 pound 15 shillings plîs' a disgwl i chdi wbod faint oedd o. A dyna fu tan nath o farw yn 2014.
"Mi nath pobl ddechra 'nabod y Douglas fel 'y pub hen bres' a mi fedra i neud y conversion i bobl os ydyn nhw dal isio hynny ond mae llai a llai o bobl yn gofyn rŵan."
Enwogion y Douglas
Cwrw Bragdy Mŵs Piws, Porthmadog sy'n gwerthu orau yn y Douglas erbyn heddiw ond ers talwm "Blue Eleven oedd y bitter oeddan ni'n werthu, roedd Pedigree yn boblogaidd ac roedd pawb yn yfad mild hefyd," cofia Christine.
Ymysg yr enwogion sydd wedi torri syched yn y Douglas mae'r seren Hollywood, y diweddar Gregory Peck, y diweddar ganwr gwerin Jackie Leven, y cerddor Ralph McTell ac yn bwysicaf oll, Caradog Pritchard, brodor o Fethesda ac awdur clasur y Gymraeg, Un Nos Ola Leuad.
Meddai Christine: "Y Vic oedd lle Caradog rhan fwya' a phan oedd o a Mattie (ei wraig) yn dod i fyny o Lundain i aros, dwin siŵr mai yn y Vic oeddan nhw'n aros ond oedd Mattie yn ffrindia' mawr efo Nain ac ar ôl iddi farw, nath merch Caradog rhoi un o gadeiria' steddfod Caradog i ni yn y Douglas.
"Pan nath Dad farw, nath fy chwaer ofyn amdano fo a mae hi yn rhedag B&B yn Nolgella' felly mae'r gadair yn Nolgella' efo plac i ddeud be ydy o."
Cystadleuaeth tyfu garlleg
Er iddi dyfu fyny yng nghanol clebar locals wrth y bar, gorchmynion ei Nain Marjorie i baratoi hyn, llall ac arall i'r gwesteion, a rhefru ei Thad "am y pres decimal", yn 1997 dechreuodd siwrne Christine a'i phriod Gwyn fel landlordiaid y Douglas Arms.
Meddai Christine: "Mae Gwyn 'di neud lot o waith ar y lle, oedd o'n ofnadwy o run down. Mae o 'di bod yn amser reit heriol i ddeud y gwir, costau to newydd ac ati ond 'dan ni dal hefo locals briliant, pobl selog, a 'dan ni'n ffrindia' efo nhw bellach.
Dros gyfnod Christine a Gwyn fel landlordiaid, mae'r Douglas wedi bod yn lle canolog i wahanol gymdeithasau'r ardal gyfarfod gan gynnwys Clwb Mynydda Bethesda, Hogia'r Bonc a pharti canu Boncathod. Un o ddigwyddiadau mawr y Douglas yng ngofal Christine a Gwyn yw'r Gystadleuaeth Tyfu Garlleg flynyddol.
Eglura Christine: "Hwyl oedd y syniad i ddechra' ar ôl i ddau foi herian ei gilydd wrth y bar, ond nath dyn poblogaidd iawn yn y pentra, John Moriarty Owen farw yn ifanc felly nathon ni ddechra y gystadleuaeth i godi pres at elusenna' lleol er cof amdano fo.
"Mae rhedag y dafarn wedi bod yn rhan o berthyn i'r gymuned. Efo'r pentra' yma mae yna wastad gefnogaeth a phobl hael iawn. Mae Pesda fatha unrhyw gymuned fach, munud mae rhywun efo unrhyw fath o broblam, mae'r pentra tu ôl iddyn nhw, sy'n braf."
Dyfodol y Douglas
Wrth edrych ymlaen at seibiant a'i hymddeoliad hi a Gwyn fel landlordiaid, dymuno gweld perchnogion newydd y Douglas Arms yn "datblygu'r lle" mae Christine.
Meddai: "Os fydd o'n parhau fel tafarn fydd rhaid i betha' newid. Mae'r dyddia o dafarn jest i yfad wedi mynd, tydi pobl ddim yn yfad fel oeddan nhw a tydi pobl ddim yn mynd allan fel oeddan nhw. Mae'n rhaid i chi 'neud rwbath arall efo fo; rhaid i chi gael bwyd, rhaid i chi gael gweithgaredda' a phetha' 'mlaen i ddenu pobl.
"Fy ngobaith i ydy y bydd y Douglas yn parhau yn rwbath i'r pentra, fel'na mae cymuned yn para, ond does gen i ddim rheolaeth o hynna."
Hefyd o ddiddordeb: