Lefel diweithdra Cymru'n parhau'n gyson

  • Cyhoeddwyd
diweithdra

Mae'r nifer o bobl sy'n ddi-waith yng Nghymru yn parhau'n gyson, yn ôl y ffigurau misol diweddaraf.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau (ONS) bod 45,000 o bobl allan o waith yn y tri mis hyd at ddiwedd mis Mawrth.

Dyna oedd y ffigwr yn y tri mis hyd at ddiwedd mis Chwefror hefyd.

Mae gan Gymru raddfa ddiweithdra o 3%, ychydig yn llai na'r cyfartaledd ar draws y DU o 3.7%.

O'i gymharu â blwyddyn yn ôl, mae diweithdra wedi gostwng 23,000.

Ar draws y DU, mae nifer y swyddi gwag wedi cynyddu i lefelau uwch nag erioed - bron i 1.3 miliwn.

Dywedodd yr ONS - am y tro cyntaf ers i'r cofnodion ddechrau - fod mwy o swyddi gwag na phobl ddi-waith bellach.

Dadansoddiad Gohebydd Busnes BBC Cymru, Huw Thomas

Gall y raddfa ddiweithdra yng Nghymru ddim mynd lawer yn is, ond eto mae sectorau o'r economi'n dal i'w chael hi'n anodd dod o hyd i staff.

Tra bod cynnydd mewn cyflogau wedi eu hadrodd mewn sawl adran, dim ond rhai all gyfateb â chynnydd enfawr graddfa chwyddiant.

Mae'n golygu bod y rheiny mewn gwaith yn gorfod ymestyn eu cyflogau ymhellach er mwyn dal i fyny â chostau byw.

Mae cwmnïau sy'n ei chael hi'n anodd recriwtio hefyd yn wynebu penbleth ynglŷn â chynnig cyflogau uwch i ddenu a chadw staff, tra hefyd yn gweld eu costau'n cynyddu mewn adrannau eraill.

Pynciau cysylltiedig